Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 awr. Yn Saesneg. |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 awr. 4 x 1 awr yn Gymraeg pob semester. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. | 100% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad . Caiff ymgeiswyr ddod a chopiau, heb eu marcio, o Blackstone's EU Treaties and Legislation NEU Palgrave a Macmillan Core EU Legislation NEU Routledge European Union Legislation NEU OUP, Rudden and Wyatt's EU Treaties and Legislation. Rhaid i ddeunydd o'r fath aros heb ei farcio yn ystod yr arholiad. Caniateir goleuo testun a thanlinellu. Ceir defnyddio nodiadau post-it gwag i gadw tudalennau. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Egluro a dangos dealltwriaeth o strwythur systemau cyfreithiol Ewropeaidd a'u perthynas a'i gilydd.
2. Egluro rolau'r prif Sefydliadau Ewropeaidd.
3. Dadansoddi prosesau deddfwriaeth a datblygiad egwyddorion cyfreithiol yn Ewrop.
4. Dangos tystiolaeth o gwblhau ymchwil gyfreithiol er mwyn dangos lefel sylfaenol o gymhwysedd wrth leoli a defnyddio prif ffynonellau a ffynonellau eilaidd cyfraith Ewropeaidd.
5. Dangos dealltwriaeth o sut y mae gwahanol gategoriau o gyfraith Ewrop yn rhyngweithio a systemau cyfreithiol cenedlaethol.
6. Egluro'r egwyddorion y seilir y farchnad fewnol sengl arnynt a sut yr adlewyrchir y rhain mewn darpariaethau Cytuniadau a'u datblygiad mewn deddfwriaeth eilaidd ac achos Llys Cyfiawnder Ewrop.
7. Cymhwyso'r egwyddorion cyfreithiol perthnasol er mwyn datrys problemau damcaniaethol ac ymarferol sy'n codi pynciau yn ymwneud ag agweddau ar Gyfraith yr Undeb Ewropeaidd.
Disgrifiad cryno
Mae cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) bellach yn cynnwys corff sylweddol iawn o reolau sy'n rheoli sbectrwm eang o weithgareddau masnachol a chymdeithasol yn yr aelod-wladwriaethau ac mae hi'n amhosibl bellach i feithrin dealltwriaeth synhwyrol o gyfraith a system gyfreithiol y DU heb wybodaeth am yr UE a gorchmynion cyfreithiol Ewropeaidd eraill. Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno deunyddiau a methodolegau gorchmynion cyfreithiol Ewrop i fyfyrwyr ac yn egluro prif nodweddion y systemau cyfreithiol sy'n seiliedig ar yr Undeb Ewropeaidd a'r rheiny sy'n codi o Gonfensiynau Ewrop. Bydd y modiwl yn canolbwyntio'n benodol ar brosesau deddfu; gweithredu a gorfodi cyfraith a pholisi'r UE; atebolrwydd cyfreithiol sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd; y berthynas rhwng yr UE a systemau cenedlaethol, ynghyd a meysydd pwysig cyfraith sylwedd yr UE, megis y rheolau cyfreithiol sy'n rheoli'r farchnad fewnol.
Cynnwys
2. Natur Cyfraith yr UE: Ystyr a datblygiad Athrawiaeth Goruchafiaeth cyfraith yr UE; Athrawiaeth effaith uniongyrchol; Cymwysterau a Chategoriau'r Gyfraith (Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau)
3. Strwythur sefydliadol yr Undeb Ewropeaidd: Comisiwn, Cyngor a Senedd (cyfansoddiad a phwerau); Cyfansoddiad a Strwythur Sefydliadol Llysoedd yr UE; rol yr Adfocad Cyffredinol; Dulliau Gwaith a Phroses Resymu'r Llysoedd Ewropeaidd
4. Prosesau deddfu'r UE: Prosesau Deddfu ffurfiol a 'Chyfraith Feddal'
5. Gweithredu a gorfodi rheolau'r Undeb Ewropeaidd: rol Llysoedd Cenedlaethol a'r Drefn Gyfreirio Ragarweiniol; Effaith Uniongyrchol; Atebolrwydd Gwladol
6. Atebolrwydd yng nghyfraith yr UE: Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undebau; Sail dros yr Adolygiad Barnwrol o Weithredu'r Undebau; Comisiwn yn Gorfodi Rheolau'r UE
7. Rheoliad y Farchnad Fewnol: Darpariaethau Symud yn Rhydd (Pobl, Nwyddau a Gwasanaethau)
8. Meysydd Polisi Sylwedd Dethol yn ol cymhwysedd yr UE neu feysydd cyfraith sy'n ymwneud a rheoliad y farchnad fewnol, e.e. meysydd Cyfraith Cystadlu, Polisi Cymdeithasol.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Paratoi, a thrafod, mewn seminarau |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd dysgu drwy gydol y modiwl yn berthnasol i yrfa ym myd y gyfraith |
Datrys Problemau | Paratoi a thrafod cwestiynau datrys-problemau mewn seminarau |
Gwaith Tim | Gwaith seminar: paratoi a thrafodaethau grwp |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | Ymchwil gyfreithiol: defnyddio cronfeydd data cyfreithiol a gynlluniwyd yn benodol fel adnodd ar gyfer cyfraith statudol a chyfraith achosion |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau |
Technoleg Gwybodaeth | Ymchwilio yn dilyn y darlithoedd a pharatoi seminarau |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6