Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | |
Seminarau / Tiwtorialau |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr arholiad atodol | 50% |
Arholiad Semester | 3 Awr Semester Examination 3 hour examination | 50% |
Asesiad Ailsefyll | asesiad atodol | 25% |
Asesiad Ailsefyll | asesiad atodol | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 1 - 2,500 2 traethawd x 2,500 o eiriau | 25% |
Asesiad Semester | Traethawd 2 - 2,500 | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
a) Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol ym maes hanes modern a chyfoes Cymru.
Beirniadu, trafod a deall ffynonellau ar ystod o faterion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, sy'r ymwneud a hanes Cymru fodern.
Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'r berthnasol i archwilio llywodraeth, pleidiau gwleidyddol, carfannau pwyso, a mudiadau cymdeithasol.
Casglu a dadansoddi eitemau perthnasol o dystiolaeth hanesyddol, o ffynonellau eilaidd ac ystadegau.
Darllen, dadansoddi ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd a gwreiddiol, yn enwedig llyfrau ac erthyglau, ond hefyd papurau newyddion, pamphledi, gohebiaeth argraffiedig, a phapurau seneddol.
Ystyried y berthynas rhwng hanes a disgyblaethau eraill, yn enwedig gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg a theori ieithyddiaeth.
Datblygu'r gallu i werthuso cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol a, lle bo angen, eu herio.
Datblygu sgiliau llafar (na chant eu hasesu) ac ysgrifenedig, trwy gyfrwng trafodaethau seminar a thraethodau.
Gweithio'r annibynnol ac ar y cyd, a chymryd rhan mewn trafodaethau gr'r (ni chant eu hasesu).
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn disgrifio ac yn ceisio esbonio rhai o brif ddigwyddiadau'r hanner canrif diwethaf yn hanes Cymru. Trwy ddwyn sylw at ddatblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol yn y Gymru gyfoes, byddwn yn ystyried ymatebion y Cymry fel pobl i'r newidiadau pell-gyrhaeddol hynny. Byddwn hefyd yn ystyried y dylanwad gafodd sefydliadau gwleidyddol a diwylliannol Cymreig, Prydeinig ac Ewropeaidd ar dwf ein hunaniaeth genedlaethol. Yn olaf, bydd y modiwl yn rhoi cysyniadau fel 'cynrychiolaeth wleidyddol' ac 'arweinyddiaeth gymdeithasol' yng nghyd-destun yr ysgrifau diweddaraf ar hanes a chymdeithaseg y Gymru fodern.
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydJohn Davies (1993) A history of Wales / Hanes Cymru Chwilio Primo K.O.Morgan (1981) Rebirth of a Nation. Wales 1880-1980 Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6