Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 2 x 1 awr darlith, Semester 1 |
Darlithoedd | 1 x 1 awr darlith, Semester 2 |
Sesiwn Ymarferol | 4 x 3 awr Dosbarthiadau ymarferol |
Sesiwn Ymarferol | 4 x 3 awr Dosbarthiadau ymarferol |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Asesu dosbarth ymarferol 1 | 10% |
Asesiad Semester | Asesu dosbarth ymarferol 2 | 10% |
Asesiad Semester | 2 gwis MCQ hanner ffordd drwy’r tymor | 20% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad (1.5 awr) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Rhaid i fyfyrwyr wneud yr elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r hyn a arweiniodd at fethu'r modiwl |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Disgrifio esblygiad a ffylogenedd sylfaenol fertebrata
2. Cymharu a chyferbynnu morffoleg ac anatomi'r prif grwpiau a medru adnabod cynrychiolwyr y grwpiau
3. Trafod addasiadau ffisiolegol yng nghyd-destun amodau amgylcheddol, gan ddefnyddio amrywiaeth helaeth o enghreifftiau.
4. Disgrifio, cymharu a thrafod ymsymudiad, atgynhyrchu, bwydo a threulio ystod o anifeiliaid sy'n berthnasol i gynlluniau gradd y myfyrwyr
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn disgrifio prif grwpiau fertebraidd ac infertebrata anifeiliaid. Rhoddir cyflwyniad i ffisioleg yr anifeiliaid hyn o ran synhwyro'r amgylchfyd, cyhyrau ac ymsymudiad, maeth, endocrinoleg, systemau anadlu cardiofasgwlaidd, a homeostasis. Defnyddir amrywiaeth eang o enghreifftiau i ddangos egwyddorion allweddol. Ar ôl cwblhau'r darlithoedd cyflwyniadol, gall myfyrwyr ddewis dilyn llwybr sŵoleg neu wyddor anifeiliaid.
Cynnwys
Bydd y rhan o'r modiwl a gyflwynir i bob myfyriwr wedi'i seilio ar amrywiaeth eang o enghreifftiau er mwyn darlunio'r egwyddorion allweddol. Bioamrywiaeth anifeiliaid (yn cynnwys gorolwg cryno o grwpiau diflanedig allweddol a grwpiau allweddol sydd wedi goroesi); prif grwpiau anifeiliaid infertebrata a fertebraidd; synhwyro'r amgylchfyd (systemau nerfol infertebrata a fertebraidd, yn cynnwys ffisioleg synhwyro); cyhyrau a symudiad; chwarennau a chwarenlifau anifeiliaid (yn cynnwys cyflwyniad i endocrinoleg); cylchrediad; anadlu; osmoreolaeth; thermoreolaeth; bwydo a threulio (yn cynnwys amrywiaeth strategaethau).
2. Myfyrwyr i ddewis UN o'r canghennau a ganlyn yn ogystal:
3.Cangen 1: Swoleg (yn berthnasol ar gyfer swoleg a graddau cysylltiedig; 10 darlith): Ymsymudiad infertebrata a fertebraidd, strategaethau atgynhyrchu, bwydo a threulio.
4.Cangen 2: Gwyddor Anifeiliaid (yn berthnasol ar gyfer Amaethyddiaeth, Gwyddorau Anifeiliaid a graddau cysylltiedig; 10 darlith): Treulio, llaetha, cyhyrau, ymsymudiad, ac atgynhyrchu a ffrwythlonder, mewn perthynas â gwartheg, defaid, ceffylau ac anifeiliaid dof eraill.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol drwy'r arholiad a'r aseiniad, lle caiff y rhain eu hasesu. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu, dehongli data ac ysgrifennu am arbrofion ffisioleg a asesir, gan ddefnyddio modelau anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn datblygu dulliau creadigol o gynllunio arbrofion, yn gwerthuso'n feirniadol eu hatebion arfaethedig ac yn llunio cynigion rhesymegol mewn ymateb i her arbrofion. |
Gwaith Tim | Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn paratu/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ymarferol. Bydd angen iddynt drafod eu cynllunio arbrofol a gweithio'n ymarferol fel tîm bychan mewn dosbarthiadau ymarferol. Ni chaiff hyn ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad, a hynny y tu allan i oriau cyswllt ffurfiol. Bydd myfyrwyr yn medru adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol. Asesir rhai o'r rhain drwy'r arholiad a'r aseiniad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Rhifedd | Casglu ac archwilio data ar gyfer ansawdd a maint. Dehongli data. Caiff y rhain eu hasesu yn yr aseiniad a rhoddir adborth ar ei gyfer hefyd. |
Sgiliau pwnc penodol | Bydd myfyrwyr yn gallu disgrifio'r egwyddorion ffisiolegol allweddol sydd wrth wraidd bywyd anifeiliaid. Bydd myfyrwyr yn gallu trafod addasiadau ffisiolegol yng nghyd-destun amodau amgylcheddol sy'n newid. Bydd myfyrwyr yn meithrin sgiliau allweddol wrth drafod sbesimenau microbiolegol. Asesir y rhain yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i'r myfyrwyr ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y darlithoedd ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Defnyddir gwybodaeth o amryw ffynonellau. Trafodir sut i wneud hyn yn ystod y darlithoedd. Asesir sgiliau ymchwil drwy'r arholiad a'r aseiniad. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r we ar gyfer ffynonellau gwybodaeth dibynadwy a defnyddio cronfeydd data i ganfod testunau wrth baratoi ar gyfer yr aseiniad a'r arholiad. Asesir technoleg gwybodaeth yn yr aseiniad a'r arholiad. Rhoddir adborth ar gyfer yr aseiniad. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4