Module Information

Cod y Modiwl
TC30220
Teitl y Modiwl
YMARFER ALLWEDDOL FFILM A'R CYFRYNGAU
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 10 Darlith/Seminar x 2 awr
Eraill 10 Sesiwn Wylio x 3 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd)  50%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Beirniadol (gwerth 2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Traethawd (2500 o eiriau)  50%
Asesiad Semester Portffolio Beirniadol (gwerth 2500 o eiriau)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos gwybodaeth eang o'r arferion a astudiwyd

Arddangos gallu i werthuso a lleoli testunau o fewn cyd-destun addas

Arddangos y gallu i gymhwyso gwybodaeth gysyniadol a hanesyddol wrth drafod gwaith ymarferol

Arddangos dealltwriaeth addas o waith ymarferol fel ymarferiad deallusol esthetaidd.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i waith allweddol ym maes ffilm a theledu. Bwriad y modiwl
yw rhoi profiad i fyfyrwyr o asesu gweithiau unigol mewn cyd-destun addas er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o natur ffilm a'r cyfryngau.
Rhoddir sylw penodol i ddadansoddi esiamplau o waith, wrth eu gosod mewn cyd-destun hanesyddol a chymdeithasol addas.

Cynnwys

Hanes
Y camera
Golygu
Sain
Naratif
Ideoleg
Perfformio
Genre
Awduriaeth
Cynrychiolaeth

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir y sgiliau hyn wrth drafod ac archwilio syniadau mewn seminarau. Mae'r traethawd hefyd yn datblygu ac yn asesu gallu'r myfyrwyr i gyfathrebu mewn modd effeithiol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Fe fydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau dadansoddol wrth drafod y testunau. Rhydd y traethawd a¿r portffolio gyfle i fyfyrwyr i ymateb yn greadigol ac yn ddadansoddol; mae trefn yr aseiniadau yn rhoi cyfle iddynt fyfyrio ar eu hymateb i'r gwaith.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. Sail y seminarau fydd dadansoddi deunydd academaidd. Rhydd y traethawd gyfle i fyfyrwyr i gynhyrchu dadansoddiad ysgrifenedig a ddaw yn sgil yr ymchwil a wnaethpwyd ar gyfer y darlithoedd a'r seminarau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6