Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 16 darlith awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 6 seminar awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 cyflwyniad seminar (cyfystyr a 1,000 o eiriau) | 10% |
Asesiad Semester | 1 traethawd 2,500 o eiriau | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Gall myfyrwyr gael y cyfle i ail-sefyll y modiwl hwn os bydd y Gyfadran yn cytuno. Am fwy o wybodaeth, cysyllter a Gweinyddydd Academaidd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Trafod y problemau wrth ddiffinio terfysgaeth a'r gwahaniaethau rhwng sifiliaid a'r brwydrwyr
2. Arddangos dealltwriaeth o gyd-destunau terfysgaeth
3 Disgrifio sut y mae'r cyd-destun yn creu, ail-ffurfio a diffinio terfysgaeth gan gyfeirio at ei ddatblygiad hanesyddol
4. Dangos trwy waith ysgrifenedig a seminarau, y gallu i feirniadu adroddiadau cyfoes o derfysgaeth
5. Dadansoddi gwahanol bersbectifau o achosion terfysgaeth
6. Trafod rol yr unigolyn a ffactorau eraill yn y broses o ddod yn derfysgwr
7. Esbonio rol amrywiol y wladwriaeth a gweithredwyr di-wladwriaeth wrth gynhyrchu terfysgwyr
8. Dangos effeithlonrwydd ystod o ymatebion i derfysgaeth a thrafod y canlyniadau bwriadol ac anfwriadol.
Nod
Bydd y modiwl hwn yn ychwanegu at ddarpariaeth gyfredol yr Adran ar derfysgaeth, ac yn arbennig y modiwlau ar drais gwleidyddol, damcaniaeth mudo cymdeithasol, astudiaethau democrateiddio, Astudiaethau Diogelwch, Astudiaethau Strategol, gwleidyddiaeth y Trydydd Byd, cudd-wybodaeth a damcaniaeth wleidyddol (ryngwladol). Mae'n cynnig i fyfyrwyr y cyfle i ddeall am amrywiaeth yr agweddau tuag at, a'r diffiniadau o, derfysgaeth, yn hanesyddol a chyfoes. Bydd y dysgu'n cynnwys esiamplau o ystod o gymdeithasau a chyd-destunau lle gwelwyd braw gwleidyddol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn ceisio rhoi i fyfyrwyr ddealltwriaeth eang ac integredig o bersbectifau'r gorffennol a'r presennol o derfysgaeth. Bydd yn archwilio'r materion epistemolegol a diffiniol sydd wrth wraidd y maes a sut mae ein dealltwriaeth o'r pwnc wedi newid dros gyfnod o amser. Bydd yn dadansoddi achosion terfysgaeth, rol gweithredwyr y wladwriaeth neu'r gweithredwyr di-wladwriaeth, a swyddogaeth trais gwleidyddol o fewn y system ryngwladol. Bydd hefyd yn edrych ar yr ymateb i derfysgaeth ac oblygiadau'r rhain i ddiogelwch a llywodraeth. Yn olaf, bydd yn dadansoddi'r dilema moesol sydd ynghlwm wrth drais gwleidyddol a'r ymdrechion i'w wrthwneud.
Cynnwys
- Disgyrsiau, iaith, pwer ac ystyr; agweddau traddodiadol ac agweddau beirniadol
- Terfysgaeth fel dull sy'n esblygu; datblygiad hanesyddol patrymau rhyfela
- Achosion terfysgaeth: esboniadau gwahanol
- Dod yn derfysgwr: cyd-destun, hunaniaeth a chymhelliad
- Y wladwriaeth a gweithredwyr di-wladwriaeth: ai terfysgaeth yw gweithredu'r wladwriaeth?
