Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. (8 x 1 awr) |
Darlithoedd | 21 Hours. (16 x 1 awr) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | 1 x 2,500 o eiriau traethawd | 40% |
Arholiad Semester | 2 Awr [1x 2 awr arholiad] | 60% |
Canlyniadau Dysgu
Erbyn diwedd y modiwl bydd y myfyrwyr wedi:
- Cael eu cyflwyno i'r materion a'r syniadau allweddol sy'n ymwneud a rol grym yng nghydberthynas gwledydd, gan gynnwys ei esblygiad, syniadaeth strategol fodern a nifer o faterion cyfoes ym maes strategaeth.
- Sicrhau cynefindra sylfaenol a'r cysyniadau a ddefnyddir mewn trafodaethau strategol cyfoes.
- Dod yn abl i gymhwyso'r cysyniadau hyn i ystod o faterion a phroblemau.
- Dod yn abl i wneud defnydd effeithiol o sgiliau: adnabod a lleoli ffynonellau addas; astudio'n annibynnol; ysgrifennu (traethodau ac arholiadau); sgiliau TG yn ogystal a rheolaeth amser.
10 credydau ECTS
Disgrifiad cryno
- defnyddioldeb grym yn yr oes fodern
- esblygiad rhyfel o Napoleon i'r Ail Ryfel Byd
- strategaeth yn yr oes niwclear
- rol cudd-wybodaeth
- materion cyfoes mewn strategaeth
Cynnwys
Darlithoedd
1. Rhyfel, Strategaeth, Cudd-wybodaeth: Cyflwyniad
2. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan I): Levee en masse
3. Rhyfel Ewropeaidd yn 'oes y lliaws' (rhan II): Rhyfel Diarbed
4. Gwrthryfel, herwryfela a therfysgaeth
5. UDA a'r 'Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth'.
6. Cyflwyniad i Hanes ac Astudiaethau Ysbio a Chudd-wybodaeth
7. Twyll Strategol
8. Gweithredu Dirgel
9. Astudio Rhyfel
10. Rhyfel mewn Cysylltiadau Rhyngwladol
11. Clausewitz a'i olynwyr (rhan I)
12. Clausewitz a'i olynwyr (rhan II)
13. Ataliaeth niwclear (rhan I)
14. Ataliaeth niwclear (rhan II)
15. RMA a Rhyfel Gwybodaeth
16. HIV/ AIDS: Iechyd a diogelwch byd-eang
Seminarau
Seminar Un: Rhyfel a grym
Seminar Dau: Grym Awyrennol
Seminar Tri: Arfau Niwclear
Seminar Pedwar: Terfysgaeth
Seminar Pump : Cudd-wybodaeth
Seminar Chwech: Ymyrraeth a Chadw'r Heddwch yn Ehangach
Seminar Saith: Arfau Dinistr Torfol
Seminar Wyth: Y Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth
Nod
Cynnig cyflwyniad i chi o rol grym a chudd-wybodaeth mewn Cysylltiadau Rhyngwladol a rhai o'r pryderon a'r dadleuon yn eu cylch.
Sgiliau trosglwyddadwy
Drwy gydol y modiwl hwn bydd myfyrwyr yn ymarfer ac yn gwella eu sgiliau darllen, deall a meddwl yn ogystal a'u sgiliau cyflwyno ar lafar. Bydd paratoi ar gyfer traethodau a'u hysgrifennu yn annog myfyrwyr i ymarfer sgiliau ymchwilio annibynnol gan gynnwys adalw, dethol, cydosod a threfnu data, ysgrifennu, TG a rheolaeth amser
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4