Module Information

Cod y Modiwl
BG24210
Teitl y Modiwl
PROFIAD GWAITH
Blwyddyn Academaidd
2012/2013
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 2 x 1 hour lectures
Darlithoedd 2 x 1 hour lectures
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester Portffolio  100%
Asesiad Ailsefyll Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Ystyried yn fanwl eu profiad yn y gweithle

2. Adnabod cryfderau a gwendidau ac adnabod strategaethau ar gyfer mynd i'r afael â'r gwendidau

3. Cyfathrebu profiad mewn ffyrdd a ddisgwylir gan gyflogwyr

4. Cynllunio ar gyfer strategaeth a fydd yn gwella gyrfa yn y dyfodol

5. Datblygu a chynnal portffolio ar gyfer ystyried profiadau gwaith yn y dyfodol ar ôl diwedd y modiwl

Disgrifiad cryno

Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau 50 awr o brofiad waith gwirfoddol neu brofiad waith am dâl a gymeradwywyd (yn rhan-amser neu’n amser llawn) yn ystod blwyddyn 2 a'r gwyliau sydd ynglwm wrth y flwyddyn honno. Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod eu cyfnod gwaith fel cyfres o asesiadau ffurfiannol ar lein. Ar ddiwedd y cyfnod gwaith, bydd myfyrwyr yn cyflwyno portffolio a fydd yn ystyried y profiad gwaith, yn adnabod sgiliau y bydd angen eu datblygu (a chyfleoedd i wneud hynny) ac yn creu cynllun CAMPUS, fel rhan o bortffolio profiad gwaith, wedi’i anelu at wella eu cyflogadwyedd ymhellach ym mlwyddyn 3 a thu hwnt.

Cynnwys

Cymal 1: Profiad Gwaith
Yn ystod blwyddyn 1, caiff pob myfyriwr wybod am y modiwl (drwy hysbysiadau ar lein, cyflwyniad a thrwy'r system diwtorial), ynghylch yr angen i adnabod cyfleoedd gwaith neu wirfoddol addas yn ystod y cyfnod priodol. Bydd angen i'r cyfleoedd hyn gael eu cymeradwyo (a sicrhau gwiriadau priodol ynghylch agweddau Iechyd a Diogelwch a sicrwydd yswiriant), ond y nod fydd derbyn ystod mor eang â phosibl o gyfleoedd yn unol â 'r nod academaidd gosodedig.
Gellir defnyddio profiad y cynlluniau hynny (er enghraifft Amaethyddiaeth) sydd â lleoliadau gorfodol eisoes fel sylfaen ar gyfer y modiwl hwn. Ar gyfer y cynlluniau heb leoliadau gwaith, mae rhyddid i gydlynwyr adnabod lleoliadau gwaith sy'n gysylltiedig â 'r radd os ydynt o'r farn fod hyn yn ddymunol yn academaidd ac y gellir eu darparu ar gyfer pob un o'r myfyrwyr sy'n dilyn y radd. Cyfrifoldeb cydlynwyr y cynlluniau fydd hyn.

Bydd myfyrwyr yn cadw dyddiadur myfyriol yn ystod 50 awr gyntaf y gwaith. Darperir pro-forma a bydd disgwyl i fyfyrwyr ysgrifennu cofnod ynddo unwaith bob diwrnod gwaith (neu gyfnod cyffiniol 8 awr ar gyfer gwaith rhan-amser). Cynorthwyir myfyrwyr gan adnoddau ar lein (a ddarperir ar Blackboard (ac fel pecynnau i'w lawrlwytho/i'w hargraffu ar gyfer y rheiny sydd heb fynediad i'r we). Bydd y dyddiadur myfyriol yn rhan o'r portffolio.

Ar ôl cwblhau 50 awr o brofiad, bydd myfyrwyr yn gwneud cyfres o ymarferion ar lein gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth ynghylch y sgiliau a ddatblygwyd ganddynt, y ffordd y mae cyflogwyr yn ystyried y rhain a sut y gellir cyfathrebu’r hyn a gyflawnwyd. Datblygir yr ymarferion drwy ymgynghori â'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a'r Gwasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori a’u hasesu (fel cwestiynau amlddewis). Bydd yr ymarferion yn cydymffurfio â'r wyth dosbarth sgiliau a nodwyd gan y brifysgol a bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau'r pedwar sydd fwyaf perthnasol i'w swydd.

Bydd disgwyl hefyd i fyfyrwyr lunio portffolio yn cynnwys (yn ogystal â'r dyddiadur):
a.tystiolaeth am y cyfnod gwaith
b.archwiliad sgiliau wedi'i gwblhau (yn seiliedig ar yr APPR)
c.tystiolaeth o ymwneud â'r Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd yn ystod blwyddyn 2
ch. Cynllun gweithredu CAMPUS yn adnabod camau i'w cymryd ym mlwyddyn 3
d. CV yn cynnwys y profiad a gafwyd yn ystod y lleoliad.
Darperir templedau priodol a fydd yn galluogi myfyrwyr i ychwanegu profiad gwaith pellach at y portffolio a fydd yn ehangu ac yn adnodd ymhell ar ôl diwedd y modiwl.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu profiadau sy’n gysylltiedig â'r gwaith a datblygiad sgiliau mewn ffyrdd a ddefnyddir gan gyflogwyr (CV)
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Ystyried cyflawniadau/profiadau a chynnwys y rhain yn y CV gyda chymorth y Gwasanaeth Cynghori ar Yrfaoedd a llunio cynllun gwella gyrfa
Datrys Problemau
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Ystyried profiadau, adnabod diffygion sgiliau a chyfleoedd ar gyfer gwella sgiliau (dyddiadur myfyriol a chynllun)
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Adnabod cyfleoedd datblygu pellach yn y cynllun gwella gyrfa
Technoleg Gwybodaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5