Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 10 x darlith 2-awr (darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg) |
Sesiwn Ymarferol | 10 x gweithdy 2-awr (Bydd darpariaeth Gymraeg ar gyfer cyfran o'r gweithdai) |
Eraill | 1 sesiwn termau 1-awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr Ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Asesiad: 2 BRAWF | 30% |
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Mynegi systemau a pherthnasoedd ffisegol cyffredin yn nhermau iaith fathemategol fectorau, hafaliadau differol a theori Fourier
2. Defnyddio fectorau, algebra fector a systemau cyfesurynnau gwahanol i ddatrys problemau ffisegol mewn gofod 3-dimensiwn
3. Cymhwyso gwahanol ddulliau o ddatrys i fathau amrywiol o hafaliadau differol
4. Adnabod a datrys hafaliadau differol rhannol trefn dau mewn amrywiol gyd-destunau ffisegol.
5. Disgrifio ac egluro cysyniadau dadansoddiad Fourier, troelliad a chydberthyniad, a chymhwyso technegau dadansoddiad Fourier i broblemau mewn systemau ffisegol
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn datblygu amrywiaeth o theoriau mathemategol: ddadansoddiad fector, hafaliadau differol a dadansoddiad Fourier. Cymhwysir y rhain i fodelu a datrys problemau mewn nifer eang o sefyllfaoedd ffisegol; electrostateg, magneteg, disgyrchedd, mecaneg, thermodynameg, ffiseg plasma, ffiseg atmosffer a mecaneg hylif.
Cynnwys
Dadansoddiad fector: lluoswm triphlyg sgalar a fector, cyfesurynnau polar, meysydd sgalar a fector 3-D, graddiant, dargyfeiriad a chwrl meysydd 3-D, gweithredydd fector, integrynnau llinell, integrynnau arwyneb. Hafaliadau differol: hafaliadau differol cyffredin o unrhyw drefn, hafaliadau differol cydamserol, hafaliadau differol rhannol, problemau gwerth eigen. Dadansoddiad Fourier o signalau, paramedrau cyflenwol (e.e. amledd ac amser), trawsffurfiadau Fourier, sbectrwm pwer.
Nod
Mae'r modiwl yn datblygu dulliau mathemategol i fodelu systemau ffisegol. Mae o bwysigrwydd sylfaenol i holl gynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg ac yn addas ar gyfer nifero'r cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5