Module Information

Cod y Modiwl
TC20820
Teitl y Modiwl
DADANSODDI SYMUD
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cwblhau Rhan 1 mewn Drama ac Astudiaethau Theatr yn llwyddianus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Sesiwn Ymarferol Sesiynau ymarferol profiadol 10 x 2 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Cyflwyniad Ymarferol mewn grwp (15 munud)  60%
Asesiad Semester Portffolio creadigol (2000 o eiriau)  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Ymarferol Unigol (10 munud)  60%
Asesiad Ailsefyll Portffolio Creadigol (2000 o eiriau)  40%

Canlyniadau Dysgu

1. Arddangos dealltwriaeth o egwyddorion System Ymdrech Laban.
2. Arddangos gallu i gymhwyso'r eirfa gorfforol er mwyn symud, byrfyfyrio ac arsylwi.
3. Arddangos ymwybyddiaeth o strwythur y corff, ynghyd a cydblethiad rhwng y corff a chyflwr emosiynol yr unigolyn.
4. Arddangos gallu i ddefnyddio egwyddorion y modiwl i ddyfeisio, hwyluso a newid gwaith creadigol.
5. Arddangos gallu i adfyfyrio ar y gwaith a gyflwynir yn y dosbarthiadau ac ar y profiad o arsylwi mewn portfolio creadigol.

Nod

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno astudiaeth fanwl o system o ddadansoddi symudiadau'r corff ar y cyd a gwybodaeth sylfaenol ynglyn ag atomeg. Fe fydd y modiwl hwn yn ddefnydiol i'r myfyrwyr o safbwynt hyrwyddo dealltwriaeth o'u hunain, hyrwyddo'u gallu i ddyfeisio gwaith perfformio corfforol a chreu cymeriad, ymgymryd a waith corfforol perfformiadol effeithiol a ddatblygu presenoldeb perfformiadol cryf.

Fe fydd y ffurf hwn ar y modiwl hefyd yn galluogi myfyrwyr i ystyried holl weithgarwch y corff mewn perthynas a'r theatr a pherfformio, ac yn helpu i fwydo'u profiad corfforol hwythau fel rhan o'r modiwlau cynhyrchu, ymchwil a gwaith creadigol annibynol a fydd ar gael iddynt i'w dewis yn y 3edd flwyddyn.

Disgrifiad cryno

Trwy waith ymarferol bydd y myfyrwyr yn dysgu am y 4 'Ymdrech' gwahanol, strwythur a ffwythiad strwythur y corff, ac yn datblygu'r gallu i amgyffred eu defnydd yn y corff. Bydd y gwaith yn cynnwys arbrofi trwy symud, ystyried gweithredoedd syml beunyddiol, ac arbrofi creadigol, a sylwadaeth ar symudiadau gan bobl eraill.

Wrth ddod yn gyfarwydd a'r eirfa newydd a'i defnydd, trwy ddatblygu dealltwriaeth o'r corff, ei ffrwythiad a strwythur, bydd y myfyrwyr yn deall mwy am bwysigrwydd cyfathrebu trwy gyfrwng y corff, ynghyd a phwysigrwydd agwedd corfforol cryf i berfformwyr, er mwyn hyrwyddo datblygiad o'r crefft a'u medrau.

Noder: ystyried un agwedd yn unig o'r system ddadansoddi symud Laban a wneir yn y modiwl hwn, ac ni ddylid ystyried y modiwl fel cyflwyniad cyffredinol i waith Laban yn ei gyfanrwydd.

Cynnwys

Trefn Arfaethedig y Sesiynau:

Disgyrchiant, a Llif (ffordd i arsywli, disgrifio a deall tyndra cyhyrol sy'n newidiol ac yn sail i symudiad)
Yr Anadl a Chyflwyniad i Ymdrech Gofod (Yr Ymdrech Gofod yw ffordd i arsylwi, disgrifio a deall ein symudiadau trwy'r amgylchfyd).
Asgwrn y Cefn a chyflwyniad i Ymdrech Pwysau (Yr Ymdrech Pwysau yw ffordd i arsylwi, disgrifio a deall defnydd personol o rym wrth symud)
Strwythur y Pelfis a chyflwyniad i Ymdrech Amser (Yr Ymdrech Amser yw ffordd i arsywli, disgrifio a deall agwedd personol tuag at amser)
Rhannau o'r Corff a symud yn effeithiol
'Basic Effort Actions' (Mae cyfuno'r Ymdrechion yn cynhyrchu effeithiau sydd yn hwyluso symudiadau ymarferol ac yn cyfleu cyflyrau emosiynol)
Penglog a Thraed
Teimlo ac ymateb : arbofi gyda 'Chyweiriad a Chamgymhariad'
Cyfuno'r eirfa a sylwadaeth
Parhau gyda chyfarwyddo corfforol ac arbrofi gyda chyfryngau eraill megis cerddoriaeth, testun a delwedd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Elfen bwysig o'r modiwl fydd y gallu i adrodd ar yr hyn y mae'r unigolyn wedi'i weld ac i gadarnhau eu profiad gydag eraill. Bydd y myfyrwyr yn dysgu sut y mae'r corff yn cyfathrebu heb eiriau a sut mae'r unigolyn yn ymateb i gyflyrau ac amgylchiadau gwahanol a'r ffordd rydym yn effeithio ar bobl eraill. Elfen hanfodol o'r gwaith hwn yw'r gallu i ddeall yr effeithiau s'r oblygiadau sy'n canlyn ein gweithredoedd corfforol yn ogystal a'n geirau a'n hiaith.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Er bod y gallu i ddeall effaith y corff mewn unrhyw sefyllfa gyda phobl eraill yn werthfawr iawn, ni roddir unrhyw gyfarwyddyd penodol ynglyn a datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn y modiwl.
Datrys Problemau Wrth ddysgu'r modiwl hwn bydd y myfyrwyr yn cymhwyso damcaniaeth ac ymarfer ac yn gweithio i ddefnyddio'r geirfa a gwybodaeth i newid sefyllfaoedd a datrys problemau creadigol.
Gwaith Tim Tra bod y modiwl hwn yn pwysleisio taith bersonol yr unigolyn bydd trafod gyda gweddill y grwp yn rhan o bob sesiwn. Bydd gwrando, edrych a derbyn mewnbwn y gwaith yn hanfodol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Pwrpas y modiwl hwn fydd agor posibiliadau newydd i'r myfyrwyr ynglyn a ffyrdd amgen o greu a deall eu gwaith ymarferol. Rhydd y modiwl gyflwyniad i dechneg corfforol a fydd yn rhoi i'r myfyrwyr ymwybyddiaeth ychwanegol o'u hunain, a disgwylir y bydd hyn yn cyfrannu yn uniongyrchol at safon eu gwaith. Fodd bynnag, nid asesir yr elfen hon yn benodol ac uniongyrchol yn ystod y modiwl.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Fe fydd ymchwil personol yn sail i waith y modiwl. Disgwylir i'r myfyrwyr arsylwi a dadansoddi datblygiad eu proses mewnol a'u hymwybyddiaeth unigol, yn ogystal a'u goblygiadau at bobl eraill. Cryfheir gwaith yr unigolyn yn sylweddol yn ystod y modiwl wrth iddynt ddod a dealltwriaeth ddyfnach i'r gwaith o'u hymchwil personol.
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5