Module Information
Cod y Modiwl
DA12810
Teitl y Modiwl
Byw gyda Risg
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau. | 80% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad llafar unigol. | 20% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad dwy awr gydag atebion byr yn hytrach na thraethodau. | 80% |
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad llafar unigol. | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
- Arddangos dealltwriaeth o'r syniad o risg a sut y gellir ei ddadansoddi o safbwynt daearyddol.
- Trin a thrafod enghreifftiau penodol o risg a'r ffyrdd mae'r ddynoliaeth wedi ceisio ymateb i'r rhain.
- Dadansoddi'r berthynas rhwng dealltwriaethau academaidd a pholisi o risg.
- Paratoi cyflwyniad llafar a fydd yn trafod esiampl benodol o risg daearyddol.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i gyflwyno'r myfyrwyr i'r syniad o fyw gyda risg. Beth yn union yw risg? Ble mae risg? Sut mae unigolion, gwladwriaethau a'r ddynoliaeth yn ymateg i risg? Trafodir sawl math o risg sydd yn berthnasol i'r byd cyfoes - rhai dynol, ffisegol a rhai sy'n cyfuno elfennau dynol a ffisegol. Wrth drafod risg, denir sylw at ddaearyddiaeth risg. Yn ogystal, canolbwyntir ar y ffyrdd ymarferol, e.e. ym maes polisi^au cyhoeddus, mae'r ddynoliaeth wedi ymateb i risg.
Cynnwys
Bydd deg sesiwn o ddwy awr yr un a fydd yn cyfuno elfen o ddarlithio, trafodaethau seminar, tasgau grw^p a'r defnydd o fideo. Dyma strwythur y modiwl:
- Cyflwyniad: beth yw risg?
- Y twll yn yr haen oso^n.
- Newid hinsawdd.
- Brwydro dros ddw^r.
- Creu cyflenwadau bwyd diogel.
- Dygymod a^ thrychinebau 'naturiol'.
- Natur o dan fygythiad.
- Iechyd ac afiechyd.
- Creu byd 'diogel'.
- Heriau technoleg.
- Cyflwyniadau unigol gan y myfyrwyr
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar yn yr arholiad a'r cyflwyniad unigol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y pwyslais cyson yn y modiwl ar gyd-destunau polisi y syniad o risg o fudd i'r myfyrwyr wrth iddynt ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd. |
Datrys Problemau | Ni fydd hwn yn cael ei ddatblygu yn y modiwl. |
Gwaith Tim | Anogir y myfyrwyr i gwblhau tasgiau grw^p fel rhan o'r modiwl ond ni chaiff y medr hwn ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i'r myfyrwyr i gymryd cyfrifoldeb dros eu perfformiad eu hunain - yng nghyd-destun yr arholiad a'r cyflwyniad llafar - ond ni asesir hyn yn ffurfiol. |
Rhifedd | Bydd gwybodaeth rifyddol yn cael ei ddefnyddio yn y darltithoedd yn gyson ond ni chaiff y myfyrwyr eu hasesu wrth ddefnyddio'r wybodaeth hon. |
Sgiliau pwnc penodol | Ni ddatblygir y rhain fel rhan o'r modiwl. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio ar gyfer y cyflwyniad llafar ac ar gyfer yr arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth wrth baratoi ar gyfer y cyflwyniad llafar (e.e. Powerpoint). Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth ymchwilio ar gyfer yr arholiad a'r cyflwyniad llafar. |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydBeck, U. (1992) The Risk Society: Towards a New Modernity Sage Chwilio Primo Giddens, A. (1999) The Politics of Climate Change Polity Chwilio Primo Ingram, A. a Dodds, K. (2009) Spaces of Security and Insecurity: Geographies of the War on Terror Ashgate Chwilio Primo Lang, T., Barling, D., a Caraher, M. (2009) Food Policy: Integrating Health, Environment and Society Gwasg Prifysgol Rhydychen Chwilio Primo Pain, R. a Smith, S.J. (2008) Fear: Critical Geopolitics and Everyday Life Ashgate Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4