- Terfysgaeth, y wladwriaeth a'r system ryngwladol
- Terfysgaeth a gwrthderfysgaeth: grym corfforol yn erbyn y galon a'r meddwl
- Effeithlonrwydd yr ymatebion i derfysgaeth, goblygiadau hawliau dynol, moeseg rhyfel
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut i gyflwyno eu syniadau ar lafar ac ar bapur a sut i gyflwyno dadleuon fwyaf effeithiol. Byddant yn dysgu pwysigrwydd gwybodaeth a chyfathrebu clir a sut i ymelwa ar hyn. Byddant yn gwybod sut i ddefnyddio'r gwahanol ffynonellau o wybodaeth sydd ar gael a sut i ddefnyddio'r ffurf fwyaf addas o gyfathrebu er mantais. Byddant yn dysgu bod yn eglur wrth ysgrifennu a siarad a bod yn uniongyrchol ynglyn ag amcanion a nodau. Byddant yn dysgu ystyried yr hyn sy'n berthnasol i bwnc, ffocws neu amcanion y ddadl neu'r drafodaeth. Trefnir seminarau mewn grwpiau bychain lle mai trafodaeth lafar a chyflwyniadau fydd prif ddull y dysgu a bydd y pwyslais drwy'r modiwl ar gyfraniad a chyfathrebu'r myfyrwyr. Anogir cyd-fyfyrwyr i holi'r cyflwynydd er mwyn beirniadu'r ddadl neu awgrymu sut i ddatblygu'r pwnc; bydd pawb felly'n cael cyfle i drafod cyfraniadau a syniadau'r lleill. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r trafodaethau mewn seminarau yn arbennig yn gymorth i ddatblygu sgiliau llafar a chyflwyno a gwaith tim. Bydd dysgu am y broses o gynllunio traethawd a chyflwyniad, llunio fframwaith y prosiectau, hogi a datblygu'r prosiectau a'u cwblhau, i gyd yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. |
Datrys Problemau | Un o amcanion canolog y modiwl fydd gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau; bydd cyflwyno traethawd yn gofyn i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn ogystal a datrys problemau. Bydd y gwaith ymchwil a pharatoi cyflwyniadau seminar hefyd yn gymorth i'r myfyriwr ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Datblygir ac asesir gallu'r myfyriwr i ddatrys problemau trwy ofyn iddynt: ystyried gwahanol agweddau a barn; trefnu data ac amcangyfrif ateb i broblem; ystyried achosion eithafol, trafod yn rhesymegol; creu modelau damcaniaethol; ystyried achosion tebyg; edrych am batrymau; rhannu materion yn broblemau llai. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio |
Gwaith Tim | Bydd seminarau'n cynnwys grwp bychan yn trafod y materion craidd sy'n berthnasol i bynciau'r seminar. Mae trafodaethau a dadleuon yn y dosbarth yn rhan hanfodol o brofiad dysgu'r modiwl. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl yn ceisio hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun o gymorth oddi wrth y cynullydd a'r cyd-fyfyrwyr. Disgwylir i fyfyrwyr wella eu perfformiad addysgol eu hunain trwy wneud gwaith ymchwil annibynnol a chymell eu hunain i chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad eu traethawd. Rhaid iddynt arwain cyflwyniad seminar a chyflwyno traethawd ar amser a dylai hyn eu helpu i reoli amser ac adnoddau yn y ffordd orau. |
Rhifedd | Disgwylir i fyfyrwyr werthuso data ystadegol ar newid demograffig, arolygon agweddau a thystiolaeth feintiol arall fydd yn cael ei gyflwyno fel rhan o'r deunydd cwrs. |
Sgiliau pwnc penodol | Caiff myfyrwyr y cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau sy'n benodol i'r pwnc i'w helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau ar y modiwl. Mae'r sgiliau pwnc penodol yma'n cynnwys: - Casglu a deall ystod eang o ddata yn ymwneud a'r modiwl - Y gallu i werthuso persbectifau gwahanol - Arddangos technegau ymchwil pwnc penodol - Cymhwyso ystod o fethodolegau i broblemau hanesyddol a gwleidyddol cymhleth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyflwyno traethawd yn adlewyrchu sgiliau ymchwil annibynnol y myfyriwr. Bydd yr angen i leoli adnoddau ymchwil priodol a chofnodi'r canlyniadau hefyd yn hybu sgiliau ymchwil. Bydd ymchwilio a pharatoi ar gyfer cyflwyniad seminar hefyd yn galluogi'r myfyriwr i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd arholiad terfynol yn sicrhau asesiad o allu'r myfyriwr i weithio ar ei ben/phen ei hun. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi'i gwblhau ar brosesydd geiriau. Hefyd, anogir myfyrwyr i chwilio am ffynonellau gwybodaeth ar y we, yn ogystal a chwilio am ffynonellau electronig (megis Web of Science ac OCLC). Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr wneud defnydd o'r adnoddau fydd ar gael ar Blackboard. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6