Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr (yn Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd asesiedig 1500 o eiriau ar gyfer wythnos 9 (Semester 2) | 30% |
Asesiad Semester | Cofnod Astudio / Portffolio 500 o eiriau | 20% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad . Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd asesiedig 1500 o eiriau - os caiff y traethawd ei fethu | 30% |
Asesiad Ailsefyll | Cofnod Astudio / Portffolio 500 o eiriau | 20% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad - os caiff yr arholiad ei fethu. Ni chaiff ymgeiswyr ddod a llyfrau, nodiadau na deunydd arall i mewn i'r arholiad. | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Rhoi gafael dda i'r myfyriwr ar gyfraith cytundebau fel pwnc cyfraith gyffredin a datblygu eu dealltwriaeth am gynsail a defnyddio ymresymu cyfreithiol ar sail cyfraith achosion. Datblygu sgiliau'r myfyriwr wrth gymhwyso cyfraith cytundebau i gwestiynau/broblemau penodedig. Bodloni'r gofynion ar gyfer eithrio proffesiynol. Paratoi'r myfyriwr i astudio modiwlau pellach sy'n dibynnu ar afael ar y gyfraith cytundebau.
Disgrifiad cryno
Mae cyfraith cytundebau'n rhan annatod o fywyd pob dydd. Rydyn ni'n gwneud contractau wrth brynu papur newydd neu wrth deithio ar fws. Ond yn amlwg, nid yw pob contract mor syml a hynny. Bydd contractau sy'n ymwneud ag adeiladu llongau neu adeiladau yn gymhleth dros ben. Er hynny, bydd egwyddorion sylfaenol cyfraith cytundebau yn aros yr un fath ar draws y cwmpas cyfan. Yr egwyddorion sylfaenol hynny sydd wrth wraidd y cwrs hwn. Mae cyfraith cytundebau'n bwnc sylfaen a caiff ei astudio fel rheol yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun gradd. Nod y cwrs yw gosod sylfaen gref yn rheolau Cyfraith Cytundebau fel maes cyfreithiol er mwyn i eraill adeiladu arno. Ond nid yw'n cynnig safbwynt ar y gyfraith fel cyfres o reolau, ond fel maes sy'n datblygu yng ngoleuni tensiynau o fewn y gyfraith a'r anawsterau sy'n codi o dan amodau penodol. Fel cwrs a ddilynir wrth ddechrau astudio'r gyfraith, mae iddo ran bwysig hefyd wrth ddatblygu sgiliau sylfaenol yn y gyfraith. Y nod yw hyrwyddo dealltwriaeth am y ffordd y mae maes cyfreithiol a seilir i raddau helaeth ar y gyfraith achosion yn datblygu.
Nod
Rhoi gafael dda i'r myfyriwr ar gyfraith cytundebau, a thrwy hynny, datblygu rhagor ar eu hymwybyddiaeth o'r angen i ddefnyddio iaith fanwl; dull rhesymegol o ymdrin a phroblemau; sgiliau dadansoddi cyfreithiol; sgiliau cyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur ac agwedd feirniadol at y gyfraith ac ymresymu cyfreithiol.
Cynnwys
Caiff y prif fodiwlau eu dysgu trwy ddarlithoedd a seminarau. Mae'r ddarlith yn ffordd o gyflwyno'r rheolau sylfaenol a thynnu sylw at yr anawsterau a'r tensiynau o fewn y gyfraith. Mae'r seminar yn cynnig dull o ddysgu rhyngweithiol, a hynny ar sail astudiaeth breifat y myfyriwr o'r maes dan sylw. Gosodir cwestiynau ar gyfer y seminarau er mwyn cyfoethogi dealltwriaeth y myfyriwr mewn perthynas a'r Gyfraith Cytundebau ac er mwyn datblygu eu sgiliau wrth ymdrin a chynseiliau a dehongliadau statudol. Anogir y myfyrwyr i edrych ar y gyfraith yn feirniadol, gan nodi'r tensiynau o'i mewn a chyd-destun ei datblygiad.
Maes llafur
1. Cyflwyniad i Gyfraith Cytundebau.
2. Ffurfio'r Contract.
3. Y bwriad i greu cysylltiadau cyfreithiol.
4. Ystyriaethau.
5. Preifatrwydd.
6. Telerau Pendant ac Ymhlyg.
7. Amodau, Gwarantau a Thelerau Anenwol.
8. Cymalau eithrio a Thelerau Annheg.
9. Camliwio.
10. Gorfodaeth a dylanwad gormodol.
11. Camgymeriad.
12. Rhwystredigaeth.
13. Perfformiad a Thor-amod.
14. Dulliau o unioni.
15. Amlinelliad o'r Gyfraith Adfer.
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydKoffman & Macdonald (2010) The Law of Contract 7th ed. Oxford University Press Chwilio Primo McKendrick, Ewan (2010) Contract Law: text, cases, and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Poole, Jill (2010) Casebook on Contract Law 10th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Testun Ychwanegol Atodol
Atiyah, P. S. (2005) Atiyah's Introduction to the Law of Contract 6th ed. Clarendon Press Chwilio Primo Cheshire, G. C. (2006) Cheshire, Fifoot and Furmston's Law of Contract 15th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Treitel, G. H. (2007) The Law of Contract 12th ed. Sweet & Maxwell Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4