Module Information

Cod y Modiwl
TC22820
Teitl y Modiwl
DARLLEDU A'R GENEDL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 yn llwyddiannus

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Portffolio Critigol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd)  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol (3000 o eiriau)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Trafod hanes darlledu yng Nghymru gan seilio'r dadleuon ar rychwant eang o ffynonellau hanesyddol.

2. Dangos eu gallu i ymdrin a'r cysyniad genedligrwydd yng nghyd-destun darlledu.

3. Dadansoddi a gwerhuso'r berthynas rhwng darllwdu a'r genedl.

4. Ysgrifennu gwaith academaidd sy'n dangos ol galluoedd gwerthusol a dadansoddol.

Nod

Cyfwynir y modiwl hwn fel rhan o ailstrwthuro'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Dysgir y modiwl ar y cyd a'r modiwl cyfatebol ar Lefel 3 ond asesir y modiwl yn wahanol ac mae'r canlyniadau dysgu hefyd yn amrywio.

Disgrifiad cryno

Mae'r hanesydd, y Dr. John Davies, wedi dadlau bod gan darlledu rol ganolog ac anhepgor ym mywyd diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol Cymru. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod y cysyniad hwn trwy gynnig astudiaeth a gorolwg hanesyddol o ddarlledu a'r genedl Gymreig. Ymhlith y testunau a drafodir bydd y syniad o genedligrwydd, hanes darlledu (yn arbenning yn yr iaith Gymraeg) a'r cyd-berthynas rhwng y ddau.

Cynnwys

Fe fydd y darlithoedd a seminarau yn ymdrin a'r testunau isod:

  • Diffinio'r genedl
  • Diffinio cenedligrwydd
  • Dechreadau darlledu yng Nghymru
  • Darlledu wedi'r rhyfel a dyfodiad y teledu
  • Teledu masnachol yng Nghymru
  • Yr ymgyrch dros y bedwaredd sianel
  • Cymru a'r Rhyngrwyd
  • Polisi darlledu yng Nghymru
  • Y Wladwriaeth a darlledu yng Nghymru
  • Dyfodol darlledu yng Nghymru

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymlethdodau wrth geisio ffurfio atebion i'r traethawd a'r deunydd portffolio.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl ar y portffolio a'r traethawd ar y ffurflenni asesu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwiliio i ystod eang o ffynonellau, (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau am y traethawd a'r portffolio.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5