Module Information

Cod y Modiwl
GF39520
Teitl y Modiwl
Traethawd Estynedig 1 (sem 2)
Blwyddyn Academaidd
2014/2015
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
GF10110 / GF14230 / GF14720 / GF30110 / GF34230 / GF34720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 5 awr.
Seminarau / Tiwtorialau Seminarau. Trefnwyd goruwchwyliaeth gan y goruwchwyliwr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd estynedig  o 6000-10000 o eiriau. Bydd angen cyflwyno'r adroddiad ymchwil yn ystod wythnos 8 y semester perthnasol. Os na chyflwynir adroddiad ymchwil boddhaol, caiff 5 marc eu tynnu o farc terfynol y traethawd estynedig.  100%
Asesiad Ailsefyll Traethawd estynedig  Traethawd estynedig o 6000-10000 o eiriau. Os yw myfyriwr yn methu'r asesiad ac yn dymuno ei ail-sefyll, rhaid iddo/iddi ail-gyflwyno'r traethawd ar bwnc sydd o ran sylwedd yn debyg i'r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol. Darperir adborth ar y traethawd gan y goruchwyliwr gwreiddiol, neu os nad yw hyn yn bosibl, gan gydlynydd y modiwl. Ni chaniateir goruchwyliaeth ychwanegol na goruchwyliwr. Nid oes yn rhaid cyflwyno cynllun diwygiedig. Caniateir ir myfyriwr fynychu unrhyw or darlithoedd sydd yn rhan or modiwl os ywn dymuno, a gall godi unrhyw gwestiynau cyffredinol gyda chyd-lynydd y modiwl.  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Gellir crynhoi amcanion yr elfennau o hyfforddiant ymchwil fel a ganlyn:

a. datblygu ymwybyddiaeth o botensial testun ar gyfer ymchwil drwy ddewis pwnc addas

b. datblygu sgiliau ymchwilio megis lleoli gwybodaeth berthnasol, yn enwedig drwy lyfryddiaeth a chronfeydd data

c. datblygu sgiliau cynllunio, trefnu ac amserlennu gwaith estynedig dros gyfnod o fisoedd

d. datblygu sgiliau i osod syniadau a gwybodaeth mewn trefn er mwyn cyflwyno'r ddadl a'r wybodaeth yn effeithiol

e. datblygu sgiliau ysgrifennu academaidd er mwyn cyflwyno datganiad clir, deallus a darllenadwy o'r pwnc dan sylw ar ffurf sylweddol o 6000-10000 o eiriau.

Nod

Meithrin sgiliau a gysylltir a darn helaeth o ymchwil, yn enwedig gan fod y sgiliau hyn yn wahanol i'r rhai a ddatblygir drwy'r prosesau dysgu ar gyfer modiwlau a asesir drwy arholiad.

Disgrifiad cryno

Modiwl tra gwahanol yw'r modiwl hwn o gymharu a modiwlau eraill yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, gan ei fod yn ymdrin a gwaith ymchwil ac ysgrifennu estynedig ar bwnc arbennig yn hytrach na phwnc a arweinir gan y darlithwyr. Mater ydyw i'r myfyriwr unigol i ddewis eu maes pwnc ar gyfer ymchwil manwl gydag arweiniad a sel bendith gan yr Adran. Yna, mater iddo/iddi ydyw i ymchwilio ac ysgrifennu am y testun o dan oruchwyliaeth aelod o staff sydd ag ymwybyddiaeth o'r maes pwnc sydd yn gefndir i'r testun. Pwrpas y modiwl yw meithrin sgiliau ymchwilio ac ysgrifennu, a chan hynny, adeilada ar yr wybodaeth a'r hyfforddiant ar ddefnyddio adnoddau'r llyfrgell a enillwyd yn y modiwl Proses Gyfreithiol. Dibynna'r gallu i ymchwilio yn effeithiol ar y gallu i ddefnyddio ystod eang o adnoddau llyfrgell ac i ganfod adnoddau drwy ddefnyddio cronfeydd data a theclynnau llyfryddiaeth. Rhoddir arweiniad gan y goruchwyliwr drwy gyfres o gyfarfodydd lle disgwylir i'r myfyriwr adrodd ar ddatblygiad yr ymchwil a chyflwyno drafftiau ysgrifenedig er mwyn derbyn adborth. Rol y goruchwyliwr yw cynghori'r myfyriwr ynghylch y dulliau ymchwil a ddefnyddir a sut i gyflwyno'r canlyniadau yn y traethawd ei hunan.

Anelir y modiwl Traethawd Estynedig 1 at fyfyrwyr sydd yn ymgymryd a gwaith ymchwil am y tro cyntaf.

Diben asesu'r adroddiad ymchwil yw cefnogi myfyrwyr yn eu gwaith ymchwil a'r galluogi i wella eu perfformiad yn gyffredinol. Asesir y modiwl drwy iddo gael ei ddarllen gan y goruchwyliwr fel yr arholwr cyntaf, a chan aelod arall o staff fel ail arholwr, a chan arholwr allanol lle bo hynny'r briodol. Asesir y modiwl gan gyfeirio at feini prawf sydd yn ystyried a yw'r ymchwil yn effeithiol a digonol, a hefyd ar gyflwyniad y deunydd a'r dadleuon. Gan hynny, prif nod yr ymchwil yw asesu'r gallu i weithio'r gymharol annibynnol, i ganfod a threfnu deunydd priodol ac i gyfathrebu'r effeithiol yn ysgrifenedig.

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Foster, Steve (2009) How to write better law essays 2nd ed. Pearson Education Ltd Chwilio Primo Hutchinson, Terry C. M. (2006) Researching and writing in law 2nd ed. Lawbook Co. Chwilio Primo Huxley-Binns, Rebecca. (2008) Unlocking legal learning 2nd ed. Hodder Arnold Chwilio Primo Robson, Colin. (2007) How to do a research project Blackwell Pub. Chwilio Primo Salter, Michael and Mason, Julie (2007) Writing law dissertations Longman Chwilio Primo Strong, Stacie I. (2006) How to write law essays and exams 2nd ed. Oxford University Press Chwilio Primo Swetnam, Derek. (2010) Writing your dissertation 3rd ed. How to Books Chwilio Primo Walliman, Nicholas S. R. (2004.) Your undergraduate dissertation :the essential guide for success SAGE Chwilio Primo Webley, Lisa. (2005) Legal writing Cavendish Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6