Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 24 Hours. Seminarau (8 x 3 awr) (yn Gymraeg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | Students may, subject to Faculty approval, have the opportunity to resit this module, normally during the supplementary examination period. For further clarification please contact the Teaching Programme Administrator in the Department of International Politics. | |
Asesiad Semester | Traethodau: 4,500 o eiriau | 80% |
Asesiad Semester | Traethodau: amlinelliad 1,000 o eiriau | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Meithrin dealltwriaeth eglur o brif syniadau'r ddau feddyliwr a'u perthnasedd i gymdeithas gyfoes. Dylid mynegi'r ddealltwriaeth hon trwy afael sicr ar y cysyniadau canlynol: cysyniadau Rawls o gydraddoldeb, rhyddid a chyfiawnder dosbarthol; cysyniadau Habermas o'r sffer gyhoeddus, democratiaeth, gwladgarwch cyfansoddiadol a hunaniaeth ol-genedlaethol.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn archwilio'r fanwl brif weithiau ysgrifenedig John Rawls a Juergen Habermas mewn theori gymdeithasol a gwleidyddol. Rhoddir sylw arbennig i'r hyn sy'n wahanol ac i'r hyn sy'r debyg yn eu syniadaeth. Rhoddir y cyfle i fyfyrwyr edrych hefyd ar ddatblygiad syniadau'r ddau athronydd dros amser.
Nod
Cyflwyno syniadaeth dau o'r meddylwyr diweddar mwyaf dylanwadol : Hannah Arendt and Carl Schmitt
Cynnwys
Habermas a Gwleidyddiaeth yr Almaen (2)
Cysyniad Habermas o'r sffer gyhoeddus (1)
Y syniad o foeseg disgwrs (1)
A Theory of Justice Rawls - egwyddor gwahaniaeth a llen anwybodaeth (2)
Rhyddfrydiaeth Wleidyddol a gwleidyddiaeth yr Unol Daleithiau (2)
`Cyfraith pobloedd' - cyfiawnder rhyngwladol (10)
Cymharu Rawls a Habermas - adolygu a chasgliad (1)
- Mae'r rhifau mewn cromfachau'n cyfeirio at nifer y seminarau a neilltuir i bob pwnc.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 Credydau ECTS
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6