Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 x 1 awr darlith yr wythnos (11 awr) |
Eraill | 2 x 2 awr gweithdai (4 awr) |
Eraill | 1 x 3 awr ymweliad (3 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Adroddiad gwerthuso a chyflwyniad. | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio rheoli prosiect. | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau or asesiad syn cyfateb ir hyn a arweiniodd at fethur modiwl. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Dadansoddi gweithgareddau a pherfformiad gweithle/sefydliad/busnes
2. Asesu gwerth a rol y swydd a'i pherthnasedd i yrfa yn y dyfodol
3. Disgrifio, ar gyfer prosiectau mewn diwydiannau'r tir, eu mathau a'u nodweddion, strategaethau ar gyfer cynllunio, a chofnodi gweithgareddau
4. Cynllunio, trefnu a pharatoi cyllideb ar gyfer prosiect gwaith pwnc-benodol priodol.
5. Cyfathrebu drwy ddefnyddio cyfryngau priodol ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cyflwyno nodweddion gwahanol fathau o brosiectau yn niwydiannau'r tir a sut i lunio cynlluniau prosiect gyda nodau, amcanion a chaffael adnoddau. Bydd yn datblygu strategaethau ar gyfer gweithgareddau cynllunio a chofnodi. Amlinellir sut i werthuso effeithiolrwydd galluoedd gwaith staff a rhoi ar waith raglenni gwaith gydag amcanion realistig i weithlu. Asesir y gwahanol fathau o gyfryngau cyfathrebu a'u defnydd ar gyfer gwahanol nodau a chynulleidfaoedd.
Cynnwys
Caffael adnoddau a rheoli cyllideb.
Cynllunio gweithgareddau a chofnodi'r canlyniadau.
Rheoli staff a chynllunio amcanion y gweithlu.
Rol cyfathrebu a meithrin tim.
Mathau o gyfryngau a'u defnyddiau posibl.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | Ymarfer costio a chynllun technegol |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Gwneir hyn trwy’r aseiniadau |
Technoleg Gwybodaeth | Cyflwyno data mewn aseiniadau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5