Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 1 awr 22 Awr (22 x 1 awr o ddarlithoedd MA10110 trwy gyfrwng y Saesneg). |
Seminarau / Tiwtorialau | 1 Awr 5 Awr (5 x 1 Awr o ddosbarthiadau tiwtorial). |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | Arholiad semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 80% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad ail-eistedd 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Asesiad Semester | 20% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. adnabod cyfeiriadau syml yn ddadansoddiadol a geometrig.
2. darganfod hafaliadau sythlinau a dwyranyddion onglog.
3. mesur hyd tangiadau i gylch ac adnabod a yw dau gylch yn iawn-onglog.
4. mesur hafaliadau systemau cylch cyfechelin.
5. adnabod y math o ffurf gonig o ddadansoddi ei hafaliad.
6. mesur hafaliadau tangiadau a sythlinau conigau.
7. defnyddio fectorau i ddatrys problemau elfennol mewn geometreg.
8. mynegi cyfesurynnau pwynt cyffredinol cromliniau arbennig yn barametrig.
9. mesur lluosymiau sgalar a fector o ddau fector.
10. mesur lluosymiau sgalar a fector triphlyg o dri fector.
11. mesur hafaliadau fector llinellau a phlanau.
12. mesur yr ongl rhwng dau blân a'r pellter byrraf rhwng pwynt a phlân.
13. datrys problemau elfennol mewn cinemateg.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno rhai o syniadau hanfodol geometreg - pwyntiau, llinellau, cromliniau, planau ac arwynebau - mewn dull dadansoddiadol, yn defnyddio iaith geometreg gyfesurynnol. Caiff conigau eu dosbarthu yn nhermau eu hafaliadau a nodweddion geometreg. Mae'r cysyniad o dangiad a sythlin hefyd yn cael ei ddatblygu.
Nod
I ddatblygu dealltwriaeth o geometreg a'r allu i ystyried problemau geometrig yn ddadansoddiadol, felly hefyd y ffordd arall.
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydGiordano, Frank R. (2005.) Thomas' calculus :based on the original work /by George B. Thomas Jr.; as revised by Maurice D. Weir, Joel Hass, Frank R. Giordano. 11th ed. Addison-Wesley Chwilio Primo Testun Ychwanegol Atodol
Stewart, James (2001.) Calculus :concepts and contexts /James Stewart. 2nd ed. Brooks/Cole Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4