Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Dylid ailgyflwyno gwaith na lwyddodd i gyrraedd y marc llwyddo. | |
Asesiad Semester | Pecyn Pecyn: darn creadigol gorffenedig (1,000 o eiriau) ac ymateb beirniadol iddo (750 o eiriau) a ddeilliodd o ddau o’r gweithdai ar y modiwl hwn, sef 3,500 o eiriau i gyd. | 70% |
Asesiad Semester | Dyddlyfr hunanfyfyriol Dyddlyfr hunanfyfyriol ar BwrddDu ar y gyfres o weithdai ar ei hyd (1,500 o eiriau). | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos y gallu i gynhyrchu darnau o waith creadigol (ar ffurf barddoniaeth neu ryddiaith) ar themâu rhagosodedig y gweithdai.
Medru trafod gwaith ar y gweill yn ystod y gweithdy ac ymateb i’r feirniadaeth adeiladol honno.
Cyfrannu yn briodol ar lafar at drafodaethau llenyddol/beirniadol yn ystod y gweithdai.
Llunio dau ddarn o waith creadigol gorffenedig, ynghyd ag adroddiad hunanfyfyriol beirniadol arnynt, sy’n dangos sut y penderfynwyd ar ffurf derfynol y gwaith.
Disgrifiad cryno
Cyfres o weithdai ar agweddau ymarferol a chreadigol y diwydiant cyhoeddi creadigol, gyda chymorth siaradwyr gwadd o’r diwydiant creadigol a chyhoeddi yng Nghymru.
Cynnwys
• Llên meicro: Mihangel Morgan (mewnol); Dylan Iorwerth (allanol).
• Ysgrifennu i blant: Huw Meirion Edwards (mewnol); Gordon Jones, Manon Steffan Ros, Angharad Tomos (allanol).
• Cwrdd â'r golygydd a golygu creadigol: Huw Meirion Edwards a Cathryn Charnell-White (mewnol); Elin ap Hywel (allanol), Nia Peris, Mererid Wyn James (Y Lolfa), Marian Beech-Hughes, Anwen Pierce (CLlC) Cathryn Gwyn (Gomer)
• Nofelau hanesyddol: Mihangel Morgan, T. Robin Chapman (mewnol); Wiliam Owen Roberts (allanol)
• Llên natur a'r amgylchedd; tirluniau emosiynol: Cathryn Charnell-White (mewnol); Siân Melangell Dafydd, Damian Walford Davies, Gwyn Thomas (allanol).
• Y nofel gyntaf: Mihangel Morgan, Miriam Elin Jones (mewnol); Caryl Lewis, Owen Martell, Manon Steffan Ros, Catrin Dafydd (allanol).
• Ysgrifennu yn y ddwy iaith: Owen Martell, Catrin Dafydd, Gwyneth Lewis, Fflur Dafydd; Jon Gower, Tony Bianchi (allanol).
• Syrjeri cynghanedd: Huw Meirion Edwards, Hywel Griffiths (mewnol); Eurig Salisbury (allanol)
• Yn y dyfodol, gellid cynnal gweithdy sgriptio ar y cyd gyda Theatr, Ffilm a Theledu.
Disgwylir i fyfyrwyr baratoi darn o waith creadigol (naill ai farddoniaeth neu ryddiaith) ar gyfer pob gweithdy, i’w gyflwyno ymlaen llaw. Bydd y gweithdy yn cynnwys sgyrsiau gan siaradwyr mewnol a siaradwyr gwadd; cyfle i holi cwestiynau ac i drafod y gwaith creadigol yng ngoleuni’r sgyrsiau; cyfle am adborth unigol gyda’r cyfranwyr mewnol ac allanol.
Nod
Nod y modiwl yw cyflwyno dimensiwn ychwanegol i’r cynllun MA ar ffurf pynciau a themâu nad ydynt, o reidrwydd, yn eistedd yn daclus â rhesymeg modiwlau eraill y cynllun. Mae’r fformat gweithdy dwys a arweinir ar y cyd gan siaradwyr mewnol ac allanol yn caniatáu pontio rhwng cymuned greadigol Adran y Gymraeg a’r diwydiant creadigol cenedlaethol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Llunio darn o waith creadigol; trafod y darn hwnnw yng nghyd-destun thema benodol y gweithdy. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Gweler rhif 4. |
Datrys Problemau | Ymateb i feirniadaeth adeiladol. |
Gwaith Tim | Ceir cyfle i drafod mewn grŵp yn ystod y gweithdai. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y gweithdai yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod drafftiau cynnar gydag arbenigwyr mewnol ac allanol; bydd yr adroddiad beirniadol ar bob tasg ysgrifenedig yn amlygu effaith y gweithdai trwy esbonio’r datblygiad rhwng y drafftiau cynnar a’r darnau gorffenedig. Bydd y dasg hunanfyfyriol yn gyfle i roi sylw i berfformiad a datblygiad personol yr unigolyn. |
Rhifedd | amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Mae’r sgiliau a ddatblygir oll yn benodol i’r pwnc. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio a pharatoi darn o waith creadigol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir Microsoft Office i gynhyrchu’r gwaith gorffenedig. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7