Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 Seminar x 100 munud Tiwtorial unigol (10-15 munud) ar gyfer pob traethawd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 dadansoddiad o ffynhonnell (1500 o eiriau) | 20% |
Asesiad Semester | 1 prosiect (5000 o eiriau) | 60% |
Asesiad Semester | 1 traethawd (1500 o eiriau) | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos eu bod yn gyfarwydd a chorff o wybodaeth hanesyddol yn ymwneud ag arddangosfeydd a thechnoleg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Arddangos dealltwriaeth o rychwant o ffyrdd i astudio arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys dulliau o ddisgyblaethau eraill.
Darllen, deall a myfyrio'n feirniadol ar ffynonellau gwreiddiol perthnasol
Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.
Gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal a gyda'i gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda'r grwp. (heb ei asesu)
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol y myfyrwyr o ffynonellau a dulliau ymchwil drwy archwiliad o rychwant o ffynonellau sy'n berthnasol i arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edrychir ar y modd yr oedd arddangosfeydd a sioeau poblogaidd yn gweithredu fel ffyrdd o gategoreiddio, dofi a gwneud synnwyr o'r dieithr a'r anarferol. Archwilir y berthynas rhwng datblygiad hanesyddol yr arddangosfa a'r cynnydd mewn diwylliant y defnyddwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Drwy banorama, llusern hud, galeriau o wyddoniaeth ymarferol ac arddangosfeydd diwydiannol, dysgodd cynulleidfaoedd sut i weld yr estron fel rhan o'u diwylliant a sut i ddeall cynnydd gwyddonol a thechnegol.
Nod
Bydd y modiwl yn darparu cyflwyniad i ddiwylliant arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i'w diwylliant materol ac i'r cynulleidfaoedd a oedd yn eu mynychu. Modiwl Sgiliau yw hwn, a'r bwriad yw i roi cyfle i fyfyrwyr yr ail flwyddyn i ddatblygu sgiliau a ffyrdd o astudio hanes.
Cynnwys
2. Golwg banoramig
3. Arddangos Gwyddoniaeth
4. Sut mae'n gwneud e?
5. Yr Arddangosfa Fawr
6. Pensaerniaeth Arddangos
7. Dofi Natur
8. Technoleg aruchel
9. Celfyddyd Taflunio
10. Lluniau'n symud
Tiwtorial unigol i ddychwelyd traethodau
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy'r seminarau a'r atborth ynglyn a'r gwaith ysgrifenedig. Asesir y medrau hyn. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd clir a beirniadol |
Datrys Problemau | Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy'r gwaith asesiedig. |
Gwaith Tim | Datblygir sgiliau perthnasol drwy waith seminar. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn. |
Rhifedd | Cyflwynir rhywfaint o wybodaeth ystadegol yn ystod y seminarau a bydd defnydd addas o'r ystadegau tebyg yn ffurfio rhan o asesiad y gwaith ysgrifenedig |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu ymwybyddiaeth o rychwant o ffynonellau addas |
Sgiliau ymchwil | Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy'r gwaith ysgrifenedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6