Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 6 awr |
Other | 2 sesiwn datrys problemau ar y cyd. |
Other | Cyfarfodydd â'r goruchwyliwr, yn ôl yr angen |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Traethawd Estynedig (8,000 - 10,000 o eiriau ar y pwnc a gymeradwywyd) | 100% |
Supplementary Assessment | Traethawd Estynedig (8,000 - 10,000 o eiriau ar yr un pwnc) | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
1. Dangos gwerthfawrogiad o bosibiliadau ymchwil pynciau trwy adnabod testun hyfyw i ymchwilio iddo;
2. Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, yn arbennig trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau a dangos gallu i werthuso a blaenoriaethu'r ffynonellau pwysicaf;
3. Cynllunio, trefnu ac amserlennu darn o waith ymchwil y gellir ei gynnal dros gyfnod o rai misoedd;
4. Trefnu syniadau a rhoi deunyddiau mewn trefn i gyflwyno'r ddadl, y gwerthusiad beirniadol, y data a'r sylwadau clo yn effeithiol;
5. Dadansoddi'n feirniadol a gwerthuso'r deunydd troseddegol a seicolegol;
6. Rhoi cyflwyniad eglur, cywir, dadansoddol a darllenadwy o'r pwnc dan sylw.
Brief description
Mae'r modiwl hwn yn cynnwys ymarfer ymchwil ac ysgrifennu troseddegol dros gyfnod sy'n ymwneud â phwnc arbennig yn hytrach nag wedi'i seilio ar gwrs astudio rhagnodedig. Y myfyriwr fydd yn dewis pwnc i'w ymchwilio'n fanwl gyda chymeradwyaeth yr Adran a throsglwyddo i gamau ymchwilio ac ysgrifennu'r ymarfer dan gyfarwyddyd aelod o'r staff sy'n arbenigo ym maes y traethawd estynedig.
Content
2. Pynciau Moesegol;
3. Llên-ladrad;
4. Ysgrifennu'r traethawd;
Bydd y pwnc sylwedd yn cael ei ddewis gan y myfyriwr yn dilyn cyngor a chymeradwyaeth y staff.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Bydd nifer o'r testunau yn cynnwys gwaith dadansoddol ystadegol cymhleth fydd angen ei ddeall a'i werthuso. |
Communication | Anogir cyfathrebu ar lafar trwy drafod syniadau a mynegi'r problemau sy'n gysylltiedig â'r ymchwil mewn cyfarfodydd gyda'r goruchwyliwr. Atgyfnerthir cyfathrebu ysgrifenedig drwy baratoi cyflwyniad eglur, cywir a darllenadwy o'r pwnc dan sylw. |
Improving own Learning and Performance | Trwy ddatblygu corff sylweddol o wybodaeth a'r angen i ddod o hyd i ddeunyddiau perthnasol a'u trefnu, bydd y myfyriwr yn dysgu i ddatblygu technegau academaidd mwy effeithiol. |
Information Technology | Dod o hyd i'r deunyddiau perthnasol, trwy ddefnyddio canllawiau llyfryddiaethol a chronfeydd data pynciau yn arbennig; Paratoi'r aseiniad yn electronig. |
Personal Development and Career planning | Gallu meddwl yn annibynnol ac yn feirniadol yn well. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith ar amser. |
Problem solving | Mae gosod pwnc hyfyw i ymchwilio iddo, gosod cwestiwn ymchwil a gweithio tuag at ei ateb yn cynnwys sgiliau datrys problemau a bydd gwneud hynny yn atgyfnerthu ac yn defnyddio sgiliau a ddatblygwyd eisoes. |
Research skills | Mae datblygu sgiliau ymchwil yn hanfodol mewn modiwl traethawd estynedig. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Gelwir nifer o gyfarfodydd i roi cyfle i'r myfyrwyr, dan gyfarwyddyd, drafod a chymharu'r problemau a wynebwyd a'r atebion posibl iddynt. |
Notes
This module is at CQFW Level 6