Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr. Yn Saesneg. |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. (Ail Semester) | 60% |
Asesiad Semester | Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu (Ail Semester) | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. - os methir yr elfen hon | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2000 o eiriau i'w asesu - os methir yr elfen hon | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Egluro a dadansoddi arwyddocâd strwythurau cyfansoddiadol a sefydliadol sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd.
2. Dangos tystiolaeth o fod wedi cwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel uwch o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau cynradd ac eilaidd cyfraith Ewrop yn ogystal â safbwyntiau athrawiaethol a damcaniaethol ar gyfraith Ewrop.
3. Dangos dealltwriaeth gynhwysfawr o sut y mae gwahanol gategorïau cyfraith Ewrop yn rhyngweithio â systemau cyfreithiol cenedlaethol.
4. Egluro, mewn modd cynhwysfawr, yr egwyddorion y seilir y farchnad fewnol arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain yn narpariaethau Cytuniadau a'u datblygu yn neddfwriaeth a chyfraith achosion eilaidd Llys Cyfiawnder Ewrop.
5. Defnyddio'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol wrth ddatrys, egluro a datblygu problemau damcaniaethol a / neu ymarferol sy'n codi cwestiynau sy'n ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Disgrifiad cryno
Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn gorff sylweddol o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol aelod-wladwriaethau. Mae'r cwrs yn ymdrin â chyfraith sylwedd a chyfraith sefydliadol.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd ac yn egluro prif nodweddion y drefn gyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r modiwl yn canolbwyntio'n arbennig ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd â meysydd pwysig cyfraith sylwedd yr UE, fel y rheolau cyfreithiol sy'n llywodraethu'r farchnad fewnol.
Cynnwys
- Hanes datblygiad Integreiddio Ewropeaidd
- Natur Cyfraith yr UE: Ystyr a datblygiad Athrawiaeth Goruchafiaeth Cyfraith yr UE; Athrawiaeth effaith uniongyrchol; Cymwyseddau a Chategorïau'r Gyfraith (Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau)
- Strwythur sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd: Comisiwn, Cyngor a Senedd (cyfansoddiad a phwerau); Cyfansoddiad a Strwythur Sefydliadol Llysoedd yr UE; Swyddogaeth yr Adfocad Cyffredinol; Dulliau Gwaith a Phroses Resymu'r Llysoedd Ewropeaidd
- Prosesau deddfu'r UE: Prosesau Deddfu Ffurfiol a 'Chyfraith Feddal'
- Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd: swyddogaeth Llysoedd Cenedlaethol a'r Weithdrefn Gyfreirio Ragarweiniol; Effaith Uniongyrchol; Gorfodi Rheolau'r UE gan y Comisiwn Atebolrwydd Gwladwriaethau
- Atebolrwydd yng nghyfraith yr UE; Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undeb; Sylfeini Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undeb
- Rheoliadau'r Farchnad Fewnol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Paratoi ar gyfer seminarau, a thrafod yn y seminarau. Gwaith Cwrs ac Asesiadau mewn Arholiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau. |
Gwaith Tim | Gwaith seminar a'r aseiniad ysgrifenedig: paratoi a thrafodaethau grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn arbennig fel adnodd ar gyfer cyfraith statud a chyfraith achosion. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau. |
Technoleg Gwybodaeth | Ymchwilio ar ôl darlithoedd a pharatoi ar gyfer seminarau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6