Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 6 x dosbarth tiwtorial 2 awr |
Darlithoedd | 9 x darlith 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd ffurfiannol (500 gair) | 10% |
Asesiad Semester | Adroddiad prosiect (1500 gair) | 70% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad (5 munud) | 20% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rheiny a arweiniodd at fethu'r modiwl | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Cyfathrebu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.
2. Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.
3. Llunio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil a chyflwyno dadleuon academaidd.
4. Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.
5. Datblygu ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi ymddwyn yn annheg).
6. Dehongli a defnyddio data.
7. Arddangos hyfedredd sylfaenol wrth ddefnyddio cyfrifiadur
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl fydd cyflwyno ystod o bynciau ymchwil megis gwerthuso tsetunau, asesu data ansoddol a mesurol a chyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn weledol. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy ystod o ffurfiau gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial ac e-ddysgu.
Cynnwys
Bwriad y modiwl yw cyflwyno'r sgiliau allweddol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl fydd cyflwyno ystod o bynciau ymchwil megis gwerthuso tsetunau, asesu data ansoddol a mesurol a chyfathrebu ar lafar, yn ysgrifenedig ac yn weledol. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy ystod o ffurfiau gan gynnwys darlithoedd, dosbarthiadau tiwtorial ac e-ddysgu.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn cael profiad o gyfathrebu ysgrifenedig a llafar, yn enwedig wrth ysgrifennu traethodau mewn sesiynau tiwtorial. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu sgiliau dadansoddi a deallusol, yn gwella eu sgiliau astudio ac yn yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y Brifysgol ac mewn gyrfa yn y dyfodol. Bydd Adolygu Cynnydd Academaidd a Phersonol yn rhan o'r modiwl hwn. |
Datrys Problemau | Bydd myfyrwyr yn defnyddio dulliau a ddysgwyd mewn darlithoedd a dosbarthiadau tiwtorial i ddatrys problemau dadansoddi data a dehongli canlyniadau. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau yn ystod y dosbarthiadau tiwtorial ac yn cael eu hannog i wella eu sgiliau o weithio mewn tîm. Er nad asesir hyn yn ffurfiol, rhoddir adborth i bob myfyriwr. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Drwy gydol y modiwl, anogir myfyrwyr i adnabod eu cryfderau a'u gwendidau personol o ran sgiliau astudio ac ymchwil a bydd deunyddiau ychwanegol ar gael i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella gwendidau penodol ymhellach. Rhoddir adborth prydlon a manwl er mwyn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio i wella eu perfformiad personol. Er nad asesir hyn yn ffurfiol, rhoddir adborth am eu datblygiad i bob myfyriwr. |
Rhifedd | Bydd y modiwl yn cynnwys dosbarthiadau tiwtorial ar reoli data a dadansoddi a fydd yn canolbwyntio'n bennaf ar ddefnyddio gwybodaeth rifyddol a dehongli canlyniadau. |
Sgiliau ymchwil | Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau ymchwilio testunau yn rhan o'r darlithoedd a'r dosbarthiadau tiwtorial ar gasglu a gwerthuso gwybodaeth. Byddant yn ymarfer y sgiliau hyn drwy asesiad ysgrifenedig. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael profiad o resymu anwythol a chasgliadol, ffurfio damcaniaeth a dehongli data sylfaenol. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd technoleg gwybodaeth yn adnodd hanfodol ar gyfer holl agweddau'r cwrs ac erbyn diwedd y modiwl, bydd disgwyl i fyfyrwyr fod yn gyfarwydd â meddalwedd geirbrosesu, rheoli data a chyflwyno sylfaenol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4