Module Information

Cod y Modiwl
GW10420
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 20 Hours. (20 x 1 awr)
Seminarau / Tiwtorialau 8 Hours. (8 x 1 awr)
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd 2,500 o eiriau  40%
Arholiad Semester 2 Awr   (1 x 2 hour)  60%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn gallu:

Asesu'n feirniadol y dulliau canolog sy'n rhan o astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.
a
Gwerthuso dulliau sy'n cystadlu a'i gilydd o fynd ynglyn a diwygio'r system ryngwladol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i ddadleuon y gorffennol a'r presennol ynglyn a'r rhagolygon ar gyfer cynnydd mewn gwleidyddiaeth ryngwladol.

Nod

Bwriad y cynllun hwn yw egluro cymwysiadau cyfoes traddodiadau canolog syniadaeth ryngwladol a dadleuon parhaus ynglyn a natur gwleidyddiaeth y byd a'r posibilrwydd o'i ddiwygio.

Cynnwys

Dechreua'r modiwl trwy ystyried sut mae astudio Cysylltiadau Rhyngwladol wedi datblygu yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae'n ystyried tri dull sy'n ganolog i wleidyddiaeth y byd ac sy'n trafod i ba raddau y gellir diwygio'r system ryngwladol. Y tri dull yma yw rhyngwladoldeb rhyddfrydol, realaeth, a'r Ysgol Seisnig neu bersbectif y 'gymdeithas ryngwladol'.
Mae'r ail grŵp o ddarlithoedd wedi eu trefnu o gwmpas themâu moesoldeb a gwleidyddiaeth ryngwladol. Byddwn yn ystyried, ymhlith pethau eraill, syniadau ynglŷn â moesoldeb rhyfel, hawliau dynol ac ymyrraeth ddyngarol.
Bydd trydydd grŵp o ddarlithoedd yn ystyried arwyddocâd globaleiddio i'r rhagolygon o allu byw bywyd boddhaol mewn gwahanol rannau o'r byd. Ystyrir cwestiynau sy'n ymwneud â gwahaniaethau diwylliannol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a materion amgylcheddol.
Bydd y grŵp terfynol o ddarlithoedd yn ystyried syniadau diweddar ynglŷn â democratiaeth gosmopolitan yng nghyd-destun y dadleuon am ddyfodol gwleidyddiaeth ryngwladol. Bydd y themâu yma yn cynnwys holi a yw’n ystyrlon i ddadlau y gwelwyd cynnydd o fewn gwleidyddiaeth ryngwladol dros y degawdau olaf yma.

DARLITHOEDD

1. Cyflwyniad i'r Modiwl: Pam astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol?
2 Creulondeb a Thosturi yng Ngwleidyddiaeth y Byd

Datblygiad Disgyblaeth Brydeinig

3. Rhyngwladoldeb Rhyddfrydol
4. Realaeth
5. Yr Ysgol Seisnig neu Ddull y Gymdeithas Ryngwladol
6 Darlith Arbennig ar Sgiliau Astudio: Cyfrannu mewn Seminarau

Materion Moesol yng Ngwleidyddiaeth y Byd

7. Materion Moesol yng Ngwleidyddiaeth y Byd
8. Rhyfel a Moesoldeb
9. Hawliau Dynol a'r Gymdeithas Ryngwladol Ryddfrydol
10.Ymyrraeth Ddyngarol a'r Gymdeithas Ryngwladol Ryddfrydol
11. Datblygiad Cyfraith Droseddol Ryngwladol

Y cynnydd mewn lefelau o Ryng-gysylltiad Dynol

12. Cysyniad Globaleiddio
13. Sesiwn Drafod
14. Cyfiawnder Byd-eang a'r Economi Ryngwladol
15. Globaleiddio a’r Amgylchedd
16. Globaleiddio a Gwahaniaethau Diwylliannol

Dyfodol Gwleidyddiaeth y Byd

17. Gwareiddiad, Rhyng-gysylltiad Dynol a Dyfodol Gwleidyddiaeth y Byd
18. Dinasyddiaeth Fyd-eang a Democratiaeth Gosmopolitan
19. Cynnydd a Gwleidyddiaeth Ryngwladol
20. Casgliadau. (Trafodir ffurf yr arholiad yn y ddarlith hon hefyd, yn ogystal â thrafodaeth ar 'dechneg arholiad'.)

SEMINARAU

1. A yw ymatebion y Gorllewin i'r Gwanwyn Arabaidd wedi cynnig tystiolaeth o fwy o gonsyrn am ddioddefaint mewn cymdeithasau eraill?

2. Beth all astudiaeth o Wleidyddiaeth Ryngwladol ei gyfrannu tuag at ddeall a/neu newid y byd?

3. A wnaeth beirniadaethau realaidd o ryngwladoldeb rhyddfrydol ddangos mai ychydig o gynnydd – os o gwbl - sydd yna mewn gwleidyddiaeth fyd-eang?

4. Faint o help yw syniad yr Ysgol Seisnig o 'gymdeithas ryngwladol'? (A thrafodaeth ar baratoi traethawd).

5. 'Fel arfer grym a diogelwch sy’n gyrru'r berthynas rhwng gwladwriaethau, nid moesoldeb a chyfiawnder' Trafodwch.

6. 'Nod rhyfel yw ennill gyda chyn lleied â phosib o ddolur i’ch pobl eich hun'. Trafodwch gan gyfeirio at y syniad o 'ryfel cyfiawn'.

7. Beth yw manteision ac anfanteision defnyddio grym er mwyn delio â throseddau hawliau dynol difrifol mewn cymdeithasau eraill?

8. A yw globaleiddio yn gwanhau neu’n cryfhau cenedl-wladwriaethau?


Sgiliau trosglwyddadwy

Bydd y myfyrwyr yn cael y cyfle i feithrin sgiliau beirniadol drwy werthuso gwahanol berspectifau ar wleidyddiaeth y byd. Bydd sgiliau asesu gwahanol safbwyntiau athronyddol a diwylliannol yn cael eu datblygu ynghyd ag ymwybyddiaeth o ddimensiynau moesegol llunio polisiau a bywyd cyhoeddus. Yn ogystal, bydd sgiliau trosglwyddadwy dadansoddi persbectifau gwahanol a'u cymhwyso at ddadansoddiad astudiaethau achos arbennig yn cael eu datblygu.

Drwy gyfrwng darlithoedd a seminarau gall myfyrwyr feithrin sgiliau mwy penodol o ddehongli testun a deall cysyniadau. Bydd seminarau yn rhoi'r cyfle i gydweithio mewn grwpiau bychain ac i draddodi cyflwyniadau. Bydd y traethawd yn datblygu sgiliau ymchwilio annibynnol, dadleuon strwythuredig a chytbwys ynghyd a mynegiant eglur. Bydd yr arholiadau yn datblygu sgiliau cynllunio ymlaen llaw ac yn datblygu'r gallu i asesu gwahanol bersbectifau a dadleuon mewn amser cyfyngedig.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4