Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Seminarau. |
Darlithoedd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 Awr | 60% |
Asesiad Semester | Traethodau: 2 traethawd o 2,500 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
a) Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol ym maes hanes modern a chyfoes Cymru.
Beirniadu, trafod a deall ffynonellau ar ystod o faterion gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol, sy'r ymwneud a hanes Cymru fodern.
Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'r berthnasol i archwilio llywodraeth, pleidiau gwleidyddol, carfannau pwyso, a mudiadau cymdeithasol.
Casglu a dadansoddi eitemau perthnasol o dystiolaeth hanesyddol, o ffynonellau eilaidd ac ystadegau.
Darllen, dadansoddi ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd a gwreiddiol, yn enwedig llyfrau ac erthyglau, ond hefyd papurau newyddion, pamphledi, gohebiaeth argraffiedig, a phapurau seneddol.
Ystyried y berthynas rhwng hanes a disgyblaethau eraill, yn enwedig gwyddor wleidyddol, cymdeithaseg a theori ieithyddiaeth.
Datblygu'r gallu i werthuso cryfderau a gwendidau dadleuon hanesyddol penodol a, lle bo angen, eu herio.
Datblygu sgiliau llafar (na chant eu hasesu) ac ysgrifenedig, trwy gyfrwng trafodaethau seminar a thraethodau.
Gweithio'r annibynnol ac ar y cyd, a chymryd rhan mewn trafodaethau gr'r (ni chant eu hasesu).
Disgrifiad cryno
Astudir y prif newidiadau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru er diwedd yr Ail Ryfel Byd. Edrychir yn benodol ar dwf sefydliadau gwleidyddol (megis y Swyddfa Gymreig, awdurdodau lleol a phleidiau gwleidyddol), asiantau rhanbarthol (megis Awdurdod Datblygu Cymru), ailstrwythuro'r economi (gan gymryd y diwydiant glo fel enghraifft), y rhesymau dros barhad llwyddiant y Blaid Lafur mewn etholiadau, twf cenedlaetholdeb a mudiad iaith milwriaethus, ynghyd a datblygiadau mewn addysg a darlledu.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6