Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | Darlithoedd a Seminarau: 5 x 6 awr yn ystod 5 wythnos gyntaf y Semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Llyfryddiaeth gyda nodiadau | 25% |
Asesiad Semester | Cynllun Ysgrifenedig o'r Cynnig Ymchwil. Dylai'r cynllun ysgrifenedig fod yn 3,500 o eiriau. Dylai gynnwys yr elfennau uchod (thema, methodoleg, fframwaith cysyniadol). Bydd yn ddilyniant o'r Cyflwyniad Llafar. Dylai hefyd ymgorffori amserlen a chynllun manwl o'r camau ar gyfer cyflawni a chyflwyno'r ymchwil terfynol. | 50% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Llafar o'r Cynnig Ymchwil. Dylai'r cyflwyniad hwn gynnwys datganiad ynglyn a'r canlynol: (a) thema neu bwnc (b) methodoleg/au (c) fframwaith cysyniadol Gall y cyflwyniad gynnwys defnydd o waith ymarferol, perfformio, cynhyrchu byw, fideo, data, sain ayb. Dylai'r cyflwyniad fod o 20 munud o hyd, gyda hyd at 20 munud o drafodaeth. | 25% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o ofynion ymchwil academaidd ar lefel uwchraddedig
2. Arddangos y gallu i adnabod, caffael a chymhwyso methodoleg addas ar gyfer cynllunio prosiect ymchwil uwchraddedig
3 Arddangos y gallu i drefnu a chyflwyno cynllun ymchwil cynhwysfawr, cydlynol a chyraeddadwy
Nod
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.
Cynnwys
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.
Disgrifiad cryno
Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r methodolegau ymchwil a arddelir ym meysydd y cyfryngau creadigol gyda'r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd yn rhaid i'r myfyriwr gyflwyno'r cynnig ymchwil ar lafar ac yn ysgrifenedig. Caiff y sesiynau dysgu hefyd eu cynnig yn gyfle i'r myfyriwr finiogi ei sgiliau cyfathrebu, gan ddisgwyl cyfraniadau ystyrlon a gloyw. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Rhydd y modiwl hwn gyfle i fyfyrwyr ddatblygu prosiect ymchwil arbennig sydd wedi ei leoli o fewn cyd-destun ymchwil academaidd ac o fewn maes y cyfryngau creadigol. Rhoddir pwyslais ar i'r myfyriwr ddatblygu'n bersonol o fewn y fframwaith hwn. |
Datrys Problemau | Arddangos gallu i lunio cynnig ar gyfer prosiect ymchwil. Bydd y medrau hyn yn cael eu datblygu wrth i'r myfyriwr ystyried y math o gwestiynau ymchwil, y dulliau a'r methodolegau addas ar gyfer y dasg a'r technegau a'r strategaethau o gynllunio ymchwil uwchraddedig. |
Gwaith Tim | Er mai cynigion ymchwil unigol yw prif ffocws asesiadau'r modiwl, disgwylir i'r myfyrwyr gyfranogi at waith eu cyd-fyfyrwyr yn ystod y seminarau a hefyd wrth iddynt gyflwyno eu cynnig ymchwil ar lafar |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd angen i'r myfyrwyr ddatblygu cynnig a chynllun ymchwil unigryw eu hunain a fydd yn seiliedig ar eu syniadau, eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth. Mae hunanreolaeth yn rhan bwysig o ddatblygu ffiniau'r cynllun terfynol. Fe fydd y sesiynau yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain. |
Rhifedd | Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn defnydd o wybodaeth rifyddol ac ystadegol y myfyrwyr. |
Sgiliau pwnc penodol | Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb? |
Sgiliau ymchwil | Prif amcan y modiwl hwn yw astudio ac ystyried ystod o fethodolegau ar gyfer dod i benderfyniad ynglyn a chynllun ymchwil uwchraddedig. Mae gofyn i'r myfyriwr roi ystyriaeth lawn i'r dulliau a'r deunyddiau ymchwil. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd rhai methodolegau (e.e. dadansoddi cynnwys) yn estyn sgiliau technoleg gwybodaeth y myfyrwyr. Disgwylir hefyd y bydd defnydd o gyfryngau newydd yn rhan o’r hinsawdd ymchwil hwn. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7