Module Information

Cod y Modiwl
TCM0130
Teitl y Modiwl
DAMCANIAU'R CYFRYNGAU CREADIGOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd Darlithoedd rhyngweithiol 10 x 3 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Os methir y cyflwyniad ffurfiol ar lafar, yna rhaid ailgyflwyno gerbron dosbarth neu o flaen isafswm o ddau arholwr/wraig yn ol gofynion ac amodau'r amserlen  50%
Asesiad Ailsefyll Os methir y traethawd, yna rhaid ailgyflwyno traethawd 3,500 o eiriau.  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad ffurfiol ar lafar (Syniadaeth theoretig).  Gall y cyflwyniad gynnwys defnydd o waith ymarferol, perfformio, cynhyrchu byw, fideo, data, sain ayb. Dylai'r cyflwyniad fod o 20 munud o hyd, gyda hyd at 20 munud o drafodaeth a chwestiynau i'r myfyriwr. Amserlennir y cyflwyniad ar ol cyfnod o 10 wythnos pan fydd myfyrwyr wedi cael gafael ar bump o gysyniadau allweddol trwy gyfrwng y sesiynau dasu ffurfiol  50%
Asesiad Semester Traethawd 3,500 o eiriau.  Amserlennir y traethawd ar ddiwedd y cyfnod dysgu cyflawn tuag at ddiwedd y flwyddyn academaidd.  50%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

1. Arddangos dealltwriaeth ddofn ac ymwybyddiaeth feirniadol o ddamcaniaethau allweddol y cyfryngau creadigol ar lefel uwchraddedig

2. Arddangos y gallu i werthuso a chymhwyso rhai o’r damcaniaethau a astudiwyd i gyd-destun theoretig Cydgyfeiriant a'r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru gyfoes.

3 Arddangos y gallu i drafod y cyfryw ddamcaniaethau yn hyderus ar lafar ac yn ysgrifenedig

Nod

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau allweddol sydd yn sylfaen athronyddol i nifer o agweddau ar astudio'r cyfryngau creadigol gyda’r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Cynnwys

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau allweddol sydd yn sylfaen athronyddol i nifer o agweddau ar astudio'r cyfryngau creadigol gyda’r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i ystod o ddamcaniaethau allweddol sydd yn sylfaen athronyddol i nifer o agweddau ar astudio'r cyfryngau creadigol gyda’r bwriad o ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r amrywiaeth sydd ar gael, dyfnhau eu gwybodaeth ohonynt a chynnig cyfle iddynt archwilio'r tensiynau rhyngddynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'r modiwl yn gosod pwyslais sylweddol ar allu cyfathrebu: fe fydd y traethawd ysgrifenedig yn profi gallu'r myfyriwr i lunio a chyflwyno dadl a dadansoddiad cynhwysfawr ar bapur; ac fe fydd y cyflwyniad llafar ffurfiol yn gofyn iddo/iddi baratoi a chyflwyno dadl yn ogystal ag ateb cwestiynau a sylwadau wedi hynny.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Fel unrhyw fodiwl sy'n trafod theori a chysyniadau, fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr fynd i'r afael a syniadau a'u cymhwyso ar gyfer eu hanghenion a'u daliadau neilltuol eu hunain. Fe fydd y modiwl hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ystyried sut y gellir trosglwyddo syniadau am ddiwylliant i gyd-destun ymarferol trwy baratoi a chynhyrchu cyflwyniad llafar ffurfiol.
Gwaith Tim Ni ddatblygir gwaith tim yn ffurfiol o fewn y modiwl hwn y tu hwnt i'r hyn sydd yn arferol mewn modiwlau sydd yn cynnwys seminarau. Yn yr aseiniad cyntaf, disgwylir i fyfyrwyr gyd-drafod eu gwaith ynghyd â chynnig adborth a gwneud sylwadau ar waith ei gilydd
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fe fydd y myfyriwr yn derbyn ymateb ac adborth gan y dosbarth ar yr aseiniad cyntaf (cyflwyniad llafar) ac fe rydd hyn gyfle i fyfyrwyr archwilio eu profiad dysgu a pherfformio eu hunain.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Lle bo'n briodol gall myfyriwr ddefnyddio technegau ymchwil a chyflwyno mewn perthynas ag ymarfer nad ydynt yn gyffredin mewn pynciau cyffelyb.
Sgiliau ymchwil Fe fydd y naill asesiad a'r llall ar gyfer y modiwl hwn yn gofyn i'r myfyriwr gyflawni ymchwil llyfrgell ac archif
Technoleg Gwybodaeth Bydd cyfle i ddefnyddio elfennau ychwanegol o dechnoleg gwybodaeth o fewn yr aseiniad cyntaf, ond nid asesir hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7