Module Information
Cod y Modiwl
DA22110
Teitl y Modiwl
Tiwtorial Daearyddiaeth Lefel 2
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Daearyddiaeth Anrhydedd Sengl neu Gyfun fel arfer
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 (bob yn ail wythnos dros y ddau semester) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Bydd myfyrwyr syn methur modiwl fel arfer yn cael ailsefyll, ac felly bydd yn rhaid ail-gyflwyno aseseiniadau a fethwyd a chyflwyno unrhyw aseniadau na chyflwynwyd. Bydd marciau am yr aseiniadau a aseswyd eisoes, syn 35% neu fwy, yn cael eu cario ymlaen. Os na fydd amgylchiadau arbennig (e.e. salwch), y marc mwyaf y gellir ei gael ar aseiniadau a gyflwynir iw ailsefyll fydd 35%. | |
Asesiad Semester | Seiliwyd y dull asesu ar system raeadru y Coleg a ddefnyddir i bennuch gradd. Rhoddir pwysiad credyd o l i bob aseiniad, ar wahan ir papur ymchwil Anrhydedd Cyfun sydd a phwysiad credyd o 2, ac a fydd felly yn cael ei osod i mewn ddwy waith. Caiff eich marc cyfan felly ei gyfrif yn unol ar fformiwla canlynol:- (Dau farc uchaf x 3) + (Dau farc nesaf x 2) + (Dau farc isaf x 1) wedi eu rhannu a 12. Dylai myfyrwyr nodi bod mynychu dosbarthiadau tiwtorial yn orfodol, yn ogystal a chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau a osodir gan y tiwtor. Dylid cytuno ymlaen llaw gydar tiwtor ar unrhyw absenoldeb, a dylid rhoi gwybod iddo/iddi yn syth am unrhyw salwch. Daw trefn ddisgyblu i rym am absenoldeb nad ywn cael ei egluro. Bydd cyflwyno aseiniadau yn hwyr heb achos da ac heb ganiatad y tiwtor ymlaen llaw yn dwyn yn ei sgil gosbau fel a nodir ar dudalen 4. Gwaith Cwrs: | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- ysgrifennu ag arddull academaidd
- defnyddio technoleg gwybodaeth a hyder
- gwneud ymchwil yn annibynnol
- trin a thrafod dadleuon sy'r cadarnhau a gwrthgyferbynu ei gilydd
- dylunio cywaith ymchwil
- defnyddio'r gwasanaeth gyrfau
- rhoi cyflwyniad llafar
Amlinelliad o'r modiwl
Mae'r modiwl tiwtorial Lefel 2 yn orfodol i fyfyrwyr yr ail flwyddyn sy'n gwneud cynlluniau gradd Anrhydedd Sengl a Chyfun mewn Daearyddiaeth. Ni all myfyrwyr eraill ei gymryd ond trwy drefniant arbennig gyda Chydgysylltydd y Modiwl. Y mae'n fodiwl sy'n darparu sail i gyswllt arolygol clos a rheolaidd rhwng myfyrwyr a staff trwy gydol y flwyddyn.
Y mae iddo dri nod penodol. Yn gyntaf, gan ei fod yn ffynhonnell cyswllt clos, fe fydd yn ymdrin a phroblemau cyffredinol bugeiliol ac academaidd sy'n wynebu'r myfyrwyr yn ystod y flwyddyn. Yn ail, cynlluniwyd pob Modiwl Tiwtorial Daearyddiaeth yn ol maes llafur academaidd annibynnol. Yn Lefel 2 bydd hyn yn canolbwyntio ar theori daearyddiaeth a daearyddiaeth ymarferol ac ar feysydd trafod cyfoes mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daearyddiaeth Ddynol. Yn drydydd, bydd yn ymwneud a maes llafur ddiffiniedig o sgiliau astudio, a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymdrin yn fwy effeithol a gofynion astudiaeth academaidd, i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy, ac yn eu galluogi i fanteisio yn llawnach ar y posibiliadau a gynigir gan ein rhaglen.
GWAITH CWRS ACADEMAIDD
Bydd gwaith y cwrs academaidd ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a theori Daearyddiaeth a Daearyddiaethymarferol, yn ogystal a meysydd trafod cyfoes o fewn i'r pwnc. Yn y naill achos a'r llall, bydd y dosbarthiadau tiwtorial yndatblygu'r themau hyn o fewn i gyd-destun Daearyddiaeth Ffisegol neu Ddaearyddiaeth Ddynol, fel sy'n briodol i'r grwptiwtorial. Caiff y gwaith ei ddatblygu trwy gyfrwng trafodaeth a thraethodau tiwtorial, fel a nodir isod.
SGILIAU ASTUDIO
Bydd y sgiliau astudio a gynhwysir ym Modiwl Tiwtorial Lefel 2 yn ymdrin a'r canlynol:
RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:
1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.
2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth

- Gwaith prosiect/Traethawdau hir [yn cynnwys fformiwleiddio problemau/cynlluniau: ffynonellau gwybodaeth/technegau: paratoi llyfryddiaethau/telnet bids: technegau ysgrifennu adroddiadau]
- Cyflwyniadau Llafar
- Arweiniad gyrfa/hunan-asesu
- Mathau o syniadaeth ddaearyddol/gofodol/cyfunol/ecolegol/systematig/gwerthusol
RHAGLEN MODIWL
Yn ystod y semester cyntaf, bydd y modiwl tiwtorial yn canolbwyntio ar sgiliau astudio hanfodol ac ar natur trafodaeth
ddaearyddol. Seilir yr asesiad ar dri darn o waith i'w gyflwyno. Bydd rhain yn cynnwys.
- un darn o waith prosiect yn ymwneud ag un neu fwy o'r sgiliau astudio canlynol:- arweiniad gyrfa, hunan-asesu, cyflwyniad llafar, llyfryddiaeth
- dau draethawd academaidd ar bynciau y bydd y tiwtor yn penderfynu arnynt.
I fyfyrwyr anrhydedd sengl, bwriedir i'r semester roi cymorth uniongyrchol ar gyfer paratoi traethawd hir. Byddant yn paratoi i'w hasesu dri papur cefndirol o 1800 o eiriau ar y mwyaf. Nid tiwtor y modiwl o angenrheidrwydd fydd arolygydd y traethawd a rhagwelir na fydd trafodaeth gyda'r tiwtor yn digwydd tan yn nes at ddiwedd y modiwl. Bydd yr hyn a gynhwysir yn y tri phapur cefndirol fel a ganlyn:
1. Methodoleg ymchwil. Arolwg trosfwaol o'r methodolegu a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn daearyddiaeth ddynol neu ffisegol. Anogir myfyrwyr i fynegi bod yn well ganddynt un fethodoleg yn fwy na'r lleill. Gall hyn wedyn o bosibl ddarparu'r seiliau methodolegol ar gyfer gwaith traethawd.
2. Amgyffred problemau. Gofynnir i'r myfyrwyr amgyffred yn annibynnol dair problem ymchwil ar wahan wedi eu tynnu o dair cangen wahanol mewn daearyddiaeth. Gofynnir wedyn i'r myfyrwyr gyflwyno crynodeb ac arolwg o'r llenyddiaeth
Rhestr Ddarllen
P Cloke, C Philo & D Sadler (1991) Approaches to Human Geography. An Introduction to Contemporary Debates Chwilio Primo R H Haines-Young a J R Petch (1986) Physical Geography: Its Nature and Methods Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5