Module Information
Cod y Modiwl
BG32300
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 x 1 awr darlith (1 awr) - semester 1 |
Seminarau / Tiwtorialau | 12 x 1 awr cyfarfod cynnydd awr yr un gyda goruchwyliwr - semester 2 |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Ymddygiad myfyriwr | 15% |
Asesiad Semester | Traethawd estynedig | 75% |
Asesiad Semester | Seminar ymchwil | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i ymgeiswyr wneud elfennau asesu sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Asesu a gwerthuso gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau.
2. Adnabod a defnyddio technegau priodol i ddadansoddi data.
3. Dod i gasgliadau a thrafod y rhain mewn perthynas a gwybodaeth sy'n bodoli eisoes yn y maes.
4. Tynnu sylw at gwestiynau heb eu hateb a meysydd dadleuol yn eu maes ymchwil.
5. Llunio awgrymiadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.
6. Arddangos sgiliau TG ac ysgrifennu gwyddonol priodol.
7. Dangos cryn dipyn o annibyniaeth yn eu gwaith.
Cynnwys
Bydd y modiwl hwn yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr gynnal ymchwil fanwl ar bwnc sy'n berthnasol i'w gradd. Bydd llawer o brosiectau yn seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes; bydd eraill yn golygu cynnal ymarfer modelu ar gyfrifiadur yn seiliedig ar ffynonellau data eilaidd, neu ddatblygu cynllun busnes manwl. Bydd eraill wedyn yn cynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth gyhoeddedig. Ym mhob prosiect, waeth beth fo'i ddull, mae'n rhaid i fyfyrwyr weithio'n annibynnol dan arweiniad goruchwyliwr, ynghyd a chynnal adolygiad o lenyddiaeth, gwneud gwaith ymchwilio a dadansoddi, datblygu casgliadau ac argymhellion addas, a chyflwyno'r rhain ar ffurf traethawd estynedig (dim mwy na 8,000 o eiriau).
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu hymddygiad (15% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr), y traethawd estynedig a gyflwynir ganddynt (75% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr / ail aseswr), a chyflwyniad o'u prosiect ar ffurf seminar ymchwil (10% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr / ail aseswr).
Erbyn diwedd yr ail flwyddyn, rhoddir prosiect i fyfyrwyr, penodir goruchwyliwr iddynt, a byddant wedi cyflwyno cynllun ymchwil manwl fel rhan o'u modiwl Dulliau Ymchwil. Mae'r modiwl hwn wedyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu cynlluniau ar waith.
Bydd natur y traethawd estynedig yn adlewyrchu diddordebau myfyrwyr unigol ac er y bydd yna amrywiaeth pwyslais yn y gwaith, bydd pob prosiect yn dilyn yr un rheoliadau a rhaid iddynt anelu at gyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gadw mewn cysylltiad rheolaidd a'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semester) i drafod cynnydd.
Bydd myfyrwyr yn cael eu hasesu ar eu hymddygiad (15% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr), y traethawd estynedig a gyflwynir ganddynt (75% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr / ail aseswr), a chyflwyniad o'u prosiect ar ffurf seminar ymchwil (10% wedi'i ddyfarnu gan oruchwyliwr / ail aseswr).
Erbyn diwedd yr ail flwyddyn, rhoddir prosiect i fyfyrwyr, penodir goruchwyliwr iddynt, a byddant wedi cyflwyno cynllun ymchwil manwl fel rhan o'u modiwl Dulliau Ymchwil. Mae'r modiwl hwn wedyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr roi eu cynlluniau ar waith.
Bydd natur y traethawd estynedig yn adlewyrchu diddordebau myfyrwyr unigol ac er y bydd yna amrywiaeth pwyslais yn y gwaith, bydd pob prosiect yn dilyn yr un rheoliadau a rhaid iddynt anelu at gyflawni'r un amcanion dysgu. Disgwylir i fyfyrwyr gadw mewn cysylltiad rheolaidd a'u goruchwyliwr (o leiaf unwaith bob pythefnos yn ystod y semester) i drafod cynnydd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd yn rhaid i fyfyrwyr draddodi seminar ymchwil ar eu prosiect, gan brofi eu gallu i gynhyrchu gwaith ysgrifenedig wedi'i strwythuro'n glir a meddu ar lythrennedd llafar. Bydd myfyrwyr sy'n gwneud prosiect ymchwil sy'n cynnwys arbrofion hefyd yn datblygu sgiliau gwrando effeithiol wrth gael cyfarwyddyd a hyfforddiant. Datblygir llythrennedd ysgrifenedig hefyd drwy lunio'r traethawd ymchwil. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Mae'r sgil hon yn elfen allweddol o'r modiwl, anogir myfyrwyr i ddadansoddi data cynradd ac/neu eilaidd yn feirniadol, nodi ffactorau a allai ddylanwadu ar atebion posibl, a meddwl yn greadigol i ddatblygu atebion priodol. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd y modiwl hwn yn helpu myfyrwyr i ddatblygu a chymhwyso strategaethau hunanreoli a dysgu realistig. Bydd myfyrwyr yn llunio cynlluniau gweithredu personol i gynnwys nodau ac amcanion byr-dymor a hirdymor, ac i adolygu a monitro cynnydd, ac yna yn adolygu cynlluniau gweithredu fel y bo'n briodol i wella perfformiad cyffredinol. Cyflwynir y rhain i'r goruchwylwyr i'w cynorthwyo wrth benderfynu ar y marc priodol ar gyfer ymddygiad myfyrwyr. |
Rhifedd | Bydd y modiwl hwn yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr ddatblygu ymwybyddiaeth fathemategol gyffredinol a'i defnyddio mewn cyd-destunau ymarferol (e.e. mesur, pwyso a chymhwyso fformiwlâu). Bydd myfyrwyr hefyd yn cael gafael ar wybodaeth fathemategol ac ystadegol ac yn ei dehongli. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd y sgiliau pwnc-benodol a ddatblygir yn dibynnu ar y prosiect ymchwil a wneir e.e. hyfforddiant mewn dadansoddi a dilyniannu DNA. |
Sgiliau ymchwil | Mae hwn yn fodiwl sy'n seiliedig ar ymchwil ac mae'n gofyn i fyfyrwyr ddeall a gwerthuso ystod o ddulliau a gweithdrefnau ymchwilio, ynghyd â chynllunio eu hymchwil a mynd ati i'w wneud, a llunio adroddiad academaidd (traethawd estynedig). |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddir amrywiaeth o sgiliau TG yn ystod y modiwl hwn. Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau wrth baratoi a mewnbynnu data, creu taenlenni a phrosesu geiriau a defnyddio rhaglenni dadansoddi ymchwil-benodol i ddadansoddi canlyniadau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6