Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 3 awr x 11 wythnos |
Seminarau / Tiwtorialau | 1 awr x 11 wythnos |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Portffolio Datblygiad Proffesiynol (7500 gair) Bydd y myfyrwyr yn ailgyflwyno pob elfen or portffolio a fethwyd. | 100% |
Asesiad Semester | Portffolio Datblygiad Proffesiynol (7500 gair) | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
1. Gwerthuso yn feirniadol eu harfer proffesiynol eu hunain trwy ddefnyddio eu hathroniaeth eu hunain o ddysgu ac addysgu yn ogystal a'r gwersi yr arsylwyd arnynt a'r rhai y maent wedi'u cynllunio a'u cyflwyno;
2. Dadansoddi a gwerthuso effeithiolrwydd y strategaethau dysgu ac addysgu y maent wedi arsylwi arnynt ac wedi eu defnyddio ar draws amrywiaeth eang o anghenion dysgu;
3. Adnabod tystiolaeth briodol sy'r cadarnhau'r cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau) yn ystod eu Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon;
4. Monitro eu datblygiad proffesiynol parhaus trwy bwyso a mesur a gwerthuso eu profiadau eu hunain yn erbyn y Safonau Statws Athro Cymwysedig;
5. Adnabod blaenoriaethau datblygiad proffesiynol pellach (diffygion a/neu brofiadau ychwanegol) a'r camau i'w cymryd.
Cynnwys
Dros yr 11 wythnos (dros ddau semester) mae'r themau cynnwys yn gofyn i hyfforddeion fod a gwybodaeth a dealltwriaeth o:
1. Anghenion dysgu amrywiol disgyblion gan gynnwys arddulliau dysgu a ffactorau a all effeithio ar ddysgu disgyblion
2. Y nodweddion proffesiynol sydd eu hangen i ysgogi ac ysbrydoli'r disgyblion a sicrhau eu datblygiad deallusol a phersonol
3. Y fframwaith statudol sy'n ymwneud a chyfrifoldebau'r athrawon, gan gynnwys Amddiffyn Plant
4. Y gwerthoedd, yr amcanion a'r dibenion a'r gofynion dysgu cyffredinol a amlinellir yn y Cyflwyniad i'r Cwricwlwm Ysgol yng Nghymru
5. Eu cyfrifoldebau yn unol a Chod Ymarfer AAA Cymru
6. Gweithdrefnau a gofynion asesu
7. Defnyddio TGCh wrth ddysgu, paratoi ac yn eu swyddogaeth broffesiynol ehangach
8. Materion sy'n ymwneud a chynhwysiant cymdeithasol a chyfle cyfartal
9. Datblygiad cynaliadwy a dinasyddiaeth fyd-eang
10. Pwysigrwydd pwyso a mesur yn eu datblygiad proffesiynol parhaus
Disgrifiad cryno
Bydd y modiwl hwn yn bennaf yn ymdrin a swyddogaeth yr `athro adlewyrchol' yng nghyd-destun y datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd yn canolbwyntio ar geisio sicrhau bod myfyrwyr yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu datblygiad proffesiynol eu hunain. Bydd cwblhau'r PDP (aseiniad) yn galluogi myfyrwyr i adnabod yn well y dystiolaeth sy'r cadarnhau'u cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a'r blaenoriaethau o ran eu datblygiad proffesiynol, a bydd o gymorth iddynt gwblhau Adran A y Proffil Dechrau Gyrfa a fydd yn grynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal a'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Cyflwyno.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Drwy seminarau, bydd gofyn i fyfyrwyr rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chânt eu hannog i fynegi'u barn am faterion addysgiadol (ni chaiff hyn ei asesu). Bydd adolygu'u datblygiad proffesiynol yn agwedd allweddol ar y modiwl hwn a chaiff ei asesu. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Mae cryfderau a blaenoriaethau'r myfyrwyr ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi myfyrwyr i adnabod yn well y dystiolaeth sy'n cadarnhau'u cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a'r blaenoriaethau o ran eu datblygiad proffesiynol, a bydd o gymorth iddynt gwblhau Adran A y Proffil Dechrau Gyrfa a fydd yn grynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal â'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Cyflwyno. |
Datrys Problemau | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddatrys unrhyw ddiffygion o ran Safonau Statws Athro Cymwysedig, trwy adnabod y cynlluniau gweithredu a'r strategaethau priodol. |
Gwaith Tim | Trafodaethau grwp (seminarau) a thrwy waith prosiect grwp PSE. Mae'r olaf (PSE) yn gydran a asesir yn y portffolio ond ni chaiff y gwaith tîm ei hun ei asesu. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Wrth wraidd y Portffolio Datblygiad Proffesiynol y mae'r syniad o ddatblygu'r `ymarferwr adlewyrchol' lle mae hi bellach yn fanteisiol ac yn arfer da i athrawon adnabod pwysigrwydd ymwneud â phwyso a mesur eu harfer proffesiynol yn feirniadol. Mae un o ofynion y Portffolio Datblygiad Proffesiynol yn gofyn i'r myfyrwyr gyfiawnhau mewn modd beirniadol pa gynnydd sydd wedi cael ei wneud trwy gydol y cwrs o ran y Safonau Statws Athro Cymwysedig. |
Sgiliau ymchwil | Bydd gofyn i fyfyrwyr ddod â gwybodaeth ynghyd sy'n gysylltiedig â materion perthnasol mewn addysg uwchradd cyfredol a gwerthuso'r wybodaeth honno mewn modd beirniadol. |
Technoleg Gwybodaeth | Defnyddio'r We at ddibenion ymchwil yn ogystal â theipio aseiniadau. Datblygu hunanhyder wrth ddefnyddio TGCh yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gwersi. Bydd rhaid i fyfyrwyr werthuso mewn modd beirniadol eu defnydd o TGCh yn yr ysgolion a thynnu ar y sgiliau a ddatblygwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6