Module Information

Cod y Modiwl
GF17120
Teitl y Modiwl
Cyfraith Ewropeaidd 1
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
LA17120 and LA37120
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 30 awr. 2 x 1 awr yr wythnos yn Saesneg.
Seminarau / Tiwtorialau 6 awr. 3 x 1 awr yn Gymraeg pob semester.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  100%
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad  100%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl yn llwyddiannus, dylai'r myfyrwyr fod yn gallu:
Erbyn diwedd y cwrs, dylai'r myfyrwyr fod wedi meithrin dealltwriaeth o strwythur gweithdrefnau cyfreithiol Ewrop, eu cydberthynas, swyddogaethau'r prif Sefydliadau Ewropeaidd, a phrosesau deddfu a chymhwyso'r gyfraith ar lefel Ewropeaidd. Dylent hefyd fod wedi meithrin lefel resymol o gymhwysedd wrth ganfod a defnyddio ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd ar gyfraith Ewropeaidd, wrth ymresymu ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac wrth ddadansoddi problemau trwy ddefnyddio methodoleg cyfraith Ewropeaidd, ynghyd a dealltwriaeth o'r ffordd y mae gwahanol fathau o gyfreithiau Ewropeaidd yn rhyngweithio a systemau cyfraith gwlad.

Disgrifiad cryno

Dros y 50 mlynedd diwethaf, mae corff o gyfreithiau wedi codi yn Ewrop ac o dipyn i beth mae'r rhain wedi newid ac, i ryw raddau, wedi disodli dulliau o weithredu'r gyfraith mewn nifer o wledydd, gan gynnwys y Deyrnas Unedig. I raddau helaeth mae hyn wedi digwydd ledled yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'r Deyrnas Unedig yn aelod ers dros 25 mlynedd. Erbyn hyn, mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn cynnwys corff helaeth iawn o reolau sy'n llywodraethu ar bob math o weithgaredd masnachol a chymdeithasol yn yr aelod-wladwriaethau. Ers rhai blynyddoedd, mae'r gweithredu cyffredin yn y maes gwleidyddol a chyfreithiol wedi ei ymestyn i gwmpasu meysydd polisi tramor a diogelwch, a chydweithio barnwrol a rhwng heddluoedd. Ar yr un pryd, ers dechrau'r 1950au, mae Cyngor Ewrop wedi hyrwyddo datblygiad ehangach yn y gyfraith Ewropeaidd trwy fabwysiadu nifer o Gonfensiynau Ewropeaidd, yn fwyaf nodedig y Confensiwn ar Hawliau Dynol. Ar ddechrau'r 21ain ganrif felly, mae'r darlun cyfreithiol Ewropeaidd yn dangos cyfres soffistigedig a chydgysylltiedig o gyfundrefnau cyfreithiol sydd, gyda'i gilydd, yn effeithio'n sylweddol ar weithrediad systemau cyfreithiol holl aelod-wladwriaethau'r UE o ddydd i ddydd. Erbyn hyn, mae'n amhosibl meithrin dealltwriaeth resymol o gyfraith a system gyfreithiol y Deyrnas Unedig heb ddeall trefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd a chyfreithiau Ewropeaidd eraill.

Diben y modiwl hwn yw rhoi gwybodaeth a dealltwriaeth am brif elfennau'r systemau cyfreithiol Ewropeaidd hyn a chyflwyniad i'r deunyddiau a'r fethodoleg a ddefnyddir o fewn y systemau. Mae rhai agweddau pwysig o'r deunyddiau cyfreithiol a ddefnyddir yn yr Undeb Ewropeaidd ac o dan systemau cyfreithiol Ewropeaidd eraill yn wahanol iawn i'r rhai a ddefnyddir yng Nghymru a Lloegr ac felly mae dysgu sut i ddefnyddio'r ffynonellau hyn a dysgu am y dulliau cyfreithiol Ewropeaidd yn rhan bwysig o'r cwrs. Mae'r modiwl yn rhagofyniad ar gyfer astudiaeth bellach o gyfraith Ewrop [Modiwl GF/LA32410].

