Module Information
Cod y Modiwl
CC39440
Teitl y Modiwl
Prosiect Hir
Blwyddyn Academaidd
2013/2014
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cofrestru yn yr Adran
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | Prosiect dan oruchwyliaeth. Mae 4 darlithoedd yn gysylltiedig a'r modiwl hwn. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ailsefyll arholiad a fethwyd a/neu ailgyflwyno elfennau'r gwaith cwrs a fethwyd/nas cyflwynwyd neu elfennau cyfwerth. | 100% |
Asesiad Semester | Prosiect Hir (o leiaf 10,000 o eiriau) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
bod wedi cwblhau darn o waith, o dan arweiniad goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a meddwl annibynnol;
bod wedi dangos gallu i feithrin arbenigedd mewn maes astudio penodol a hynny'n bennaf drwy astudio dan arweiniad;
bod wedi llunio gwerthusiad beirniadol o'u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dulliau o weithio.
Disgrifiad cryno
Rhaid i fyfyrwyr gwblhau darn sylweddol o waith, dan arweiniad goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a meddwl annibynnol. Fel arfer, mi fydd y prosiectau'n gofyn am ddatblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol o ofynion drwy gamau manylu a dylunio, hyd at ei weithredu a'i brofi'n llwyddiannus. Mae'n bosibl y ceir elfen o galedwedd yn achos myfyrwyr a chefndir addas.
Pwrpas prosiect CC39440 yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddwyn ynghyd y sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth o ddamcaniaethau a feithrinwyd ganddynt, trwy ddatblygu cynnyrch cyflawn o'r cam o fanylu ar ofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn medru bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys paratoi'r dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennu'r penderfyniadau a wnaed ynghylch dylunio.

Cynnwys
Mae 4 darlith ffurfiol yn gysylltiedig a'r prosiect.
Deunydd Ysgrifenedig
Mewn wythnos arferol, disgwylir y bydd y myfyrwyr yn treulio tua 2/3 o'u hamser ar y prosiect, a disgwylir iddynt gyfarfod â'u harolygwr yn rheolaidd. Asesir y cwrs ar eu cyflawniad technegol, wedi'i ddangos drwy arddangosiadau, adroddiadau cyfamserol, yn ogystal ag arddangosiad terfynol y prosiect, ac adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Dylai'r modiwl hwn fod yn fanteisiol i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad). |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Dylai'r modiwl hwn gynorthwyo'r myfyriwr i ddeall yr hyn sy'n bosibl iddo/iddi ei wneud a'r radd. |
Datrys Problemau | Mae datrys problemau yn elfen gynhenid wrth weithredu systemau Cyfrifiadura. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gofynnir i'r myfyriwr ystyried yr hyn a ddysgwyd ganddo/ganddi a'i b/pherfformiad. |
Rhifedd | Mae Cymhwyso Rhifau yn elfen gynhenid wrth astudio Cyfrifiadura. |
Sgiliau ymchwil | Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth cymhwyso ar gyfer systemau cyfrifiadura. |
Technoleg Gwybodaeth | Mae Technoleg Gwybodaeth yn elfen gynhenid wrth astudio Cyfrifiadura. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6