Module Information

Cod y Modiwl
HA35130
Teitl y Modiwl
Cymdeithas Ewrop a'r Meddwl Canoloesol 1200-1500
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
Seminarau / Tiwtorialau
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 3 Awr   Supplementary Exam  Arholiad ysgrifenedig 3 awr ac unrhyw waith ysgrifenedig a fethwyd.  50%
Arholiad Semester 3 Awr   Semester Examination  Arholiad ysgrifenedig 3 awr  3 hour closed examination  50%
Asesiad Ailsefyll Asesiad Atodol  Dylid cyflwyno traethodau ar gyfer ailsefyll ar wahanol destun i?r rhai a fethwyd.  50%
Asesiad Semester Semester Assessment  2 x traethawd o 2,500 o eiriau  2 x 2,500 word essays  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos dealltwriaeth soffistigedig o hanesyddiaeth yr oesoedd canol o tua 1200 hyd 1500 a sut y mae wedi datblygu

Arddangos dealltwriaeth o sut yr amlygir teithi meddwl y byd canoloesol, mewn amryw gyd-destunau gwahanol, gan werthfawrogi'r gwahaniaethau rhyngddo a rhagdybiaethau'r byd cyfoes

Arddangos y gallu i ddefnyddio ac ymdrin yn feirniadol a gwahanol fathau o ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd a gwerthuso eu defnyddioldeb i'r hanesydd

Arddangos y gallu i gasglu a defnyddio tystiolaeth hanesyddol briodol er mwyn cynhyrchu dadleuon priodol ar wahanol themau perthnasol

Arddangos y gallu i weithio fel unigolion gan reoli amser yn effeithiol

Arddangos a datblygu'r medrau sydd yn briodol i astudio'r oesoedd canol a chynhyrchu gwaith mewn modd proffesiynol

Disgrifiad cryno

Sut oedd pobl yr oesoedd canol yn gweld y byd o'r cwmpas? Sut mae'r bosibl dysgu am ffordd o feddwl cyfnod arall mewn hanes? Bydd y modiwl hwn yn edrych ar wybodaeth pobl ganoloesol am y byd, sut oeddent yn dehongli'r wybodaeth honno a'r chwilfrydedd i ddarganfod mwy. Trwy edrych ar faterion megis syniadau dychmygol am y byd, meddygaeth, y ffordd y cai unigolion ar ymylon cymdeithas eu trin a'r ymdrech i ddarganfod y byd tu hwnt i Ewrop byddwn yn cael golwg ar y meddwl canoloesol ac effaith y syniadau hynny ar fywyd cymdeithas. Ceir ymgais arbennig i geisio gweld sut oedd pobl `gyffredin? yn gweld y byd o'r cwmpas, os oedd hynny yn wahanol i syniadau rhannau eraill o'r gymdeithas ac i ba raddau y gallent herio'r syniadau derbyniol. Gwneir hyn trwy ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau o'r cyfnod, gan gynnwys ffynonellau ysgrifenedig a gweledol megis y Mappa Mundi, ac astudir sut oedd gwybodaeth a syniadau yn treiddio trwy gymdeithas. Erbyn y diwedd dylai myfyrwyr gael golwg gwell ar bobl yr oesoedd canol a gwerthfawrogi'r modd mae cyfnodau gwahanol yn meddwl yn wahanol am y byd o'r cwmpas.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Darllen o fewn cyd-destunau gwahanol ac at ddibenion gwahanol; gwrando’n effeithiol; ysgrifennu ar gyfer dibenion a chynulleidfaoedd gwahanol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol, yng nghyswllt dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Disgwylir i fyfyrwyr i nodi ac ymateb i broblemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol ar gyfer seminarau a thraethodau
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn datblygu eu gallu i gydweithio o fewn tïm drwy weithgarwch y seminar
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir gwaith ysgrifenedig o fewn tiwtorial a rhoddir cyngor ar sut i wella ar dechnegau ymchwil ac ysgrifennu y myfyrwyr.
Rhifedd Amherthnasol
Sgiliau pwnc penodol Datblygu gwybodaeth ac adnabyddiaeth ffynonellau ynglŷn â diwylliant canoloesol; datblygu’r gallu i ddefnyddio offer ymchwil hanesyddol addas.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddod i ddeall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu gwaith academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Anogir myfyrwyr i wneud defnydd o adnoddau priodol wrth ymchwilio, paratoi a chyflwyno eu gwaith, gan gynnwys adnoddau ar y rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6