Module Information

Cod y Modiwl
FG25520
Teitl y Modiwl
Ffiseg Arbrofol
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
PH15720 neu PH15510; a chwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol 22 dosbarth labordy (4 awr yr un)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Adroddiadau Ffurfiol  60%
Asesiad Semester Cyflwyniadau Grwp  20%
Asesiad Semester Adolygiadau Llenyddiaeth  20%
Asesiad Ailsefyll Fel a bennir gan y Bwrdd Arholi Adrannol  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:

  • cynllunio, gweithredu ac adrodd ar arbrawf gydag ond mewnbwn bychan iawn gan staff addysgu, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd mewn modiwlau blaenorol
  • . Chwilio am bapurau ac erthyglau ar destunau sy'n berthnasol i'r gwaith arbrofol a chyflwyno llyfryddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddalwedd gyffelyb

Nod

Mae'r modiwl yn anelu at ddatblygu sgiliau dadansoddi ac arbrofol angenrheidiol ar gyfer cyflawni arbrofion ffiseg o safon uwch. Yn neilltuol bydd y myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o offer, dadansoddi data a modelu cyfrifiadurol yn ogystal a chyfathrebu a gwerthuso beirniadol o'r canlyniadau arbrofol.

Disgrifiad cryno

Disgwylir i'r myfyrwyr gyflawni dau arbrawf yn ystod y semester. Argyfer pob modwl, bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o bedwar neu bump a bydd angen iddynt ymchwilio i gefndir yr arbrawf, archwilio'r offer sydd ar gael ac yna ddatblygu strategaeth arbrofol a dadansoddi'r canlyniadau. Caiff pob arbrawf ei asesu mewn tair ffordd; yn gyntaf bydd y grwp yn cynhyrchu adolygiad llenyddiaeth yn dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol i destunau sy'n berthnasol i'r arbrawf, yn ail bydd y grwp yn rhoi cyflwyniad llafar ar yr arbrawf, yn drydydd bydd adroddiad arbrawf ffurfiol yn cael ei ysgrifennu. Cyflwynir yr adroddiad yn unigol.

Cynnwys

Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir yr arbrofion, cyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion. Mewn cyferbyniad ag yn y flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio cefndir arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Mae modelu data a rheolaeth electronig offer yn rhan ganolog o'r modiwl. Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o datblygiad gyrfa myfyriwr.
Darperir goruchwyliaeth neu oruchwylydd cynorthwyol sy'n medru'r Gymraeg. Anogir y myfyrwyr i gyflawni cymaint o'r modiwl ag sy'n bosibl yn y Gymraeg, ond mae disgwyl iddynt roi cyflwyniad llafar yn Gymraeg.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Bydd y myfyrwyr yn cadw dyddiaduron labordy ac yn ysgrifennu adroddiadau ar arbrofion. Cydran bwysig yw'r cyflwyniad grŵp o'r canlyniadau arbrofol i'w cyd-fyfyrwyr. Bydd lyrhain yn datblygu sgiliau cyflwyno llafar yn ogystal â chyfathrebu ysgrifenedig.
Datrys Problemau Mewn cyferbyniad i'r flwyddyn gyntaf mae'r arbrofion yma yn fwy cymhleth ac yn cynrychioli pont rhwng Rhan 1 a'r projectau blwyddyn-olaf a gaiff eu harwain gan ymchwil. Nid oes datrysiadau rhwydd i'r arbrofion. Mae'n rhaid i'r grwpiau ymchwilio, cynllunio a gweithredu arbrofion a chyfathrebu y canlyniadau.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau o 4 neu 5. Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio a chyflawni arbrofion gyda chymorth gan staff. Y cymhelliad fodd bynnag yw i'r myfyrwyr arwain yr arbrofion a gweithio fel tim.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i raddedigion Ffiseg fod wedi datblygu sgiliau datrys problemau a thechnegau arbrofol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu'r set sgiliau yma. Mae'n paratoi'r ffordd i'r prosiectau blwyddyn olaf ac yn rhoi profiad i'r myfyrwyr o amgylchedd ffiseg arbrofol a datrys problemau. Mae'n rhan hanfodol o ddatblygiad gyrfa myfyriwr.
Sgiliau pwnc penodol Bydd y myfyrwyr yn cynefino gydag offer a data a gasglwyd gan arbrofion cyfredol. Mae'r modiwl yn ffocysu ar ddatblygu y set o sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer ffiseg arbrofol.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i'r myfyrwyr i ymchwilio i gefndir a chyd-destun yr arbrofion a bod yn ymwybodol o'r llenyddiaeth mwyaf diweddar sy'n berthnasol i'r arbrofion.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i'r myfyrwyr ymchwilio i gefndir yr arbrofion gan ddefnyddio chwiliadau rhyngrwyd a llyfrgell. Caiff y canlyniadau o'r chwiliadau eu cyflwyno mewn adolygiad llenyddiaeth gan ddefnyddio Endnote neu feddylwedd llyfryddiaeth gyffelyb.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5