Bydd y modiwl yn olrhain datblygiad y systemau cyfreithiol a seilir ar yr Undeb Ewropeaidd ac sy'n codi o fewn fframwaith Confensiynau Cyngor Ewrop, yn esbonio eu prif nodweddion ac yn ystyried eu cydberthynas. Bydd ffocws arbennig ar y gwahaniaeth rhwng trefniadau cyfreithiol 'goruwchgenedlaethol' system fwy integredig yr Undeb Ewropeaidd a'r dull 'rhynglywodraethol' a ddefnyddir gan yr Undeb a chan Gyngor Ewrop. O angenrheidrwydd, bydd rhan sylweddol o'r cwrs yn ymdrin a'r broses ddeddfu, gweithredu a gorfodi cyfraith yr Undeb Ewropeaidd ac atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd. Ymhlith y materion pwysig a drafodir mae'r berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r systemau cenedlaethol ers i'r rhan fwyaf o gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd ddod i rym yn llysoedd ac asiantaethau'r aelod-wladwriaethau. Mae astudio'r problemau sy'n codi wrth rannu'r swyddogaethau hyn o fewn system yr Undeb Ewropeaidd (deddfu a dehongli'r gyfraith ar lefel yr Undeb Ewropeaidd a'i gorfodi ar lefel genedlaethol) yn thema bwysig yn y rhan yma o'r cwrs.

Nod

Nod y modiwl yw rhoi dealltwriaeth o strwythur a methodoleg gorchmynion cyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd a'r cyfundrefnau a sefydlwyd gan Gonfensiynau Cyngor Ewrop; hyrwyddo ymwybyddiaeth o effaith gyffredinol y gyfraith Ewropeaidd ar weithrediad y system gyfreithiol genedlaethol; a bodloni gofynion proffesiynol ar lefel gyntaf hyfforddiant ym maes y gyfraith Ewropeaidd.

Cynnwys

Maes llafur:

1. Cyflwyniad i'r ffynonellau gwybodaeth a'r llenyddiaeth berthnasol.

2. Gorolwg o gyfundrefnau cyfreithiol Ewrop: yn arbennig yr Undeb Ewropeaidd a Chyngor Ewrop
- eu datblygiad
- eu hamcanion
- eu cydberthynas
- modelau rhynglywodraethol a goruwchgenedlaethol

3. Gweithgareddau Cyngor Ewrop, gan gyfeirio'n arbennig at y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a'i drefn o amddiffyniad cyfreithiol.

4. Strwythur yr Undeb Ewropeaidd
- y prif gytuniadau
- Sefydliadau'r UE
- fframwaith cyfreithiol 'geometreg newidiol'

5. Gydweithredu barnwrol a rhwng heddluoedd, gweithgarwch cyfreithiol a chyfundrefnau cysylltiedig.

6. Nodweddion sylfaenol trefn gyfreithiol yr Undeb Ewropeaidd: athrawiaeth goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a rol a dulliau gweithredu llysoedd yr Undeb Ewropeaidd.

7. Prosesau deddfu'r UE a chategoriau cyfreithiau'r UE.

8. Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd
- sut mae'r Undeb Ewropeaidd a chyrff yr Aelod-wladwriaethau yn rhoi grym i'r rheolau a rol Llys Cyfiawnder Ewrop
- gorfodaeth, yn erbyn Aelod-wladwriaethau ac yn erbyn unigolion
- rol yr athrawiaeth effaith uniongyrchol a'r egwyddorion cysylltiedig

9. Atebolrwydd yng nghyfraith y Undeb Ewropeaidd
- atebolrwydd sefydliadau'r UE
- cyfyngiadau cyfreithiol ar y pwerau i wneud penderfyniadau
- adolygiad barnwrol o weithredoedd yr UE
- mathau eraill o atebolrwydd

10. Llywodraethu

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Chalmers, Damian (2010) European Union Law: text and materials 2nd ed. Cambridge University Press Chwilio Primo Craig, P.P. (2007) EU Law: texts, cases and materials 4th ed. Oxford University Press Chwilio Primo Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation (2004) 9th ed. Oxford University Press

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4