Module Information

Cod y Modiwl
GF11010
Teitl y Modiwl
PROSES CYFREITHIOL
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Cyd-Ofynion
GF10110 or LA10110
Elfennau Anghymharus
LA11010, LA31010, GF31010, LA15710
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 16 awr. 2 x 1 awr yr wythnos yn Saesneg.
Seminarau / Tiwtorialau 3 awr. Yn Gymraeg.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Ymryson  25%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  ar ddiwedd Semester 1  75%
Asesiad Ailsefyll Ymryson  - os caiff yr ymryson ei fethu  25%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  - os caiff yr arholiad ei fethu  75%

Canlyniadau Dysgu

Erbyn diwedd y modiwl dylai fyfyrwyr fod wedi datblygu'r sgiliau/galluoedd canlynol:

  • Dod o hyd i wybodaeth Gyfreithiol
  • Defnyddio dulliau ymchwil electronig a chopi caled
  • Defnyddio technoleg gwybodaeth
  • Dehongli ffynonellau cyfreithiol sylfaen ac eilaidd
  • Sgiliau dadansoddi
  • Sgiliau datrys problemau
  • Llunio a Chloriannu dadleuon
  • Rhesymu Cyfreithiol
  • Trefnu syniadau a dadleuon
  • Sgiliau beirniadol
  • Dulliau Cyfreithiol
  • Sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ar bapur (ysgrifennu traethodau, ysgrifennu mewn arholiad ac ymryson).

Disgrifiad cryno

Amcan y modiwl yw paratoi myfyrwyr at eu hastudiaethau eraill yn y Gyfraith yn y Brifysgol trwy gyflwyno'r amrywiaeth o sgiliau y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu meistroli er mwyn llwyddo yn yr astudiaethau hynny. Mae'r modiwl yn cyflawni hynny trwy gynnig y cyfle i ddatblygu a mireinio'r sgiliau hyn.

YMCHWILIO I'R GYFRAITH
Ar ol esbonio'n gyntaf yr angen i ddatblygu sgiliau cyfreithiol, mae'r modiwl yn cyflwyno'r syniad o ymchwil gyfreithiol a'i phwysigrwydd sylfaenol i fyfyrwyr a gweithwyr yn y Gyfraith. Cyflwynir Llyfrgell y Gyfraith, a bydd myfyrwyr yn ymgyfarwyddo a'i chynllun a'i stoc. Bydd ymarferiad llyfrgellol yn gofyn i fyfyrwyr ddod o hyd i ddewis helaeth o ddefnyddiau sy'n berthnasol i astudio'r Gyfraith. Trwy hyn bydd myfyrwyr yn dysgu sut mae ymchwilio trwy ddefnyddio `copi caled? (llyfrau, cyfnodolion, adroddiadau yn y gyfraith, gwyddoniaduron ayb) a thrwy ddefnyddio systemau technoleg gwybodaeth. Rhoddir arweiniad arbennig ar ddod o hyd i brif ffynonellau'r gyfraith - ddeddfwriaeth ac adroddiadau'r gyfraith - ar ddod o hyd i ysgrifau cyfreithiol academaidd, ac ar gynllunio ymchwil gyfreithiol.

DARLLEN Y GYFRAITH
Yn ogystal a dod o hyd i'r deunydd cyfreithiol addas, rhaid hefyd ddatblygu'r gallu i ddadansoddi a chymhwyso cynnyrch yr ymchwil. Rhoddir arweiniad ar ddarllen a dadansoddi deddfwriaeth, adroddiadau'r gyfraith, ac ysgrifau academaidd. Trwy gyfres o ymarferion bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau hyn ac yn cael adborth a rhagor o arweiniad gan y tiwtoriaid. Traethodau cyfreithiol ysgrifenedig ac atebion i broblemau, a thrafod a chyflwyniadau llafar mewn dosbarthiadau fydd y prif ddulliau o ddangos eich gallu i ddarllen a dadansoddi defnyddiau cyfreithiol yn ystod eich astudiaethau. Bydd cyfle yn y modiwl hwn i fyfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn, yn enwedig ysgrifennu cyfreithiol a datrys problemau.

Nod

Tri amcan sydd i'r modiwl hwn. Y cyntaf yw meithrin gallu myfyrwyr i astudio'r gyfraith yn effeithiol, yn annibynnol ac mewn grwpiau. Yr ail amcan yw sicrhau bod myfyrwyr yn meithrin a datblygu sgiliau ymchwil yn y gyfraith. Y trydydd amcan yw hybu amrywiaeth o sgiliau cyflwyno a dehongli, sy'n werthfawr wrth astudio'n academaidd ar bob lefel, yn ogystal ag yn y farchnad swyddi ehangach.

Cynnwys

Maes llafur:

Cyflwyniad
Pwysigrwydd Sgiliau Cyfreithiol

Ymchwilio i'r Gyfraith
Llyfrgell y Gyfraith
Dod o hyd i Ffynonellau Sylfaenol
Dod o hyd i Ffynonellau Eilaidd

Darllen y Gyfraith
Darllen Deddfwriaeth
Darllen Adroddiadau Cyfreithiol
Darllen ysgrifau cyfreithiol academaidd

Ysgrifennu Cyfreithiol
Ysgrifennu at wahanol ddibenion cyfreithiol
Ysgrifennu academaidd - adnabod ffynonellau ac awdurdodau

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Holland & Webb (2010) Learning Legal Rules 7th ed. Blackstone Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4