Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | 10 x Darlith/Seminar 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Traethawd (2500 o eiriau) - (i deitl newydd) | 50% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad (2 awr) | 50% |
Asesiad Semester | Traethawd (2500 o eiriau) | 50% |
Asesiad Semester | Arholiad ysgrifenedig 2 awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y theatr gyfoes, yn enwedig mewn perthynas a'r dramau a'r dramodwyr a astudir ar y modiwl
2. Arddangos gallu i ymateb yn feirniadol i'r deunydd astudiaeth drwy gymhwyso gwaith ysgolheigaidd yn y maes mewn traethawd ac arholiad ysgrifenedig
3. Arddangos gallu i amgyffred dramau cyfoes fel amlygiad o fath ar theatr, gan esbonio natur y berthynas gymhleth rhwng testun ysgrifenedig a chyfrwng celfyddydol byw
4. Arddangos dealltwriaeth o'r math o waith beirniadol sy'n gyd-destun allweddol i'r theatr gyfoes
Nod
Fe fydd y modiwl yn canolbwyntio yn anad dim ar waith dramodwyr cyfoes sy'n ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg; ond fe fydd hefyd gan hynny yn gorfod ystyried gwaith cyfarwyddwyr a chwmniau theatr a pherfformio neilltuol, ynghyd a theatrau, cynulleidfaoedd, cyrff ariannu a beirniadaeth gyfredol wrth werthuso a chloriannu'r dramau a astudir.
Cynnwys
Sarah Kane, 4.48 Psychosis
Patrick Jones, Everything Must Go
Aled Jones Williams, Iesu!
Ed Thomas, Stone City Blue
Jonathan Liechtenstein, The Pull of Negative Gravity
William Owen Roberts, Cymru Fach
Alan Harris, Orange
Mark O'Rowe, Howie the Rookie
Kaite O'Reilly, The Almond and the Seahorse
Garry Owen, Amgen: Broken
Martin Crimp/Owen Martell, Ceisio'i Bywyd Hi
Disgrifiad cryno
Yn y modiwl hwn, fe'ch cyflwynir i nifer o ddramau cyfoes, ac i agweddau ar weithgarwch y theatr gyfoes yng Nghymru, Prydain, Iwerddon ac Ewrop. Fe fydd y modiwl yn gofyn i'r myfyrwyr astudio cyfres o ddramau cyfoes o wahanol fathau, a'u trafod mewn perthynas a'u cyd-destun cymdeithasol priodol: rhydd gyfle hefyd i'r myfyrwyr ddatblygu agwedd feirniadol tuag at waith cyfoes, ac i ystyried sut y mae'r gwaith cyfoes hwn yn cymharu a dulliau theatraidd gwahanol o gyfnodau eraill neu o gyd-destunau cymdeithasol mwy arbenigol. Fe fydd y modiwl hefyd yn caniatau i fyfyrwyr fynychu cynyrchiadau theatraidd a gweithdai ymarferol gan gwmniau neilltuol, gan holi'r gwneuthurwyr ynglyn a chefndir, cyd-destun ac ymarfer y gwaith o dan sylw.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Fe ddatblygir y sgiliau hyn wrth i'r myfyrwyr ymgymryd ag ysgrifennu traethawd, ac wrth i sgiliau ysgrifennu traethawd effeithiol ar y pwnc gosodedig gael eu trafod yn y seminarau. Fe fydd y seminarau hwythau'n rhoi cyfle i'r myfyrwyr ddatblygu sgiliau cyfathrebu deallusol llafar er na fydd y sgiliau hynny'n cael eu asesu'n uniongyrchol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl ond bydd lawer o'r sgiliau generig a ddatblygwyd ar y modiwl hwn yn drosglwyddadwy i sawl cyd-destun gyrfaol. |
Datrys Problemau | Datblygir y medrau hyn (yn ysgrifenedig ac ar lafar) wrth i'r myfyrwyr gymhwyso esboniadau a diffiniadadau'r moddau perfformio sydd yn gysylltiedig a'r testunau a gyflwynir ar y modiwl. |
Gwaith Tim | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn ystod y modiwl, ond fe fydd y seminarau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau i drafod y testunau gosod a'r pynciau sy'n codi yn eu sgil. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y myfyrwyr yn gorfod ymateb i'w aseiniad cyntaf wrth baratoi ar gyfer yr arholiad ysgrifenedig y modiwl hwn. At hynny, fe ddatblygir sgiliau gwaith a defnydd y myfyrwyr o amswer wth baratoi ar gyfer eu cyfraniad i seminarau a darlithoedd. Nid asesir y broses o ddatblygu'r sgiliau hyn yn ffurfiol. |
Rhifedd | Ni ddatblygir y sgiliau hyn yn y modiwl. |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd aseiniadau'r modiwl yn fodd o gymell y myfyrwyr i ystyred pa fathau o ddeunydd ymchwil a fydd fwyaf defnyddiol wrth ateb y cwestiynau a osodwyd (yn achos y traethawd ysgrifenedig), ac wrth geisio rhagweld a pharatoi'r math o gwestiynau a osodwyd (yn achos yr Arholiad). Fe fydd y seminarau hwythau'n cynnig cyfle i'r myfyrwyr sylweddoli a dechrau cynllunio'r math o strategaeth ymchwil a fydd fwyaf manteisiol iddynt wrth baratoi eu gwaith asesiedig. |
Technoleg Gwybodaeth | Ni ddatblygir y medrau hyn yn uniongyrchol yn y modiwl, er bod yr Adran yn mynnu bod gwaith ysgrifenedig yn cael ei gyflwyno mewn ffurf sydd wedi ei argraffu gan ddefnyddio prosesydd geiriau. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5