Module Information

Cod y Modiwl
GC22100
Teitl y Modiwl
GWYDDELEG MODERN (IAITH A LLEN) 1+2
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhagofynion
Gwyddeleg Modern Lefel 1
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 44 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 2 Awr   Arholiad atodol  100%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad Ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Traethodau: ymarferion  20%
Asesiad Semester Prawf Llafar  10%

Canlyniadau Dysgu

Ar o^l dilyn y modiwl hwn yn llwyddiannus:

1. Byddwch yn gallu cynnal sgwrs estynedig yn yr Wyddeleg.

2. Bydd gennych wybodaeth ddigonol o ramadeg sylfaenol yr iaith, gan gynnwys ffurfiau amhersonol y ferf, y modd dibynnol, ffurfiau genidol yr enw, cymalau perthnasol, araith anuniongyrchol, ac amryw gystrawennau copiwla.

3. Byddwch yn gallu dirnad darlithiau syml yn yr Wyddeleg.

4. Byddwch yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau syml yn yr Wyddeleg.

5. Byddwch yn gallu ysgrifennu traethodau syml yn yr Wyddeleg.

6. Byddwch wedi darllen detholiadau o lenyddiaeth lafar y Gaeltacht ac o ryddiaith fodern.

7. Byddwch yn gallu trafod cyd-destun cymdeithasol a chyd-destun llenyddol y detholiadau darllen hwn.


Disgrifiad cryno

Dosbarthiadau ieithyddol. Gramadeg yr Wyddeleg. Cyfieithu o'r Wyddeleg i'r Gymraeg a Chymraeg i'r Wyddeleg. Darllen a dehongli rhai o destunau llenyddol yr 20fed ganrif: barddoniaeth, storiau byrion. Hefyd astudiaeth o Hanes Llenyddiaeth Wyddeleg o 1600 hyd heddiw; a detholion o'r llenyddiaeth honno.


Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5