Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg) |
Sesiwn Ymarferol | 10 gweithdy 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Rhaglennu (22%), Aseiniad Cyflwyniad Gweledol (22%), Aseiniad Ystadegaeth (22%), Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau a Curriculum Vitae (12%), Cyflwyniad Grwp (11%), Cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg (11%) | 100% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad ymarferol ar daenlenni ac ystadegaeth | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Gosod neu addasu taenlen i wneud amrywiaeth o gyfrifiadau a chynhyrchu crynodebau a siartiau o'r ffigurau sy'n cael eu trin
2. Archwilio set ddata gan ddefnyddio pecyn ystadegaeth a chymhwyso dulliau syml i ddadansoddi a chyflwyno y wybodaeth y mae'n ei chynnwys
3. Defnyddio pecyn prosesu geiriau i gynhyrchu dogfennau syml yn cynnwys Curriculum Vitae
4. Defnyddio pecyn cyflwyniad i gynhyrchu cyflwyniad sleidiau syml
5. Rhoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg
6. Cynhyrchu portffolio Cynllun Datblygiad Personol
Nod
Mae'r modiwl yn cynnig cyfle i ddatblygu casgliad o sgiliau trosglwyddadwy, sydd ddim yn uniongyrchol gysylltiedig i Fathemateg neu Ffiseg, ond sydd wedi'i dylunio i wella'i profiad dysgu ac eu rhagolygon gyrfa.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn cyflwyno rhaglennu a nifer o becynnau TG i'r myfyrwyr: pecyn prosesu geiriau, pecyn cyflwyniad, pecyn taenlen a phecyn ystadegaeth, ac yn arddangos defnydd syml o'r pecynnau ar gyfer y gweithle. Fel rhan o'r modiwl mae'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn darparu rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau ble bydd pob myfyriwr yn paratoi Curriculum Vitae. Drwy weithio mewn timau bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i yrfaoedd sydd ar gael i raddedigion eu disgyblaeth ac i'r defnydd o'r sgiliau a ddatblygir yn eu cyrsiau ar gyfer y gyrfaoedd yma. Bydd y timau yn rhoi cyflwyniad grwp ar sail eu hymchwiliad gan ddefnyddio'r pecyn cyflwyniad. Bydd y myfyrwyr hefyd yn paratoi ac yn rhoi cyflwyniad byr unigol ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg. Mae'r modiwl hefyd yn cyflwyno portffolio Cynllunio Datblygiad Personol (CDP) a ellir ei drafod gyda'r Tiwtor Personol.
Cynnwys
- Pecyn prosesu geiriau: cyflwyniad, dogfen syml, fformatio, mynegiadau mathemategol.
- Rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, gan gynnwys cyngor ar baratoi CV, wedi'i redeg gan y Gwasanaeth Cynghori Gyrfaoedd.
- Cyflwyniadau grwp ar y berthynas rhwng sgiliau a feddianir gan Fathemategwyr neu Ffisegwyr a'r gyrfaoedd posib iddynt.
- Portffolios Datblygiad Personol: cyflwyniad, templed safonol.
- Pecyn cyflwyno: cyflwyniad, gwneud cyflwyniad syml.
- Pecyn taenlennu: trosolwg o daenlenni, rhoi gwybodaeth i mewn a'i fformatio, fformwlau a ffwythiannau, copio cynnwys celloedd, trin taenlen fawr.
- Pecyn Ystadegaeth: trosolwg, defnyddio'r adnodd gymorth, mewnbwn, trin a chywiro data, casgliad o gymhwysiadau o ddadansoddiad data, atchweliad llinol a rhagdybiaethau; corffori allbwn i ddogfenau Word.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir cyfathrebu ysgrifenedig drwy'r CV a'r CDP. Datblygir cyfathrebu ar lafar drwy'r cyflwyniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y rhaglen ymwybyddiaeth sgiliau, y cyflwyniad grwp a pharatoi y portffolio CDP yn darparu cyfleoedd i gynllunio ar gyfer gyrfa ac i fyfyrio ar ddatblygiad personol. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau yn y modiwl drwy aseiniadau taenlen ac ystadegaeth ac wrth baratoi cyflwyniad ar destun mewn Mathemateg neu Ffiseg. |
Gwaith Tim | Mewn grwpiau y gwneir y gwaith sy'n arwain at y cyflwyniad grwp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy baratoi portffolio CDP bydd y myfyrwyr yn bwrw golwg ar eu profiadau dysgu ac yn cofnodi sut y gallant elwa yn sgil hyn. |
Rhifedd | Caiff cysyniadau a thechnegau rhifyddol eu hystyried yng nghyd-destun y pecynnau taenlen ac ystadegaeth. |
Sgiliau ymchwil | Caiff sgiliau ymchwil eu datblygu wrth ymchwilio i destun y cyflwyniad ac ymchwilio i'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer amrywiol fathau o gyflogaeth. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd y myfyrwyr yn defnyddio amrywiaeth o becynnau cyfrifiadur. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4