Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr yn Saesneg |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu (Semester 1) | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad ar ddiwedd Semester 2. Arholiad Llyfr Agored yw hwn. Caiff ymgeiswyr ddod ag unrhyw ddeunydd i mewn i'r arholiad, ac eithrio llyfrau llyfrgell. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu - os methir yr elfen hon | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad - os methir yr elfen hon . Arholiad Llyfr Agored yw hwn. Caiff ymgeiswyr ddod ag unrhyw ddeunydd i mewn i'r arholiad, ac eithrio llyfrau llyfrgell. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy'r rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.
Disgrifiad cryno
Disgrifiad cyffredinol
Dechreuwn trwy astudio Cyfraith Tresmasiad, ac yna symudwn at Esgeuluster yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn gweld nid yn unig sut mae polisiau cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar bwnc atebolrwydd am fai ac amrediad posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd sut maent wedi effeithio ar strwythur dadansoddol camwedd Esgeuluster. Rhan fywiog o'r gyfraith yw hon. Mae wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae'n faes dadleuol o hyd. Mae'r cwrs ynogystal yn delio a chamweddau eraill, yn enwedig y rhai sy'r ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans. Mae'r cwrs yn ei grynswth yn trafod sut mae'r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol ar osgoi difrod, ac mae'n hanfodol nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd yng nghyswllt llawer o feysydd eraill y gyfraith.
Nod
Yn ogystal a rhoi sylfaen gadarn yng nghyfraith camwedd, mae'r cwrs yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o'r modd y mae'r gyfraith gyffredin yn gweithredu. Dyma gyfrwng perffaith i feithrin yn arbennig sgiliau dadansoddi sy'n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae'n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a'r gallu i feddwl yn rhesymegol, yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae penderfyniadau wedi eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Mae'n bwnc sy'n rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ac o'r herwydd byddwch yn meithrin sgiliau da mewn gwneud ymchwil i achosion, ar bapur a thrwy chwilio drwy amrywiaeth o gronfeydd data. Fe wnewch hyn nid yn unig wrth weld y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd wrth ddeall sut y datblygir cynsail a sut y mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.
Cynnwys
Dysgir Cyfraith Camwedd trwy gyfrwng darlithiau a seminarau. Bydd y darlithiau'n cynnig golwg ar strwythur y gyfraith a sut y gellir dadansoddi achosion i greu'r egwyddorion sydd y tu ol i'r pwnc. Gan fod Cyfraith Camwedd yn rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ni fydd y darlithiau'n cynnig datganiad diffiniadol o reolau'r gyfraith ond yn hytrach bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i wneud eu hasesiad eu hunain o ystyron yr achosion. Mae darllen yr achosion a argymhellwyd yn hanfodol, a bydd seminarau'n cynnig fforwm i drafod sut mae deall a chymhwyso cyfraith achosion yn gywir. Trwy hynny bydd y myfyrwyr yn magu profiad o egluro syniadau cymhleth. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu dau draethawd yn ystod y flwyddyn, a bydd mynegiant eglur a dadansoddi gramadegol yn angenrheidiol.
Maes Llafur:
1. Egwyddorion Cyffredinol
2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Cyfraith Camwedd
TRESMASIAD
3. Tresmasiad ar yr Unigolyn
(a) Curo ac ymosod
(b) Peri gofid emosiynol yn fwriadol
(c) Camgarcharu
(ch) Amddiffyniadau i dresmasiad ar yr unigolyn
4. Tresmasiad ar Dir
5. Ymyrraeth Fwriadol a Theclynnau
(a) Tresmasiad ar Nwyddau
(b) Trosiant
6. Tresmasiad ac Esgeuluster
ESGEULUSTER - YR EGWYDDORION SYLFAENOL
7. Dyletswydd Gofal
Ystyr dyletswydd
8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Sgil y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd
9. Prawf o Esgeuluster
10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Difrod
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd difrod
ESGEULUSTER - PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH
12. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus
13. Sioc Nerfol
14. Camddatganiad Esgeulus
15. Colled Economaidd - Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig
16. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeuluster
(c) Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987
17. Plant Heb eu Geni
AMDDIFFYNIADAU
18. Esgeuluster Cyfrannol
19. Caniatad
(a) Effaith hysbysiad
(b) Caniatad - volenti non fit injuria
ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL
20. Atebolrwydd Dirprwyol
(a) Y theori gyfreithiol
(b) Natur `cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol/yr hunangyflogedig
CAMWEDDAU PELLACH
21. Tor-ddyletswydd Statudol
22. Atebolrwydd Deiliad
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr
23. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat
24. Atebolrwydd Caeth: Rylands v Fletcher
25. Atebolrwydd am Danau
26. Atebolrwydd am Anifeiliaid
27. Difenwad
Rhestr Ddarllen
HanfodolKidner, Richard (2010) Casebook on Torts 11th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Cooke, John (2009) Law of Tort 9th ed. Longman Chwilio Primo Street, Harry (2007) Street on Torts 12th ed. Oxford University Press Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6