Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | A COMPULSORY MODULE DEVELOPMENT WORKSHOP One session of 7 hours to be held over reading week (in same session as ED30120) |
Darlithoedd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (3000 gair) | 50% |
Asesiad Semester | Arteffact/ Gem Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol 3 full days need to be timetabled due to class numbers - class will be split. Rooms to be timetabled in P5 | 40% |
Arholiad Semester | 6 Awr Cyflwyniad Llafar Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol. Bydd yr asesu gan gymheiriaid yn cyfrannu 10% o’r marc terfynol. | 10% |
Asesiad Ailsefyll | Aseiniad Atodol Aseiniad ysgrifenedig: Cynllunio cynllun asesu mewn cyd-destun penodol (gwahanol i’r uchod) (3000 gair) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Arteffact atodol Arteffact: Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol newydd | 40% |
Arholiad Ailsefyll | 6 Awr Cyflwyniad llafar atodol Asesu llafar a chan gymheiriaid: Amddiffyniad ar lafar am ddeg munud o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol. Os na bydd hi’n bosibl i gynnal cyflwyniad llafar, gofynnir i fyfyrwyr ddarparu amddiffyniad ysgrifenedig o’r gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol. | 10% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Arddangos dealltwriaeth o’r cysyniadau a’r gweithdrefnau technegol sydd ynghlwm wrth gynllunio asesiadau mewn cyd-destunau addysgol;
Adolygu a thrafod yn feirniadol y prif bynciau i’w hystyried wrth gynllunio trefniadau asesu priodol.
Arddangos dealltwriaeth o sut y mae arferion asesu yn rhyngweithio â dysgu myfyrwyr;
Cynllunio a chynhyrchu gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol;
Cyflwyno’n feirniadol amddiffyniad ar lafar o’u gêm ‘asesu ar gyfer dysgu’ ryngweithiol.
Disgrifiad cryno
Mae’r modiwl yn ceisio asesu’r hyn y mae myfyriwr yn ei ddysgu ac wrth wneud hynny yn codi’r cwestiynau, ‘pam?’ ac ‘er lles pwy?’ yn ogystal â ‘beth sydd i’w asesu?’. Mae’r modiwl hwn yn ymwneud â rôl asesu mewn cyd-destun addysgol, yn amrywio o asesu dysgu yn yr ystafell ddosbarth anffurfiol i systemau asesu yn genedlaethol. Dadansoddir enghreifftiau o arferion asesu ym mhob cam addysg, o ysgolion cynradd i addysg uwch, gyda golwg ar ddeall posibiliadau a chyfyngiadau asesu mewn cyd-destun addysgol. Rhoddir pwyslais yn arbennig ar asesu ar gyfer egwyddorion ac arferion dysgu. O’r herwydd, rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr ddatblygu gêmau rhyngweithiol wedi eu hanelu at israddedigion yn y flwyddyn gyntaf, gyda golwg ar annog myfyrwyr i fyfyrio arnynt eu hunain a gwerthuso eu hunain.
Cynnwys
Beth yw asesiad ‘da’? Rhai cysyniadau allweddol.
Darlith 2. Cynllunio cynllun asesu: manylion, cwmpas a phwrpas.
Darlith 3. Asesu ar gyfer dysgu: egwyddorion ac enghreifftiau.
Darlith 4. Systemau asesu: Y Cwricwlwm Cenedlaethol.
Darlith 5. Systemau asesu: Llwybr 14-19 – TGAU, Safon Uwch, GNVQ, Bagloriaeth Cymru, a sgiliau allweddol ac ehangach.
Darlith 6. Systemau asesu: Addysg Uwch
Darlith 7. Pynciau allweddol asesu: asesu ffurfiannol; safoni asesu athrawon; safonau cenedlaethol.
Darlith 8. Hunanfyfyrio a hunanwerthuso gan fyfyrwyr.
Cyflwyniad i asesu gan gymheiriaid.
Darlith 9. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gêm ryngweithiol.
Darlith 10. Asesu gan gymheiriaid: cyflwyniad llafar myfyrwyr o gêm ryngweithiol.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6