Module Information
Cod y Modiwl
AD37240
Teitl y Modiwl
DIPAR (UWCHRADD): ADDYSGU YMARFEROL
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Un modiwl Dysgu ac Addysgu (Dull Opsiwn) neu, yn achos gwyddorau, un modiwl craidd arbenigol o AD36710, AD36810 ac AD36910.
Cyd-Ofynion
Un modiwl craidd Dysgu ac Addysgu (Dull Pwnc)
Rhagofynion
Gofynion Mynediad ar gyfer y TAR
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Cynhelir seminarau ar EPS a materion ysgol o fewn cyd-destun yr ysgol. |
Sesiwn Ymarferol | Seilir y modiwl cyfan ar ymarfer yn y dosbarth. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ymarfer dysgu ychwanegol yn y flwyddyn ddilynol. Gall methiant i gwblhau?r asesiad uchod yn foddhaol arwain at fyfyriwr yn gorfod gwneud ymarfer dysgu ychwanegol yn y flwyddyn sy?n dilyn diwedd y modiwl. | 100% |
Asesiad Semester | Asesiadau o ddosbarthiadau gan staff yr ysgol a'r Brifysgol | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn medru:
1. Cynllunio gwersi pwrpasol i oedran a safon ystod o ddosbarthiadau;
2. Cynllunio a dewis adnoddau, gan gynnwys TGCh, i gefnogi cynllunio gwersi;
3. Dysgu dosbarthiadau ar lefelau amrywiol;
4. Dangos gallu mewn rheolaeth yn y dosbarth;
5. Dangos gwerthoedd proffesiynol.
Cynnwys
Yn y modiwl hwn, trafodir y testunau canlynol sy'n ymwneud a Safonau Statws Athro Cymwysedig mewn dysgu ymarferol.
Mae'r themau cynnwys ar gyfer y ddau leoliad dysgu ymarferol yr un peth. Dylai hyfforddeion ennill profiad o:
- Ysgogi ac ysbrydoli disgyblion gan sicrhau bod y berthynas gyda disgyblion wedi ei seilio ar ffydd
- Cyfraniad tuag at amgylchedd ehangach yr ysgol gan gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol parhaus
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o'u pwnc
- Defnyddio TGCh yn effeithiol
- Gweithredu strategaethau rheoli dosbarth
- Cynllunio a threfnu adnoddau ar gyfer dosbarthiadau effeithiol sy'r heriol a pherthnasol i bob disgybl
- Dysgu gwersi sydd wedi eu strwythuro, yn amrywiol, ysgogol ac yn rhyngweithiol
- Gwahaniaethu i gwrdd a gofynion pob disgybl
- Monitro, asesu a chofnodi cynnydd disgyblion
- Gweithio gyda chydweithwyr, cymryd rhan mewn timau a rheoli gwaith oedolion eraill i wella dysgu disgyblion.

Disgrifiad cryno
Bydd myfyrwyr yn treulio cyfanswm o 25 wythnos mewn lleoliadau ysgol. Cynlluniwyd y rhaglen i sicrhau cynnydd yn nhermau'r cydbwysedd rhwng arsylwi a dysgu gwirioneddol ac yn nhermau lefel y dosbarthiadau a ddysgir.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy ddysgu gwersi a chyfathrebu deunydd i ddisgyblion; wrth gyfathrebu gyda chydweithwyr mewn ysgolion. Cyfathrebu wrth ysgrifennu yn y ffeil ysgol. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae'r rhain yn rhan annatod o'r cwrs cyfan ac asesir hwy mewn modiwlau eraill yn y cynllun. |
Datrys Problemau | Drwy gynllunio gwersi, gwneud deunydd yn agored i ystod o ddosbarthiadau, paratoi deunyddiau. |
Gwaith Tim | Gweithio gyda chydweithwyr mewn adran, gweithio gyda myfyrwyr arall. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Mae'r ymarfer dysgu wedi ei lunio i alluogi myfyrwyr i wella eu perfformiad dysgu ac addysgu. Asesir tystiolaeth o hyn drwy PDP. |
Rhifedd | Mewn rhai meysydd pwnc bydd hyn yn fwy cyffredin nag mewn eraill (e.e. mewn dosbarthiadau gwyddoniaeth a daearyddiaeth). |
Sgiliau pwnc penodol | Asesir sgiliau penodol mewn pynciau unigol, fel sy'n briodol. Er enghraifft, iechyd a diogelwch mewn gwyddoniaeth a drama. |
Sgiliau ymchwil | Ymchwilio am ddeunyddiau ar gyfer gwersi, gan gynnwys deunydd llyfryddiaethol, adnoddau a seilir ar TGCh, adnoddau llyfrgell. |
Technoleg Gwybodaeth | Drwy gynhyrchu deunydd gan ddefnyddio TGCh wrth baratoi a thraddodi gwersi. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6