Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Asesiad Atodol Arholiad caeedig 2 awr, ac unrhyw waith ysgrifenedig sydd ar goll. resit 2 hour examination | 60% |
Arholiad Semester | 2 Awr Asesiad Semester 1 arholiad 2 awr 2 hour examination | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Asesiad Atodol Dylid cyflwyno traethodau ar gyfer ailsefyll ar wahanol destun i?r rhai a fethwyd. submit any missing or failed written work | 40% |
Asesiad Semester | 2 Awr Asesiad Semester 1 traethawd 2,500 o eiriau 1 x 2,500-3,000 word essay | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
dangos eu bod wedi datblygu dealltwriaeth gref o natur a hanes gwladychiad ac imperialaeth yn eu cyd-destun hanesyddol Ewropeaidd ynghyd ag effaith y datblygiadau hyn ar gymdeithas Ewrop
asesu dogfennau hanesyddol gwahanol a'r defnyddio mewn modd gwrthrychol a beirniadol er mwyn asesu ffactorau pwysicaf cyfnod imperialaidd yr 19eg ganrif
datblygu ac ymestyn eu sgiliau dadansoddol a beirniadol trwy ddefnyddio cyfryngau diwylliannol gwahanol: ffilm, rhaglenni ffeithiol, hunangofiannau a delweddau gweledol
casglu gwybodaeth o ffynonellau amrywiol, a lleoli ac ystyried y wybodaeth honno o fewn cyd-destun gwleidyddol, hanesyddol a chymdeithasol
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut dreiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut oedd pobloedd `eraill? yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio'r cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o'r syniadau a ddaeth yn eu sgil yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-China ac Algeria.
Bydd Dr Matthews yn ymweld ag Aberystwyth i gyfarfod a'r myfyrwyr ar ddechrau'r semester cyn cynnal y seminarau wyneb yn wyneb dros y fideo. Disgwylir i'r myfyrwyr wylio'r darlithoedd yn eu hamser eu hunain ond yn ystod yr wythnos y byddant yn cael eu rhyddhau ar Y Porth. Bydd angen elfen o oruchwyliaeth i sicrhau bod y myfyrwyr yn dilyn y cwrs darlithoedd a phenodir aelod o staff yn yr Adran yn Aberystwyth fel cyswllt ychwanegol ar gyfer y myfyrwyr. Gan fod y modiwl yn wahanol iawn i'r arfer, byddwn yn ceisio asesu effeithlonrwydd y dulliau dysgu ar ddiwedd y semester i weld a oes angen unrhyw addasu ar y ddarpariaeth.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Trwy drafodaeth mewn seminar a throsglwyddo gwybodaeth mewn traethawd ac arholiad |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau rheoli amser, sgiliau cyfathrebu a sgiliau dadansoddi. |
Datrys Problemau | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trin a thrafod problemau hanesyddol ac ymgymryd ag ymchwil briodol wrth baratoi ar gyfer seminarau a gwaith ysgrifenedig |
Gwaith Tim | Cymryd rhan mewn gweithgareddau seminar a deal sut i weithredu ar y cyd gydag aelodau eraill o’r grŵp. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu sgiliau trefnu drwy reoli amser a chyflwyno gwaith yn brydlon. Gwneud defnydd o adborth ar waith a gyflwynir er mwyn gwella’r perfformiad. |
Rhifedd | Amherthnasol |
Sgiliau pwnc penodol | Datblygu’r gallu i werthuso ffynonellau perthnasol i’r cyfnod a’r maes ynghyd â’r gallu i ymdrin yn feirniadaol â’r llenyddiaeth eilaidd sy’n ymwneud ag imperialiaeth a gwladychiad. |
Sgiliau ymchwil | Defnyddio amryw o gyfryngau gwahanol er mwyn ffurfio barn feirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd defnydd o adnoddau arlein yn rhan hanfodol o ddulliau dysgu’r modiwl hwn a bydd felly’n rhoi cyfle i fyfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau wrth, er enghraifft, gwneud defnydd o fyrddau trafod ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6