Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | Cyflwynir y modiwl hwn drwy gyfuniad o seminarau yn y Brifysgol a lleoliad gwaith mewn cwmni neu sefydliad ym maes y cyfryngau creadigol. Serch hynny, bydd cyswllt cyson rhwng y cydlynydd a'r myfyriwr unigol yn ystod y cyfnod hwn. Seminarau dwys yn y Brifysgol: 5 awr ar ddechrau a 5 awr ar ddiwedd y lleoliad gwaith. Tiwtorial unigol i baratoi ar gyfer cyflwyno'r Portffolio: cyfwerth â 2 awr a Tiwtorialau electronig: 8 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Lleoliad gwaith a dogfennaeth atodol ddisgrifiadol (2000 o eiriau) | 40% |
Asesiad Semester | Portffolio Critigol sy'n ymgorffori'r berthynas rhwng profiad penodol y myfyriwr unigol ar leoliad a disgwrs damcaniaethau'r cyfryngau creadigol yn gyffredinol (5000 o eiriau) | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio a dadansoddi'r prosesau o gynhyrchu gwaith creadigol o fewn y cwmni neu'r sefydliad.
2. Dangos, drwy waith ysgrifenedig, y gallu i berthnasu esiamplau penodol o'r profiad ymarferol i'r drafodaeth ddeallusol ar y cyfryw ddiwydiannau.
3. Tafoli a hunanwerthuso'r profiad o fod ar leoliad.
Nod
Mae'r modiwl hwn yn ychwanegiad at ddarpariaeth MA yr Adran ac yn benodol yn rhan o gynllun MA Cyfryngau Creadigol Ymarferol , sef yr unig gynllun MA cyfrwng Cymraeg sydd ganddi. Bwriad y modiwl hwn yw cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr i gasglu gwybodaeth arbenigol a dealltwriaeth ymarferol o'r cyfryngau creadigol ar waith yn eu cyd-destun yn y gweithle cyfoes. Bydd yn datblygu ar sgiliau trosglwyddadwy’r myfyrwyr - yn ysgrifenedig ac ar lafar- ac yn eu paratoi'n well ar gyfer y farchnad waith. Mae hefyd yn rhoi nod arbennig ar y modiwl ac ar y cynllun gradd ac yn ei wneud yn fwy deniadol i fyfyrwyr.
Cynnwys

Disgrifiad cryno

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i fyfyrwyr feithrin sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig clir a chroyw yn ystod y modiwl hwn ar gyfer cynnal perthynas broffesiynol lwyddiannus yn y gweithle ac ar gyfer cyflawni'r asesiadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd y lleoliad yn help i ddatblygu sgiliau cyflwyno a llafar y myfyrwyr. Bydd yr ystod o brofiadau a geir, yn ogystal a chwblhau'r gwaith asesedig, yn cyfrannu tuag at eu portffolio o sgiliau trosglwyddadwy. Bydd y mewnwelediad penodol o arsylwi'n fanwl ar weithgaredd a gweithdrefnau o fewn lleoliad gwaith yn y diwydiannau creadigol yn fuddiol iawn wrth gynllunio gyrfa. |
Datrys Problemau | Gwaith prosiect annibynnol a datrys problemau fydd un o amcanion canolog y modiwl hwn. Bydd y myfyriwr yn cyfranogi at weithgarwch y gweithle ac fe fydd hyn cynnwys ymgymryd a thasgau sydd yn gyfle i ddatblygu sgiliau prosiect annibynnol. Bydd gofyn i'r myfyriwr ddatrys problemau yn y gweithle ac arsylwi ar y modd y gwnaethpwyd hynny. |
Gwaith Tim | Fe fydd angen i'r myfyriwr weithio mewn tim yn y gweithle. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r modiwl hwn yn anelu at hybu hunanreolaeth o fewn cyd-destun cymorth gan y Cydlynydd a'r Rheolwr Llinell yn y gweithle. Wedi ei seilio yn y gweithle, disgwylir i fyfyrwyr wella eu dysgu a'u perfformiad personol trwy wneud gwaith ymchwil eu hunain a defnyddio eu menter eu hunain gan chwilio am ffynonellau, paratoi rhestrau darllen, a phenderfynu (gydag arweiniad) gyfeiriad y gwaith asesedig. Bydd y rheidrwydd i gadw at ddyddiadau cau gyda'r gwaith ysgrifenedig yn canolbwyntio sylw'r myfyrwyr ar yr angen i reoli amser ac adnoddau yn dda. |
Rhifedd | Yn ddibynnol ar y tasgau a osodir i'r myfyrwyr yn y gweithle, gellir disgwyl y bydd elfennau sylfaenol o wybodaeth rifyddol (e.e. cyllidebau neu amserlenni) yn cael eu datblygu yn ystod y modiwl hwn. |
Sgiliau pwnc penodol | Fe fydd y modiwl hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu, ymarfer a phrofi ystod eang o sgiliau pwnc penodol a fydd yn eu helpu i ddeall, a chymhwyso syniadau. |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd yn modiwl yn caniatau helpu myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol yn y gweithle drwy arsylwi ar y gweithdrefnau a’r penderfyniadau a wneir mewn perthynas a'r cyfryngau creadigol. Bydd y gwaith hwn yn cael ei asesu yn yr aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith asesedig gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7