Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 18 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x 1 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 3 Awr | 60% |
Asesiad Semester | 1 traethawd x 2,500 o eiriau, 1 traethawd x 4,000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn dylai myfyrwyr fedru:
1. Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America;
2. Adolygu'r feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a'r gwasanaethau iechyd;
3. Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl cyffredin;
4. Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus;
5. Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar.
Disgrifiad cryno
Mae'r cwrs hwn yn cynnig rhagymadrodd i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Bydd y modiwl yn dangos sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau'r Dadeni o reswm, rhesymoledd a'r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd datblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol wedi ei leoli yng nghyd-destun t'r y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianeiddio a threfoli Prydain.
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydAndrew Wear (gol.) (1992) Medicine and Society, Historical Essays Caergrawnt Chwilio Primo Anne Hardy (2001) Health and Medicine in Britain since 1860 Basingstoke Chwilio Primo C. Lawrence (1994) Medicine in the Making of Modern Britain 1700-1920 Llundain Chwilio Primo H. Jones (1994) Health and Society in Twentieth Century Britain Llundain Chwilio Primo I. Loudon (gol.) (1997) Western Medicine Rhydychen Chwilio Primo R. Porter (1997) The Greatest Benefit to Mankind. A Medical History of Humanity from Antiquity to the Present Llundain Chwilio Primo W. F. Bynum and R. Porter (gol.) (1993) The Companion Encyclopedia of the History of Medicine Llundain Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6