Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA11210 trwy gyfrwng y Saesneg) |
Seminarau / Tiwtorialau | 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial). 2 Awr (Tiwtorialau Termau) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 80% |
Asesiad Semester | Marciau wedi eu seilio ar presenoldeb yn darlithoedd, tiwtorialau ar gwaith yr ydych yn ei gyflwyno. | 20% |
Asesiad Ailsefyll | 2 Awr (arholiad ysgrifenedig) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. datrys hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau gydag amodau cychwynnol neu ffiniedig.
2. adeiladu model mathemategol syml.
Disgrifiad cryno
Gellid dadlau mai mathemateg yw'r ffordd mwyaf effeithlon a llwyddiannus o ddisgrifio'r byd go iawn. Pwrpas y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r syniad o fodelu mathemategol ac i ddatblygu'r sgiliau technegol ar gyfer datrys y problemau mathemategol sy'n codi mewn cymwysiadau. Bydd y maes llafur yn cynnwys technegau o integriad, hafaliadau differol gradd gyntaf ac hafaliadau differol llinol trefn dau. Bydd enghreifftiau yn cael eu cymryd o fioleg, economeg a ffiseg.
Nod
I ddatblygu'r sgiliau technegol a'r gallu i ddefnyddio calcwlws mewn cymwysiadau.
Cynnwys
2. MODELU MATHEMATEGOL: Y defnydd o fodelau mathemategol i ddisgrifio a deall y byd go iawn. Differiad a chyfraddau newid. Dyfeisio hafaliadau differol i ddisgrifio ffenomenau sy'n ddibynnol ar amser, yn cynnwys:
- dynameg elfennol yn defnyddio rheolau mudiant Newton;
- dynameg poblogaethau;
- llif o wefr o gwmpas cylchedd trydannol syml.
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolGiordano, Frank R. (2005.) Thomas' calculus :based on the original work /by George B. Thomas Jr.; as revised by Maurice D. Weir, Joel Hass, Frank R. Giordano. 11th ed. Addison-Wesley Chwilio Primo Salas, Saturnino L. (2003.) Calculus :one and several variables. http://www.loc.gov/catdir/toc/wiley031/2002190823.html 9th ed. J. Wiley & Sons Testun A Argymhellwyd
Boyce, W. E. & De Prima, R. C. (2001) Elementary Differential Equations 7th Wiley Chwilio Primo Jeffrey, Alan. (1992.) Essentials of engineering mathematics :worked examples and problems /Alan Jeffrey. Chapman & Hall Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4