Module Information
Manylion y cyrsiau
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailgyflwyno unrhyw elfennau na lwyddodd a/neu darparu unrhyw elfennau coll. | |
Asesiad Semester | Cadw Dyddlyfr hunanfyfyriol BwrddDu AberLearn er mwyn olrhain eu datblygiad parhaus (1,000 o eiriau). | 20% |
Asesiad Semester | Cyfansoddi 2 darn rhyddiaith gwreiddiol (1,000 o eiriau yr un), ynghyd ag esboniad beirniadol 1,500 o eiriau i gyd-fynd â’r casgliad. | 60% |
Asesiad Semester | Dadansoddiad o ffurf testun rhyddiaith (1,000 o eiriau). | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu dealltwriaeth o’u hymarferion eu hunain ym maes ffurf (y nofel neu’r stori fer, ac ati) gan ystyried eu cryfderau a’u nodweddion eu hunain fel awduron. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
dangos dealltwriaeth o’r posibiliadau sydd ar gael i awduron wrth gyflwyno deunydd ac o’r canlyniadau sy’n deillio o ddewis un ffurf rhagor nag un arall. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
dangos dealltwriaeth o’r agweddau allweddol ar y berthynas rhwng testunau a chyd-destunau; dangos ymchwil ffeithiol briodol. Disgwylir gweld hyn ar waith yn eu gwaith creadigol a beirniadol.
medru strwythuro a llunio stori fer, pennod o nofel, llên meicro.
Cynnwys
Cynigir yr arlwy ganlynol mewn sesiynau dwyawr (darlith a seminar/gweithdy):
Ffurf
• Rhagarweiniad (1 sesiwn dwyawr)
• confensiynau’r stori fer (4 sesiwn dwyawr);
• y nofel (2 sesiwn dwyawr);
• y nofelig (2 sesiwn dwyawr);
• llên meicro (1 sesiwn dwyawr).
Nid anelir y modiwl hwn at ddechreuwyr pur yn y maes. Disgwylir y bydd gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn rhyddiaith yn barod ac y byddant eisoes wedi cynhyrchu peth gwaith creadigol. E.e. mae’n bosib y byddai rhai myfyrwyr wedi cyfansoddi straeon byrion ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol neu ar gyfer y modiwl Ysgrifennu Creadigol israddedig.
Nod
Trwy ganolbwyntio ar ffurf, bwriad y modiwl hwn yw ehangu ymwybyddiaeth myfyrwyr o’r posibiliadau creadigol sydd ar gael i awduron rhyddiaith cyfoes yng Nghymru a thu hwnt a, thrwy hynny, i ymestyn ffiniau eu creadigrwydd.
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl ymarferol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu rhychwant eang o ddulliau ysgrifennu rhyddiaith ac yn rhoi canllaw iddynt ymateb i ofynion llenyddol yn ôl natur y testun, y gynulleidfa, y genre a’r arddull.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Mae cyfathrebu effeithiol yn hanfodol i’r seminarau a gynhelir ar y modiwl hwn; disgwylir i fyfyrwyr ddangos dealltwriaeth systematig ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfoes a damcaniaethau newydd mewn trafodaethau ynghylch rhyddiaith a’i ffurfiau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nid felly, heblaw fod y modiwl hwn (a’r cynllun MA y mae’n perthyn iddo) yn dwyn perthynas amlwg â gyrfa ym maes ysgrifennu, ymchwil academaidd, neu’r diwydiant creadigol. Gw. hefyd 9 isod. |
Datrys Problemau | Bydd problemau sy’n deillio o’r broses greadigol ymarferol yn cael eu datrys gan fyfyrwyr mewn seminarau ac yn eu haseiniadau ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | Na. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i fyfyrwyr allu cynhyrchu gweithiau rhyddiaith yn effeithiol, a gwella eu gwaith mewn ymateb i feirniadaeth adeiladol eu tiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr |
Rhifedd | Amherthnasol. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn datblygu’r gallu i gynhyrchu a golygu testun(au) rhyddiaith i safon broffesiynol a soffistigedig. Anogir myfyrwyr i gyhoeddi eu gwaith ar Flog Adran y Gymraeg ac mewn cylchgronau llenyddol proffesiynol megis Taliesin, Tu Chwith, ‘Y Neuadd’ |
Sgiliau ymchwil | Mae sgiliau ymchwil yn hanfodol i’r aseiniadau a osodir ar gyfer y modiwl hwn: disgwylir i fyfyrwyr ennill gwybodaeth am hanes, diwylliant a damcaniaethau beirniadol drwy astudio a dadansoddi rhychwant o destunau rhyddiaith o wahanol gyfnodau hanesyddol. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr brosesu geiriau, a dangos ymwybyddiaeth ynghylch llunio a chyhoeddi testunau electronig. Defnyddio BwrddDu AberLearn |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7