Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 6 awr |
Sesiwn Ymarferol | 50 awr (profiad gwaith) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno’r Traethawd o 1,500 gair. | |
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwyno’r Adroddiad o 3,000 o eiriau. | |
Asesiad Semester | Traethawd o 1,500 o eiriau yn trafod addasrwydd daearyddiaeth i allu cyfrannu at gymdeithas, a’r dadleuon moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny. | 25% |
Asesiad Semester | Ail-gyflwynor Adroddiad o 5,000 o eiriau. Adroddiad o 3,000 o eiriau. | 75% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Cwblhau hunan-asesiad o'u medrau cyflogadwyedd, gan nodi eu cryfderau a'u gwendidau.
Trefnu (gyda chymorth staff SDGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) a chwblhau cyfnod o brofiad gwaith pwrpasol o o leiaf 50 awr.
Arddangos dealltwriaeth o'r hyn a wneir yn y sefydliad lle'u cyflogir, sut y'i rheolir a chyfraniad y myfyriwr i'r sefydliad.
Arddangos gallu i gymhwyso eu sgiliau a'u medrau mewn sefyllfa waith ac i werthuso hyn.
Cynhyrchu cynllun gweithredu ar gyfer meithrin eu medrau cyflogadwyedd ymhellach.
Adlewyrchu ar addasrwydd daearyddiaeth, fel disgyblaeth, i gyfrannu at gymdeithas, ac adnabod achosion moesol dros ac yn erbyn gwneud hynny
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl yn cynnig cyfle i fyfyrwyr i drefnu (gyda chymorth staff SDGD a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd) cyfnod o 50 awr o brofiad gwaith pwrpasol rywdro rhwng diwedd blwyddyn 1 a diwedd blwyddyn 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i fyfyrwyr i fynychu eu cyfnod o brofiad gwaith un ai yn ystod eu gwyliau neu - ar ffurf rhan amser- yn ystod y tymor. Disgwylir i'r myfyrwyr i ddadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Bydd raid iddynt baratoi adroddiad o 5,000 o eiriau ar sail y themau hyn a chaiff hwn ei asesu (90% o'r marc). Caiff cyfraniad y myfyriwr i'r cyfnod o brofiad gwaith ei asesu gan y cyflogwr (10% o'r marc).
Cynnwys
2. Bydd raid i'r myfyrwyr i fynychu cyfnod o brofiad gwaith o o leiaf 50 awr rhwng diwedd Lefel 1 a diwedd ail semestr Lefel 2 eu cwrs gradd. Bydd cyfle i'r myfyrwyr i gadw mewn cysylltiad gyda chydlynydd y modiwl yn ystod y cyfnod hwn drwy ebost. Yn ogystal, bydd cydlynydd y modiwl yn ymweld a^'r myfyrwyr un waith yn ystod y cyfnod hwn.
3. Ar o^l cwblhau'r cyfnod o brofiad gwaith, cynhelir cyfarfod o 2 awr er mwyn rhoi cyfle i'r myfyrwyr i drafod a gwerthuso eu profiadau ar lafar.
4. Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gwblhau adroddiad o 5,000 o eiriau a fydd yn dadansoddi eu medrau cyflogadwyedd ar ddechrau a diwedd eu cyfnod o brofiad gwaith, a'u cyfraniad i'r sefydliad y buont yn gweithio iddo. Ceir cyfle yn yr adroddiad hwn hefyd i greu cynllun gweithredu ar gyfer datblygu medrau cyflogadwyedd y myfyriwr ymhellach.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Bydd sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig yn cael eu meithrin wrth gwblhau'r adroddiad. Bydd sgiliau cyfathrebu ar lafar yn cael eu meithrin yn ystod y seminarau. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau cyfathrebu o bob math. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Amcan y modiwl yn ei gyfanrwydd yw i annog myfyrwyr i ddatblygu eu medrau cyflogadwyedd ac asesir hwn yn yr adroddiad a'r asesiad gan y cyflogwr. |
Datrys Problemau | Bydd raid i'r myfyrwyr drefnu (gyda chymorth staff) lleoliad addas a phwrpasol ar gyfer eu profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i ddatrys problemau. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath. Caiff hwn ei asesu gan y cyflogwr. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gymhwyso eu medrau dysgu i sefyllfa waith. Caiff y medrau hyn eu hasesu gan y cyflogwr. Un o sgil-effeithiau'r modiwl fydd gwella dysgu a perfformiad y myfyrwyr wrth iddynt drosglwyddo agwedd mwy proffesiynol tuag at eu hastudiaethau o fyd gwaith i'r byd academaidd. |
Rhifedd | Ni ddatblygir hwn yn benodol yn y modiwl ond, gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medr o'r fath. |
Sgiliau pwnc penodol | Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau penodol i Ddaearyddiaeth. |
Sgiliau ymchwil | Bydd cyfle i ddefnyddio sgiliau ymchwil wrth drefnu'r profiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau ymchwilio. |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd raid i'r myfyrywr i gynhyrchu adroddiad graenus a fydd yn dadansoddi eu cyfnod o brofiad gwaith. Gan ddibynnu ar natur y profiad gwaith, bydd cyfle i feithrin medrau technoleg gwybodaeth. |
Rhestr Ddarllen
HanfodolBrockbank, A. a McGill, I. (1998) Facilitating Reflective Learning in HE (Gwasg y Brifysgol Agored) Chwilio Primo Guirdhamn, M. (1995) Interpersonal Skills at Work Prentice-Hall Chwilio Primo Longson, S. (1999) Making Work Experience Count How to Books Chwilio Primo Mumford, A., Pedlar, M. a Boydell, T. (1998) Learing to Learn and Managing Self Development in Organizations Prentice-Hall Chwilio Primo Reeves, T. (1994) Managing Effectively: Developing Yourself Through Work Experience Butterworth-Heinemann Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5