Module Information

Cod y Modiwl
TC21820
Teitl y Modiwl
FFILM A CHYFRYNGAU CYMRU
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 Astudiaethau Ffilm a Theledu yn llwyddianus

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Traethawd (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Semester Portffolio critigol (3000 o eiriau)  60%
Asesiad Ailsefyll Traethawd (2000 o eiriau) - (i deitl newydd)  40%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Critigol (gwerth 3000 o eiriau)  60%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Datblygu corff systemataidd o wybodaeth am hanes y cyfryngau yng Nghymru.

2. Datblygu gwybodaeth am ddadleuon cyfoes am ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.

3. Deall, cymharu a dadansoddi damcaniaethau am hanes ffilm a'r cyfryngau, a natur ffilm a chyfryngau cyfoes.

4. Cymhwyso gwybodaeth a dealldwriaeth er mwyn asesu'n feirniadol y problemau cyfoes sy'n wynebu ffilm a'r cyfryngau yng Nghymru.

Nod

Cyflwynir y modiwl newydd hwn fel rhan o ailstrwytho'r radd BA Astudiaethau Ffilm a Theledu. Mae'r modiwl yn llenwi bwlch yn ein darpariaeth bresennol. Mae ffilm a chyfryngau Cymru yn rhan ganolog o faes ymchwil nifer o staff yr adran. Cyflwynir y modiwl hwn er mwyn cynnig darpariaeth unigryw a fydd yn lleoli'r cynllun gradd yn ddaearyddol ac yn sefydliadol.

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl hwn yn edrych ar ddatblygiad y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys, ffilm, teledu, y wasg, a'r rhyngrwyd. Archwilir yr hinsawdd ddarlledu hanesyddol a chyfoes, gan ystyried hanes, polisiau a strwythurau darlledu, prif fudiadau a sefydlidau, yn ogystal a thestunau neilltuol. Dehonglir damcaniaethau sy'n rhoi modd o ddeall sialensiau sy'n wynebu'r cyfryngau yng Nghymru heddiw.

Cynnwys

Darlithoedd:

Hanes a Chyd-destun

Damcaniaethau am y cyfryngau yng Nghymru

Sefydliadau Prydeinig: BBC ac ITV

Ffilmiau Amatur Cynnar

Y Bwrdd Ffilmiau Cymraeg

S4C

Y Sector Annibynnol: Teliesyn

Y Wasg

Y Rhyngrwyd

Blogiau a Gwe 2.0


Seminarau:

Fe fydd y seminarau yn dilyn yr un patrwm a'r uchod

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfrannu at drafodaethau seminar, ysgrifennu ar gyfer gwaith a asesir, darllen.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol.
Datrys Problemau Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion.
Gwaith Tim Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Er na asesir y medr yma yn ffurfiol, fe fydd cyfle i fyfyrwyr drafod eu prosesau dysgu gyda'u cyd fyfyrwyr a'r tiwtor. Rhoddir adborth manwl i draethodau ar y ffurflenni asesu.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau.
Technoleg Gwybodaeth Er nad yhw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r we i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5