Module Information

Cod y Modiwl
GW10520
Teitl y Modiwl
Hanes Rhyngwladol y Rhyfel Oer
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours. (20 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Ar ol iddynt gwblhau'r modiwl, dylai'r myfyrwyr allu:

- Trafod safbwyntiau gwrthwynebol ynglyn a tharddiad y Rhyfel Oer
- Archwilio effaith y Rhyfel Oer ar yr Unol Daleithiau, Ewrop a'r Trydydd Byd
- Asesu'r rol a chwaraewyd gan bolisiau tramor y Sofietiaid a'r Unol Daleithiau yn ffurfiant y Rhyfel Oer
- Dynodi tarddiad detente a'r rhesymau dros ei ddirywiad
- Asesu esboniadau gwrthwynebol am ddymchweliad Comiwnyddiaeth yn Nwyrain Ewrop a diwedd y Rhyfel Oer;
- Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau dynodi a lleoli ffynonellau addas; astudio annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.

10 credydau ECTS

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn archwilio prif ddigwyddiadau'r Rhyfel Oer, o ollwng y bom niwclear ar Japan ym 1945 hyd at ddad-ddrefedigaethu, y rhyfel yn Vietnam a dymchweliad rheolaeth y Blaid Gomiwnyddol yn Nwyrain Ewrop.

Nod

Bydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i faterion a digwyddiadau pwysig a oedd yn allweddol yn ffurfiant hanes rhyngwladol y Rhyfel Oer (1945-11991).

Cynnwys

Mae'r modiwl yn dechrau drwy archwilio tarddiad y Rhyfel Oer ac ystyried y dadleuon hanesyddol ynglyn a'r rhesymau pam y bu i'r Americanwyr ddefnyddio'r bom atomig yn erbyn Japan ym 1945. Yna bydd y myfyrwyr yn mynd rhagddynt i ystyried y rol a chwaraewyd gan wahanol ranbarthau ym mlynyddoedd cynnar y Rhyfel Oer, ac effaith ymgiprys militaraidd, economaidd ac ideolegol yr archbwerau ar Ewrop, Asia a chyn-drefedigaethau'r Trydydd Byd a'r Dwyrain Canol. Bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio'n glos ar ddigwyddiadau allweddol megis y Chwyldro Comiwnyddol yn China, Rhyfel Korea, tarddiad y gwrthdaro rhwng yr Israeliaid a'r Arabiaid a Rhyfel Vietnam. Bydd deinameg detente a rheolaeth arfau yn cael eu trafod a bydd y modiwl yn gorffen drwy archwilio'r dadleuon yn ymwneud a'r rhesymau pam y death y Rhyfel Oer i ben a dymchweliad rheolaeth y Blaid Gomiwnyddol yn Nwyrain Ewrop.

Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael cyfle i ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eu helpu i ddeall, cysyniadoli a gwerthuso enghreifftiau a syniadau. Bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl, a sgiliau hunanreoli. Yn ystod darlithoedd bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau gwrando ac ysgrifennu nodiadau, yn ogystal a sgiliau dadansoddi. Mewn seminarau bydd myfyrwyr yn gwella eu sgiliau dadansoddi ac yn ymarfer sgiliau gwrando, egluro a dadlau, yn ogystal a gweithio mewn tim a datrys problemau. Bydd ysgrifennu traethodau yn annog myfyrwyr i ymarfer eu sgiliau ymchwilio annibynnol, ysgrifennu a TG, a bydd yr arholiadau yn profi'r sgiliau hyn o dan amgylchiadau amser cyfyngedig.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4