Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Seminars / Tutorials | 5 x 1 awr mewn grwp |
Seminars / Tutorials | 3 x 1 awr unigol |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Naill ai Traethawd Hir 20,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth. Neu (i) Cynhyrchiad Perfformiadol neu Gyfryngol (50%); a (ii) Traethawd Beirniadol 10,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth (50%). Disgwylir i gynhyrchiad perfformiadol neu gyfyngol byw cyfwerth â 10,000 o eiriau bara am rhwng 30 a 40 munud o hyd. Bydd pob cynhyrchiad perfformiadol byw yn cael ei recordio ar gyfer cofnodion yr Adran. | 100% |
Supplementary Assessment | Naill ai Traethawd Hir 20,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth. Neu (i) Cynhyrchiad Perfformiadol neu Gyfryngol (50%) a fydd yn para am 30 a 40 munud o hyd; a (ii) Traethawd Beirniadol 10,000 o eiriau i gynnwys troednodiadau a llyfryddiaeth (50%). | 100% |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
Traethawd Hir
1. Ffurfio a mynegi cwestiwn ymchwil ynghyd â chynllunio a gweithredu prosesau ymchwil cadarn.
2. Dadansoddi canlyniadau ymchwil, gan gyfleu dealltwriaeth o'u pwysigrwydd a'u harwyddocad (gan gynnwys eu cyfyngiadau).
3. Perthnasu'r gwaith ymchwil i'w gyd-destun academaidd, gan gynnwys ymdriniaeth feirniadol o faes damcaniaethol y diwydiannau creadigol.
Cynhyrchiad perfformiadol/cyfryngol a Thraethawd Beirniadol
1. Ffurfio a mynegi cwestiwn ymchwil ynghyd a chynllunio a gweithredu prosesau ymchwil cadarn, gan gynnwys meistroli'r strategaethau angenrheidiol ar gyfer llwyfannu perfformiad neu gynhyrchu gwaith cyfryngol yng nghyd-destun cynhyrchiad 'ymarfer-fel-ymchwil'.
2. Dangos canlyniadau creadigol sydd wedi eu mynegi drwy ymarfer a hynny o fewn traddodiad ymchwil fel ymarfer, gan gyfleu dealltwriaeth o'u harwyddocad.
3. Gwerthuso'r canlyniadau hyn mewn perthynas a gwybodaeth ysgolheigaidd, gan gynnwys gwaith ymarferol, ac mewn perthynas a maes damcaniaethol y diwydiannau creadigol.
Content
1) Datblygu'r cynnig ymchwil
2) Cynllunio a gweithredu'r prosiect ymchwil
3) Agweddau ar gynllunio cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol
4) Cofnodi a dogfennu'r broses ymchwil
5) Gweithdy ysgrifennu
Fe gaiff pob myfyriwr tri sesiwn arolygu unigol gyda'r tiwtor arolygu yn ystod y cyfnod hwn.
Aims
(a) Traethawd Hir sydd yn archwiliad annibynnol o destun ymchwil, wedi ei wreiddio o fewn fframwaith damcaniaethol y cyfryngau creadigol;
(b) Ymchwil drwy Ymarfer, naill ai fel perfformiad byw sylweddol neu fel cynhyrchiad cyfryngol sylweddol, ynghyd a thraethawd beirniadol sydd yn lleoli'r gwaith o fewn corff o lenyddiaeth ac ymarfer.
Brief description
Caniateir i fyfyrwyr sydd yn cyflwyno cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol weithio'n annibynnol neu ar y cyd. Os byddant yn gweithio ar y cyd, yna fe fydd pob myfyriwr yn llofnodi datganiad yn tystio pa gyfraniadau a wnaethpwyd gan bob aelod o'r grwp, cyhyd ag y bo modd cymhwyso'r un meini prawf a'r hyn a gymhwysir ar gyfer gwaith unigol, annibynnol. Bydd hyd a maint y cynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol yn cael ei drafod a'i negodi fel rhan o'r broses o gyflwyno'r cynnig ymchwil. Bydd y traethawd beirniadol yn waith unigol ac annibynnol bob amser.
Bydd myfyrwyr sydd yn cyflwyno drwy Draethawd Hir yn datblygu prosiect ymchwil annibynnol ac unigol drwy ddulliau ysgolheigaidd cydnabyddedig.
Bydd y modiwlau a gyflwynir yn Rhan 1 yn baratoad i fyfyrwyr ddod yn gyfarwydd â fframweithiau damcaniaethol perthnasol, dulliau methodolegol amrywiol, y modd y gellir defnyddio ymarfer i ymchwilio ac yn cynnig cyfnod o arsylwi ar ymarfer yn y gweithle. Rhydd y modiwlau hyn y cefndir angenrheidiol i fyfyrwyr ddatblygu eu cynnig ymchwil gan ystyried y fethodoleg fwyaf effeithiol i ateb eu cwestiynau ymchwil yn Rhan 2.
Bydd y myfyrwyr yn paratoi cynnig ymchwil fel rhan o asesiad ffurfiol modiwl Methodoleg Ymchwil TCM0230 yn ystod Rhan 1. Fe gaiff hwn ei drafod gyda darpar arolygwyr yn yr Adran yn ystod sesiynau tiwtora unigol. Bydd y drafodaeth hon hefyd yn ystyried yr adnoddau a fydd eu hangen ar fyfyrwyr i gwblhau'r gwaith ymchwil.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | Gall myfyrwyr ddefnyddio gwybodaeth rifyddol yn eu hymchwil unigol, os bydd testun a methodoleg eu hymchwil yn caniatau. *Asesir os bydd yn greiddiol i'r fethodoleg a ddefnyddir gan y myfyriwr unigol. |
Communication | Bydd pob myfyrwyr yn meithrin sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig o safon ysgolheigaidd yn ystod y modiwl hwn ac fe fydd y sawl sydd yn dewis cyflwyno rhan o'r modiwl drwy ymarfer hefyd yn meithrin sgiliau cyfathrebu drwy gynhyrchiad perfformiadol neu gyfryngol |
Improving own Learning and Performance | Datblygir y sgiliau hyn yn ystod y broses o baratoi a chwblhau'r gwaith ymchwil. Rhaid wrth hunanddisgyblaeth, hunan-ysgogiad, hunanfeirniadaeth a sgiliau rheoli amser ar gyfer hyn |
Information Technology | Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno gwaith asesedig gan ddefnyddio technoleg gwybodaeth. |
Personal Development and Career planning | Bydd y sgiliau trosglwyddadwy yn gyfle i ddatblygu sgiliau personol a chynllunio gyrfa. Gall y prosiect ymchwil fod yn gyfle i'r myfyriwr ystyried eu dewisiadau gyrfa ymhellach. |
Problem solving | Sgiliau datrys problemau deallusol, damcaniaethol ac ymarferol; adnabod strategaethau priodol a gweithdrefnau effeithiol i wneud hynny. |
Research skills | Medrau ymchwil annibynnol yn greiddiol i'r modiwl hwn. |
Subject Specific Skills | |
Team work | Dysgir o leiaf 5 seminar ar y cyd, ble disgwylir i bob myfyriwr gyfrannu'n feirniadol ac adeiladol at y gwaith. Yn achos myfyrwyr sydd yn gwneud gwaith cynhyrchu (perfformiadol neu gyfryngol), gellir cydweithio mewn tim i gynhyrchu'r elfen hon (o dan y cyfyngiadau a nodir uchod) |
Notes
This module is at CQFW Level 7