Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Seminar 1 x 1 awr yr wythnos |
Darlithoedd | Darlith/Sesiwn wylio 1 x 3 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 60% |
Asesiad Semester | Arholiad 2 awr | 40% |
Asesiad Ailsefyll | Traethawd 2,500 (dewis o deitlau newydd) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Arholiad 2 awr | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Dangos dealltwriaeth o brif ddamcaniaethau ffilm a'r cyfryngau
2. Dadansoddi testunau cyfryngol gweledol yn feirniadol
3. Trafod testunau cyfryngol gweledol yn eu cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol ehangach
4. Ysgrifennu traethodau academaidd sy'n tystio i feddiant sgiliau beirniadaethol a dehongliadol
Nod
Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i'r sgiliau ac yn rhoi iddynt y seiliau academaidd sydd yn hanfodol ar gyfer astudio ffilm a chyfryngau ar lefel Prifysgol. Mae'n un o bedwar modiwl systematig a fydd yn gosod sylfaen gadarn i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf.
Disgrifiad cryno
Cyflwynir myfyrwyr i sylfaen astudiaeth academaidd o ffilm a chyfryngau gan gynnwys darlledu a chyfryngau digidol. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad i ddatblygiad ffilm a'r cyfryngau fel ffenomenonau diwylliannol a chymdeithasol. Cynllunir y modiwl er mwyn cynnig cyflwyniad clira thrylwyr i brif feysydd astudiaeth academaidd o ffilm a'r cyfryngau. Fe fydd y modiwl hwn yn trafod cysyniadau amrywiol trwy gynnig astudiaethau a gor-olwg hanesyddol o fewn cyd-destun diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol. Ymhlith y pynciau a astudir bydd y cysyniad o sinema genedlaethol, ffilm fel celfyddyd, ffilm fel naratif, hanes darlledu, panig moesol a genre.
Cynnwys
Darlith 2: Ffilmiau Naratif Hollywood
Darlith 3: Mudiadau Ffilm Ewropeaidd
Darlith 4: Theoriau Bazin ac Eisenstein
Darlith 5: Sinema Genedlaethol
Darlith 6: Prif ddamcaniaethau'r Cyfryngau
Darlith 7: Gwreiddiau Hanes a Cyfryngau
Darlith 8: Genre ar Waith: Newyddion, Opera Sebon, Rhaglenni Plant
Darlith 9: Panig Moesol: Achos Astudio
Darlith 10: Y Gynulleidfa Ddigidol
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Cyfrannu at drafodaethau seminar ar lafar mewn modd adeiladol a synhwyrol sy'n dangos dealltwriaeth o'r pwnc penodol dan sylw, meithrin y grefft o gyfathrebu barn a safbwynt yn ysgrifenedig mewn modd sy'n hygyrch i ddarllenwyr eraill. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol, ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol ym maes cyfathrebu effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Meithrin hyder yn eu gallu i drin a thrafod syniadau a theoriau sylfaenol a.u gallu i ddarllen a dehongli gwahanol gyfryngau celfyddydol. |
Datrys Problemau | Adnabod problemau wrth drafod pynciau, bod yn ymwybodol o gymhlethdodau wrth geisio ffurfio atebion. |
Gwaith Tim | Fe fydd disgwyl i fyfyrwyr weithio mewn grwpiau bychan yn y seminarau, ac i ddeall deinamig trafodaeth. Bydd disgwyl iddynt ddatblygu barn annibynol a derbyn, deall a pharchu barn unigolion a grwpiau eraill. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Datblygu ymwybyddiaeth o ddiddordeb a medrau personol ac ychwanegu at sgiliau sylfaenol ym maes cyfathrebu effeithlon ar lafar ac yn ysgrifenedig. Meithrin hyder yn eu gallu i drin a thrafod syniadau a theoriau sylfaenol a'u gallu i ddarllen a dehongli gwahanol gyfryngau celfyddydol. |
Rhifedd | N/A |
Sgiliau pwnc penodol | Meithrin ac arddangos y gallu i ddadansoddi, deall a chyflwyno dadleuon academaidd. |
Sgiliau ymchwil | Disgwylir i fyfyrwyr ddarllen ac ymchwilio i ystod eang o ffynonellau (llyfrau, cyfnodolion, y we) ar gyfer seminarau ac asesiadau. Disgwylir iddynt ddarparu tystiolaeth briodol o'r cyfryw waith ymchwil trwy gyfrwng llyfryddiaeth a throednodiadau lle bo hynny'n briodol. |
Technoleg Gwybodaeth | Er nad yw'n cael ei asesu yn ffurfiol, disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio'r We i ymchwilio, medru defnyddio pecynnau gair brosesu, ac i fod yn gyfarwydd a system e-bost y Brifysgol. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4