Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 lectures x 2 hours |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad 2 awr yn cynnwys ymateb i ddata, atebion byr a chwestiynau arholiad | 100% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad 2 awr yn cynnwys ymateb i ddata, atebion byr a chwestiynau arholiad | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifio ac esbonio prosesau erydiad, cludiant a dyddodi sydd yn gweithredu ar lethrau ac mewn sianel afon.
Disgrifio ac esbonio sut y mae newidiadau mewn llif a chyflymder yn effeithio gweithrediad prosesau afonol a sut y maent yn effeithio geometreg y sianel a phatrymau sianeli afon.
Trafod y datrysiadau rheolaeth a ellid eu cymhwyso er mwyn datrys problemau sefydlogrwydd llethr a phroblemau erydiad/dyddodiad mewn sianeli afon.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl yw i ddarparu gwerthusiad manwl o'r prosesau sydd yn gweithredu o fewn y basn afon cyfoes. Yn gyntaf, ystyrir system y llethr, lle mae prosesau mas symudiad a phrosesau creu sianeli yn bwysig. Mae gweddill y cwrs yn canolbwyntio ar brosesau sydd yn weithredol o fewn system y sianel. Ymhob darlith, cefnogir theori sianel gan enghreifftiau o astudiaethau achos, gan roi sylw penodol i goblygiadau prosesau geomorffolegol naturiol ar reolaeth afon.
Cynnwys
- Egwyddorion geomorffoleg, cyfundrefnau gweithgarwch, trothwyon.
- Methiant / erydiad ar lethrau
- Prosesau pen-y-nant a datblygiad rhwydweithiau.
- Prosesau'r sianel: dw^r a gwaddod.
- Geometreg hydrolig.
- Erydiad glan a gwely.
- Patrymau sianel a chyfraddau newid.
- Rheoli sianeli.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Sgiliau ysgrifennu traethawd wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ac wrth sefyll yr arholiad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau ymchwil, ysgrifennu traethodau a chanolbwyntio ar strategaethau rheoli pwysig a ddefnyddir yn y maes rheoli amgylcheddol. |
Datrys Problemau | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddeall tarddiad prosesau ffisegol allweddol a gwerthuso strategaethau a ddefnyddir i fonitro a rheoli rhannau allweddol o'r system afonol |
Gwaith Tim | Dim |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Darllen annibynnol yn seiliedig ar restr ddarllen |
Rhifedd | Bydd pwyslais ar ddeall ffurfiau'r basn mewn modd meintiol ac ar ddatrys a dadansoddi problemau rhifyddol yn yr arholiad. |
Sgiliau pwnc penodol | Dim |
Sgiliau ymchwil | Darllen annibynnol a pharatoi ar gyfer yr arholiad. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd mynediad at adnoddau helaeth y llyfrgell a'r we yn hanfodol ar gyfer datblygu dealltwriaeth y myfyrwyr. |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydBrookes, A. (1988) Channellised Rivers: Perspectives for environmental management Chwilio Primo Downs, P.W. and Gregory, K.J. (2004) River Channel Management Arnold Chwilio Primo Knighton, D. (1998) Fluvial Forms and Processes Arnold Chwilio Primo Petts, G. and Foster, I. (1985) Rivers and Landscape Arnold Chwilio Primo Robert, A. (2003) River Processes Arnold Chwilio Primo Selby, M.J. (1993) Hillslope Materials and Processes 2nd Edition Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5